Rhodd Cymorth

Icon Cefnogi Eglwysi

Mae Rhodd Cymorth yn gynllun gan Cyllid y Wlad sy’n galluogi elusennau i hawlio arian sy’n cyfateb i’r dreth sylfaenol y mae’r cyfrannydd yn ei dalu. Er bod Rhodd Cymorth yn golygu ychydig o waith gweinyddol ychwanegol, gall fod o fantais ariannol sylweddol i eglwysi. Ar hyn o bryd, gellir hawlio 25c am bob £1.00 y mae trethdalwr yn ei gyfrannu. 

Am fwy o wybodaeth ar sut i hawlio Rhodd Cymorth dilynwch y ddolen hon: Sut i hawlio Rhodd Cymorth

Yn ogystal â hawlio Rhodd Cymorth ar gyfraniadau a dderbyniwyd gan drethdalwyr unigol, gellir hefyd hawlio rhodd cymorth ar gasgliad rhydd o dan y cynllun cyfraniadau bychain. Dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth ar sut i hawlio Rhodd Cymorth ar gyfer cyfraniadau bach: Rhodd Cymorth – Cyfraniadau Bach