Y Gyllideb Gyfan

Icon Cefnogi Eglwysi

Cwestiynau Cyffredinol am y Gyllideb Gyfan

Y Gyllideb Gyfan 2021:  £17-50 yr aelod

1.Beth yw’r berthynas rhwng y gyllideb gyfan ac aelodaeth yr eglwys? 

Mae’r Gyllideb Gyfan yn cael ei chyfrifo ar sail rhif aelodaeth yr eglwys fel y mae’n ymddangos yn Llawlyfr Cyfredol yr Undeb. Mae rhif yr aelodaeth yn seiliedig ar yr ystadegau sy’n cael eu casglu’n flynyddol gan y Cymanfaoedd er sicrhau bod pob eglwys yn talu ei chyfran unigol tuag at y gyllideb.  Mae’r Pwyllgor Cyllid, sy’n gyfansoddedig o gynrychiolwyr y Cymanfaoedd, yn gyfrifol am gymeradwyo’r swm a gytunir yn y Cyfarfodydd Blynyddol.  Gan fod y gyllideb gyfan wedi’i seilio ar bob aelod unigol, mae hynny’n golygu y bydd yr aelodaeth gyfan yn perchnogi’r gwaith ac yn cyfrannu at ei lwyddiant. 

2.Beth yw diben y Gyllideb Gyfan? 

Mae’r Gyllideb Gyfan yn gyfraniad bychan pan ystyrir y buddion a ddarperir er mwyn  sicrhau tystiolaeth effeithiol a hwyluso gweinidogaeth i’n heglwysi. Mae rhai o’r buddion penodol yn cynnwys:  

  1. Grantiau Gweinidogaethol: Mae £2 o bob cyfraniad yn mynd yn uniongyrchol tuag at Gronfa’r Weinidogaeth sy’n darparu grantiau gweinidogaethol a chenhadol i’n heglwysi, yn ogystal â chyfrannu er enghraifft tuag at gyflogi gweithwyr plant ac ieuenctid, galluogwyr cenhadol a’r sawl sy’n dechrau ar weinidogaethau arloesol. Ni fyddai’r eglwysi hyn yn medru cynnal gweinidogaeth oni bai am y cymorth hwn.
  2. Achrediaeth Gweinidogion: Fel Undeb, rydym yn achredu Gweinidogion er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hyfforddi, eu cynnal a’u cymhwyso ar gyfer y weinidogaeth.  Mae hyn yn golygu gweithio gyda’r Colegau er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant cychwynnol yn briodol ar gyfer ein cyd-destun yng Nghymru yn ogystal â datblygiad parhaol ein gweinidogion. Cyflwynir cynllun sabothol sy’n galluogi ein gweinidogion i gael cyfnod o astudiaeth, datblygiad personol neu adnewyddiad ac maent yn medru hawlio i fyny at £500 tuag at eu costau. Mae Cydlynydd y Weinidogaeth hefyd yn datblygu cyfleoedd pellach ar gyfer hyfforddiant gweinidogaethol. Y llynedd cynhaliwyd cyfarfodydd ar gyfer ein gweinidogion dros Zoom pob pythefnos fel cyfrwng i gefnogi’n gilydd.
  3. Mentrau Cenhadol: Roedd y rhaglen Tîm i Gymru a’r Cynllun Interniaeth ar gyfer pobl ifainc yn enghreifftiau da o’r modd y gallwn fuddsoddi ym mywydau arweinwyr y dyfodol sy’n mynd i wneud gwahaniaeth yma yng Nghymru. Mae grantiau cenhadol ar gael sydd yn darparu cymorth i eglwysi sydd am gychwyn prosiectau cenhadol y tu allan i waith yr eglwys leol, ynghyd â grantiau Genesis. Hyfrydwch oedd croesawu gweithwyr cenhadol o dramor i weinidogaethu yn ein heglwysi drwy gynllun y Swyddfa Fisâu a Mewnfudo y DU. Edrychwn ymlaen at groesawu erailll sydd yn awyddus i ddod i Gymru pan fydd sefyllfa’r pandemig wedi gwella. Y llynedd dechreuodd cyrsiau hyfforddiant cenhadol ‘Ethos’ a ‘Darganfod’ o dan arweiniad Cameron Roxburgh dros gyfrwng Zoom a chafwyd ymateb da gan yr Eglwysi.
  4. Grantiau Myfyrwyr:  Mae canran o’r Gyllideb Gyfan yn mynd yn uniongyrchol tuag at grantiau ar gyfer ein myfyrwyr gweinidogaethol sy’n fuddsoddiad ar gyfer gweinidogaeth y dyfodol.    
  5. Diogelwch: Mae’r Gyllideb Gyfan yn cyfrannu tuag at gost y Panel Diogelwch Cydenwadol sydd yn gwasanaethu’r eglwysi drwy hwyluso, a hynny’n unol â’r gofynion cyfreithiol, gwiriadau Datgelu a Gwahardd yn ogystal â hyfforddiant a chyngor arbenigol mewn perthynas â gweinidogaethu ymhlith plant a phobl fregus. Mae’r Panel hefyd yn sicrhau bod gennym bolisïau effeithiol, yn ogystal â phrosesau a mesurau priodol. Y gost flynyddol o ddarparu’r gwasanaeth i’r Undeb (ac i’r enwadau eraill) yw £24,500.

3.Buddion Pellach  

Mae’r Gyllideb Gyfan yn sicrhau aelodaeth o’r Undeb ac mae’r staff ar gael felly i ddarparu cyngor ac arweiniad mewn perthynas ag ystod eang o faterion. Mae Cydlynydd y Gorfforaeth yn derbyn ymholiadau yn ddyddiol mewn perthynas â’r adeiladau, mynwentydd a gweithredoedd, ynghyd â materion eraill sy’n cynnwys ffynonellau grantiau. Rydym hefyd yn gweinyddu’r Gronfa Adeiladu sydd yn darparu benthyciadau di-log ar gyfer cyfnodau penodedig i eglwysi sydd yn dymuno cyflawni gwelliannau neu adnewyddiadau. Mae pob eglwys yn derbyn copïau o’r Negesydd sydd yn cynnwys newyddion am eglwysi UBC, a hynny yn gyfrwng anogaeth i’n hatgoffa ein bod yn perthyn i deulu o eglwysi. Mae Pwyllgor yr Eglwys a Chyfrifoldeb Cymdeithasol yn gweithredu ar ran yr Undeb mewn perthynas â hawliau dynol a materion cyfiawnder. Eleni mae Seren Cymru ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan yr Undeb.   

Budd pwysig arall o fod mewn aelodaeth o’r Undeb yw ein perthynas â’r Comisiwn Elusennau. Mae eglwysi sydd ag incwm o dan £100,000 yn cael eu hystyried fel elusennau wedi’u heithrio ac nid oes angen iddynt gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau os ydynt mewn perthynas ffurfiol gydag enwad cydnabyddiedig fel Undeb Bedyddwyr Cymru. Fe fydd hyn yn newid yn ystod y blynyddoedd nesaf ac rydym wrthi yn hwyluso arweiniad a chyngor ar ran ein heglwysi er mwyn iddynt gydymffurfio â’r gofynion newydd. Ond ar hyn o bryd os yw eich incwm fel eglwys o dan £100,000 nid oes angen i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau os ydych yn aelod o’r Undeb.

4.Oes yna unrhyw fuddion eraill? 

Rydym yn aelodau o Gynghrair Bedyddwyr y Byd, Ffederasiwn Ewropeaidd y Bedyddwyr a Cytûn. Mae’n haelodaeth o’r cyrff yma yn golygu ein bod yn cefnogi ein brodyr a’n chwiorydd bedyddiedig ar draws y byd, ond hefyd ein bod yn cydweithio fel eglwysi yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â materion o gonsyrn ar lefel cenedlaethol.   

Rydym yn cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod heriol ac anodd wrth inni geisio hyrwyddo’r efengyl yng Nghymru. Mae aelodaeth o UBC yn golygu nad oes angen i’r un eglwys wynebu’r dyfodol  ar ei phen ei hun heb gymorth, arweiniad ac anogaeth. Mae’r Undeb ar gael i gynorthwyo pob eglwys, boed yn fawr neu fach, ac mae’n awyddus i fod yn rhan o’r daith i ledaenu’r Efengyl Gristnogol. 

5.A yw’r Gyllideb Gyfan yn cyfarfod â holl gostau’r Undeb?

Yn anffodus, nid yw!Er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys mae’n rhaid mynd at yr arian sydd gennym wrth gefn bob blwyddyn.  Gwir gost aelodaeth yr Undeb yw tua £42 y pen. Mae’r Undeb felly yn sybsideiddio tua 50% o wir gost yr aelodaeth. Tra gallwn dynnu ar yr arian sydd gennym wrth gefn ar hyn o bryd ni all hyn barhau gan na fydd arian gennym ar ôl ymhen pum mlynedd. Mae’r Gyllideb Gyfan felly yn hanfodol i ddyfodol gwaith UBC. 

6.A fydd yna godiadau pellach yn y dyfodol?

Rydym yn ymwybodol ein bod yn disgwyl i’n haelodaeth ariannu’r diffyg ac rydym yn parhau i chwilio am ffynonellau newydd o gyllid er mwyn ceisio lleihau’r swm a dynnir o’r arian sydd wrth gefn. Yn ogystal, mae’r Pwyllgor Cyllid yn archwilio ein gwariant ar gyfer arbediadau a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian.

7.A oes gennych unrhyw gwestiynau pellach? 

Mawr obeithir y bydd yr wybodaeth ar y daflen hon yn ateb rhai o’ch cwestiynau ac yn taflu golau ar y Gyllideb Gyfan, ynghyd â’r heriau a wynebwn, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol neu’r Swyddog Cyllid.