Statws Elusennol

Icon Cefnogi Eglwysi

Mae eglwys Bedyddwyr yn elusen unigol yn ei rhinwedd ei hun oherwydd ei nodau ac amcanion. Mae hyrwyddo crefydd yn un o’r amcanion sy’n gwneud sefydliad neu weithgaredd yn elusennol.

Er bod rhai o eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru yn elusennau corfforedig a chofrestredig, mae mwyafrif ein heglwysi yn anghorfforedig ac yn anghofrestredig. Er nad yw eich eglwys, o bosibl, wedi’i chofrestru, mae’n bwysig nodi ei bod yn parhau i fod yn elusen yn ei rhinwedd ei hun, a bod rheidrwydd cyfreithiol arni, felly, i gydymffurfio â rheolau a rheoliadau Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr.

I gael rhagor o wybodaeth am y Comisiwn Elusennau, ewch i wefan y Comisiwn Elusennau

Eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru sydd ag incwm blynyddol o £5,000 neu lai

Os yw eich incwm blynyddol yn llai na £5,000 y flwyddyn, nid oes angen i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau.

Eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru sydd ag incwm blynyddol rhwng £5,000 a £100,000

Fel rheol, mae’n ofynnol i eglwysi sydd ag incwm blynyddol o £5,000 neu fwy gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau.

Fodd bynnag, mae eglwysi sydd ag aelodaeth mewn enwadau penodol, megis Undeb Bedyddwyr Cymru, ac sydd ag incwm blynyddol o £100,000 neu lai, yn meddu ar statws elusennol a eithrir.

O fod yn aelod o Undeb Bedyddwyr Cymru, mae hyn yn golygu bod yr eglwys yn cael ei ‘heithrio’ rhag cofrestru yn elusen, ac nid oes angen iddi gofrestru na chyflwyno ffurflenni treth blynyddol.

Fodd bynnag, er nad oes angen i’r eglwys gofrestru, mae’n parhau i fod yn elusen ac, o’r herwydd, mae’n ddarostyngedig i reolau a rheoliadau’r Comisiwn Elusennau.

Nodwch fod y rheoliadau eithrio i fod wedi dod i ben ym mis Mawrth 2021, ond cawsant eu hestyn am ddeng mlynedd arall.

Eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru sydd ag incwm o dros £100,000 y flwyddyn

Mae’n ofynnol i eglwysi sydd ag incwm blynyddol o dros £100,000 gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. 

Elfen allweddol o gofrestru yn elusen yw paratoi dogfen lywodraethol gyfoes a chynhwysfawr – h.y. cyfansoddiad eglwysig. Nodwch nad oes gan Undeb Bedyddwyr Cymru ddogfen lywodraethol gymeradwy ar gyfer Eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru. Fodd bynnag, mae gan Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr gyfansoddiad cymeradwy y gellir dod o hyd iddo yn

Un o’r ffyrdd symlaf a mwyaf cost effeithiol i eglwys gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau yw trwy ddod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO).

Mae’r strwythur cyfreithiol newydd hwn, a gyflwynwyd yn 2013, yn darparu modd i elusennau ymgorffori ac elwa ar y buddion sydd ar gael ar hyn o bryd i gwmnïau, a hynny heb y baich o gael eu rheoleiddio gan y naill a’r llall o’r Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau. 

Gellir gweld Cyfansoddiad Sefydliad Corfforedig Elusennol enghreifftiol ar gyfer Eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru, ynghyd â nodiadau esboniadol, ar dudalen Sefydliadau Corfforedig Elusennol Undeb Bedyddwyr Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch statws elusennol neu ddod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol, cysylltwch â Dr Christian Williams: christian@ubc.cymru