Y Gronfa Adeiladu

Icon Cefnogi Eglwysi

Sefydlwyd Cronfa Adeiladu Bedyddwyr Cymru yn 1862 a bu o gymorth mawr i nifer helaeth o eglwysi Bedyddiedig ers hynny. Yn 2020 fe’i cofrestrwyd fel elusen annibynnol gofrestredig (1191792).

Pwrpas yr elusen yn bennaf yw cynorthwyo Eglwysi Bedyddwyr Cymru trwy ddarparu benthyciadau (fel arfer ar ffurf benthyciad di-log) er mwyn adeiladu, ehangu, gwella neu adfer addoldai ac adeiladau eraill a berthyn, neu a ddefnyddir at ddibenion yr enwad ynghyd â dibenion elusennol eraill yr enwad.  

Pe baech yn dymuno trafod gwaith y Gronfa, cyflwyno rhodd, neu wneud cais ar gyfer benthyciad di-log, cysylltwch â Swyddfa UBC.

Gellir lawrlwytho Ffurflen Gais ar gyfer benthyciad oddi wrth y Gronfa Adeiladu isod: