Covid-19 Canllawiau Ailagor Addoldai

Icon Cefnogi Eglwysi

Diweddariad 8 Mawrth 2022

Gweler isod y canllawiau ar gyfer ailagor ein capeli yn seiliedig ar gyngor Llywodraeth Cymru. Mawr obeithir y bydd y canllawiau o gymorth i chi:

  • Cyn eich bod yn penderfynu agor y capel bydd yn hanfodol eich bod fel Ymddiriedolwyr  a Diaconiaid yn cynnal asesiad risg trwyadl.
  • Ar ddiwedd y ddogfen ceir dwy esiampl o dempledi y gellir eu defnyddio a’u haddasu at eich dibenion eich hunain.
  • Gweler isod enghreifftiau o bosteri ac arwyddion y gellid eu hargraffu a’u gosod yn y capel er mwyn sicrhau cadw pellter cymdeithasol a gweithredu mesurau amddiffynnol.

Fodd bynnag, dylech nodi fod Cymru wedi dychwelyd i Lefel Rhybudd Sero o’r 28ain Chwefror 2022. Golyga hyn fod y rhwystrau cyfreithiol ar weithgaredd eglwysi a chapeli yng Nghymru bellach wedi eu diddymu ar y cyfan; ond mae canllawiau yn dal mewn grym. Mae amlinelliad cyflawn o’r rheiny ar gael yma: COVID 19 – Papur Briffio – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru | Churches Together in Wales (cytun.co.uk)

Nodwch nad oes rheidrwydd cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau gan gynnwys addoldai a chanolfannau cymunedol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio i’r pwrpasau hyn, ond mae Llywodraeth Cymru o hyd yn argymell gwneud hynny. Lle bo asesiad risg (gweler isod) yn dod i’r casgliad y dylid gwisgo gorchuddion wyneb yn ystod gweithgarwch (er enghraifft, wrth ganu), gall addoldy neu ganolfan barhau i orfodi hynny.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn mewn perthynas â’r canllawiau peidiwch ag oedi cyn dod i gysylltiad.

Yn ogsytal a’r canllawiau uchod, dylech hefyd fynd i wefan y Llywodraeth: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ailagor-mannau-addoli-coronafeirws-html

Dogfennau ac Arwyddion Defnyddiol