Grantiau Eraill

Icon Cefnogi Eglwysi

Os ydych yn ystyried gwneud gwaith atgyweirio neu adnewyddu adeilad yn eich eglwys neu gapel, efallai yr hoffech ystyried gwneud cais am gymorth ariannol.

Tra bod Undeb Bedyddwyr Cymru yn cynnig nifer o grantiau i gefnogi gweinidogaeth a chenhadaeth, ni allwn ddarparu grantiau ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud ag adeiladau. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gwneud cais am fenthyciad di-log o Gronfa Adeiladu Undeb Bedyddwyr Cymru. Gweler tudalen Cronfa Adeiladu Undeb Bedyddwyr Cymru ar y wefan hon am fwy o fanylion a ffurflen gais.

Fel Undeb, rydym yn awyddus i gefnogi ein heglwysi a byddem yn hapus i gyfarfod â chi i ystyried sut gall eich eglwys wneud y defnydd gorau o’i hadeilad a’i chyfleusterau.

Er nad ydym yn gallu cynnig grantiau ariannol, mae llawer o sefydliadau ariannu grantiau allanol sy’n cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i brosiectau adeiladau eglwysi. Gweler isod restr o gyrff ariannu grantiau y gwyddys eu bod wedi cefnogi Eglwysi UBC yn y blynyddoedd diwethaf.

Efallai hefyd y bydd Cyllido Cymru o gymorth i chi – y platfform newydd gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru i chwilio am arian. Dewch o hyd i gyllid i’ch eglwys, eich grŵp cymunedol neu’ch menter gymdeithasol gan ddefnyddio eu chwilotwr arlein am ddim.

Gallwch chwilio am gannoedd o gyfleoedd am arian grant ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O grantiau bychain i brosiectau cyfalaf mawrion gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i’r arian sydd ei angen arnoch.