Covid-19 Yswiriant Capeli ac Adeiladau

Icon Cefnogi Eglwysi

Diweddariad: Ebrill 2020

Mae’n amlwg i bawb erbyn hyn ein bod yn byw mewn cyfnod hynod anghyffredin a gofidus. Nid yw’n bosibl cynnal y Gwasanaethau a’r gweithgareddau arferol yn yr Eglwysi ond mae’n galonogol gweld sut mae aelodau’n goresgyn hyn trwy ddefnyddio dulliau amgen o gyrraedd ei gilydd a’r gymuned.

Yn ychwanegol at hyn mae angen cadw gofal o’r adeiladau nad sydd bellach yn cael eu defnyddio. Mae’r Cwmnïau Yswiriant wedi cyhoeddi gwybodaeth benodol ar gyfer yr amgylchiadau presennol ac fe ddylid gweithredu yn unol â’r cyfarwyddiadau.

 Os ydych wedi yswirio gyda chwmni Ecclesiastical mae gwybodaeth ar gael ar y wefan ganlynol: https://www.ecclesiastical.com/risk-management/managing-risk-covid-19

Noder fod gwahaniaeth rhwng adeiladau “gwag dros dro” (temporarily closed) ac adeiladau “gwag” (unoccupied) a bydd y Cwmni’n parhau i warchod yr adeiladau ar yr un telerau â chynt.

Os ydych yn cadw golwg ar “adeilad gwag” ac yn ymweld â’r safle’n wythnosol, mae’r Cwmni’n cydnabod nad oes posibl gwneud hynny o ystyried y cyfyngiadau presennol ar symudiadau unigolion. Bydd yr yswiriant yn parhau’n ddilys hyd yn oed os nad oes modd cynnal yr ymweliadau wythnosol.

Dylid tynnu sylw at y ffaith ei bod yn bwysig ceisio sicrhau nad oes unrhyw fygythiad i’r safle o ran perygl trydan, nwy, dŵr a thân. Os bydd unrhyw ddifrod neu arwydd o dorri mewn i’r safle yn digwydd yna mae’n angenrheidiol i chi roi gwybod i’r Cwmni.

 Os ydych wedi yswirio’ch eiddo gyda chwmni arall, cysylltwch gyda’r cwmni hwnnw a gofynnwch am y cyfarwyddiadau diweddaraf.