Eiddo Preswyl

Icon Cefnogi Eglwysi

Mae gan nifer o Eglwysi UBC eiddo sydd ar wahân i adeiladau’r capel a’r festri – adeiladau fel Tŷ Capel neu Fans. Gall yr adeiladau yma fod yn werthfawr iawn yn rhoi cartref i Weinidogion, unigolion a theuluoedd ac yn aml fe fyddan nhw’n rhan o’r telerau gwaith a drefnir rhwng yr Eglwys a’r gweithiwr. Yn naturiol felly, mae cyfrifoldeb yn disgyn ar swyddogion yr Eglwys i drefnu fod rhywun yn cymryd y cyfrifoldeb o sicrhau fod yr adeilad sydd ar rent yn ddiogel ac o safon dderbyniol ar gyfer y sawl sy’n byw ynddo. Mae hyn yn golygu fod angen cofrestru ar gyfer Tystysgrif Landlord.

Er mwyn sicrhau fod pob perchennog a thenant yn cael eu gwarchod mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gwasanaeth sy’n rhoi cyngor ac yn gosod canllawiau a rheolau i’w dilyn.

Os yw Eglwys yn derbyn rhent fel taliad am gael byw mewn adeilad yn eu perchnogaeth, yna mae’n rhaid cofrestru fel Landlord. “Rhentu Doeth Cymru” neu “Rentsmart Wales” yw’r adran sydd yn rheoli’r gwasanaeth ac mae’n gweithredu er mwyn cydymffurfio gyda’r ddeddf Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat. Mae Rhentu Doeth Cymru yn cynorthwyo’r rhai sy’n gosod neu’n rheoli eiddo rhent yng Nghymru ac yn rhoi cyngor ar rentu cartrefi diogel ac iach. Mae hefyd yn prosesu cofrestriadau landlordiaid, yn rhoi trwyddedau ac yn darparu hyfforddiant ar gyfer landlordiaid.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw bryderon pellach am eiddo preswyl eich eglwys, mae croeso i chi gysylltu â ni yn post@ubc.cymru