Grantiau Gweinidogaethol

Icon Cefnogi Eglwysi

Nod Undeb Bedyddwyr Cymru yw cefnogi Cenhadaeth a Gweinidogaeth ar draws y Cymanfaoedd ac mae cyllideb gyfyngedig ar gael ar gyfer darparu grantiau i eglwysi sy’n aelodau.

  • Cynigir grantiau mewn partneriaeth.
  • Fel arfer, cynigir grantiau i Eglwysi lle mae cyfle i gychwyn ar gyfleoedd Cenhadaeth a / neu Weinidogaeth Newydd.
  • Yn gyffredinol, cynigir grantiau am gyfnod o 5 mlynedd a chynigir adolygiad yn y drydedd flwyddyn.
  • Bydd angen i geisiadau amlinellu natur genhadol yr Eglwys, y sefyllfa ariannol, a gweledigaeth glir ar gyfer Cenhadaeth a Gweinidogaeth yn y dyfodol.
  • Bydd angen cefnogaeth lawn y Gymanfa ar gyfer bob cais.

Mae enghreifftiau o grantiau gweinidogaethol diweddar yn cynnwys:

  • Ysgogydd Cenhadol rhan amser yng Nghymanfa Brycheiniog
  • Gweinidogaeth newydd yn y Trallwng  
  • Ysgogydd Cenhadol yng Nghymanfa Gorllewin Morgannwg
  • Ysgogydd Cenhadol yng Nghymanfa Môn
  • Gweinidogaeth mewn eglwys ddwyieithog yn Llanelli, Cymanfa Gorllewin Morgannwg
  • Gweinidogaeth yn Noc Penfro, Cymanfa Penfro
  • Gweinidogaeth Caplaniaeth Chwaraeon yng Nghymru

Sut i wneud cais am Grant Gweinidogaethol?

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’ch Arolygwr Cymanfa a fydd yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio ac yn darparu pecyn cais.