
Dilynwch y dolenni isod i gael cyfarwyddiadau manwl ar sut i ddefnyddio Zoom.
Er gwybodaeth, nodwch y pwyntiau isod:
- Gosodwch y rhaglen ar eich dyfais a sicrhewch fod y sain, camera a meicroffon yn gweithio’n iawn.
- Os hoffech arbrofi cyn y cyfarfod, cliciwch ar y ‘ddolen cyfarfod’ a anfonwyd atoch.
- Os na fydd hynny’n gweithio y tro cyntaf, peidiwch â phoeni, ceisiwch eto neu gofynnwch am gymorth os gallwch.
I nifer ohonom bydd hwn yn brofiad newydd, ond ar ôl ei ddefnyddio ychydig o weithiau fe ddaw’n gyfarwydd!
- Sut i ddefnyddio Zoom gyda system Windows neu Mac
- Sut i ddefnyddio Zoom ar iPad neu iPhone
- Sut i ddefnyddio Zoom ar dabled neu ffôn Android
- Lawrlwythwch App Zoom ar gyfer Apple Ipad
- Zoom Fideo-Tiwtorial – Sut i ymuno â chyfarfod Zoom
Sut i ymuno â’r cyfarfod dros y ffôn
Os na allwch ymuno â’r cyfarfod am ryw reswm trwy ddefnyddio tabled neu gyfrifiadur, nodwch y gallwch ymuno â’r cyfarfod trwy ddeialu’r rhif ffôn yn eich ‘ebost gwahodd’ a nodi’r ‘meeting id’. Byddwch yn gallu ymuno â’r sgwrs gan ddefnyddio’ch ffôn. Sylwch y codir tâl ar alwadau ffôn ar eich cyfradd llinell dir arferol neu gellir eu cynnwys mewn unrhyw becyn munudau cynhwysol a allai fod gennych.
Deialwch unrhyw un o’r rhifau ffôn yn eich ‘ebost gwahodd’ a nodwch ‘meeting id’ pan ofynnir i chi ac yna’r botwm #
(Gwasgwch # eto os gofynnir am eich ID)
Am fwy o gymorth dilynwch y ddolen hon – Ymuno dros y ffôn