Ar 25ain Mai 2018 daeth Rheoliadau Diogelu Data Newydd (GDPR) i rym ar draws Ewrop. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn cynnal ac yn gorfodi hawliau’r unigolyn o ran ei wybodaeth bersonol. Mae gan bob sefydliad, gan gynnwys eglwysi, rwymedigaeth gyfreithiol i gydymffurfio â hi.
Y mae gofynion y ddeddf hon yn golygu y bydd rhaid i eglwysi a chapeli ystyried y modd y maent yn cadw a defnyddio gwybodaeth bersonol ac ymateb yn briodol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â‘r rheoliadau newydd.
I geisio cynorthwyo’r eglwysi, mae Undeb Bedyddwyr Cymru wedi paratoi Pecyn Canllawiau sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod. Mae’r canllaw hwn yn rhoi ychydig o wybodaeth gyffredinol i chi am y GDPR, ynghyd â’r hyn y mae angen i’ch eglwys ei wneud i gydymffurfio ag ef. Rydym hefyd wedi cynnwys nifer o ddogfennau templed, y gall eich eglwys fynd ati i’w haddasu a’u mabwysiadu. Fodd bynnag, cofiwch mai cyfrifoldeb pob eglwys unigol yw cydgysylltu ei hymateb ei hun a sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.
Os ydych am dderbyn copi papur o’r ddogfen cysylltwch â’r Swyddfa.
Lawrlwythwch eich pecyn isod:
Ffurflenni Ychwanegol
Ar gais ein heglwysi, mae UBC hefyd wedi creu’r Ffurflen Caniatâd Cyhoeddi Data isod. Gellir defnyddio hon i gael caniatâd i gyhoeddi manylion unigolion mewn llawlyfr neu adroddiad yr eglwys.