Eiddo’r Eglwys

Icon Cefnogi Eglwysi

Er ein bod ni fel Bedyddwyr yn credu mai’r bobl yw’r eglwys ac nid yr adeilad, mae’r rhan fwyaf o’n heglwysi yn gyfrifol am adeilad ac eiddo. Gall hynny gynnwys adeilad capel, festri neu neuadd yn ogystal â mynwent a llety preswyl fel Mans neu Dŷ Capel.

Fel arfer, ymddiriedolwyr eiddo sy’n dal yr eiddo ar ran yr eglwys.  Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfreithiol gyfrifol am weinyddu eiddo’r eglwys.  Ar hyn o bryd, mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn paratoi canllawiau ynghylch rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr eiddo a fydd ar gael i’w lawrlwytho o’r dudalen hon.

Yn y cyfamser, hoffem dynnu eich sylw at y pwyntiau pwysig isod y dylai swyddogion ac ymddiriedolwyr eu hystyried:

  • Ymddiriedolwyr: A oes gennych ddigon o Ymddiriedolwyr Eiddo? A yw eich ymddiriedolwyr yn ymwybodol o’u rolau a’u cyfrifoldebau ac yn eu cyflawni’n briodol.
  • Yswiriant: A yw eich eiddo wedi’i yswirio’n ddigonol gyda darparwr yswiriant addas?
  • Cynnal a Chadw ac Iechyd a Diogelwch: A yw eich eiddo’n cael ei gynnal a’i gadw’n ddigonol ac yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch?
  • Gweithredoedd Eiddo: Ydych chi’n gwybod lleoliad eich Gweithredoedd ac yn ymwybodol o’u cynnwys?

Os yw eich eglwys yn gyfrifol am eiddo preswyl fel Mans neu Dŷ Capel, gweler ein tudalen ar Eiddo Preswyl yr Eglwys.

Ymddiriedolwyr Eiddo’r Eglwys

Os nad yw Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru (CUBC) yn ymddiriedolwr ar eich eiddo, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi gael o leiaf ddau ymddiriedolwr eiddo. Fel mater o arfer da, awgrymwn y dylech geisio sicrhau bod o leiaf dri ymddiriedolwr eiddo gennych bob amser. Yn ddelfrydol, byddai nifer yr ymddiriedolwyr eiddo yn adlewyrchu maint aelodaeth eich eglwys. 

Mae’r UBC yn cydnabod bod yn fwyfwy anodd i eglwysi ddod o hyd i ymddiriedolwyr eiddo newydd. Fel Undeb rydym yn parhau i gefnogi ein heglwysi drwy gynnig gweithredu fel Ymddiriedolwr Eiddo ar ein heglwysi. Fel ymddiriedolwr corfforaethol, mae gan CUBC y gallu i gael ei benodi’n unig ymddiriedolwr neu’n gyd-ymddiriedolwr ynghyd ag ymddiriedolwyr eiddo lleol eraill o’r eglwys. Ar hyn o bryd, mae Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru yn gweithredu fel ymddiriedolwr eiddo dros gant o gapeli ledled Cymru.

Y mae penodiad CBUC yn ymddiriedolwr yn benodiad ar wahoddiad yr eglwys leol. Disgwylir i eglwysi sy’n dymuno penodi Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru yn ymddiriedolwr gyflwyno cais fydd yn ddarostyngedig i feini prawf cyfreithiol.  Os hoffech drafod ymddiriedolaeth neu os hoffech ystyried penodi Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru yn ymddiriedolwyr eiddo, cysylltwch â Dr Christian Williams (christian@ubc.cymru) neu Mrs Helen Wyn (helen@ubc.cymru)

Pryderu am eiddo eich eglwys? 

Ar adeg pan fo llawer o eglwysi’n ei chael hi’n anodd cynnal a chadw eu hadeiladau sy’n heneiddio, mae UBC yn awyddus i annog a chefnogi cynulleidfaoedd i ystyried pob opsiwn posibl ar gyfer yr eglwys a’i hadeiladau.

Os oes gennych unrhyw bryderon am eiddo eich eglwys neu os oes gennych gwestiynau am bynciau megis ymddiriedolaeth eiddo ayyb, mae croeso i chi gysylltu â ni.