Covid-19 Cyfarwyddiadau i Landlordiaid a Thenantiaid

Icon Cefnogi Eglwysi

Mae pawb yn sylweddoli erbyn hyn ein bod yn byw mewn cyfnod anarferol yn llawn newidiadau ac ansicrwydd. Wrth ymateb i’r achosion o Coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi amrywiaeth o fesurau i gefnogi Landlordiaid a Thenantiaid er mwyn eu cynorthwyo i wynebu heriau’r sefyllfa.

Isod gwelir rhai dyfyniadau o’r wybodaeth sydd ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n amlinellu’r newidiadau a’r cyfarwyddiadau ar gyfer Landlordiaid a Thenantiaid y dylid eu nodi.

Mae gwybodaeth pellach ar gael ar: https://llyw.cymru/tai-coronafeirws

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â Helen Wyn ar helenwyn@ubc.cymru

Canllawiau i Landlordiaid

Newid mewn deddfwriaeth: troi tenantiaid allan o’u cartrefi

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau glas i gefnogi pobl sy’n rhentu yng Nghymru. Bydd Bil Covid Llywodraeth y DU yn darparu diogelwch ychwanegol i denantiaid drwy ymestyn y cyfnod rhybudd a roddir iddynt cyn y gellir eu troi allan i dri mis. Bydd y mesurau hyn yn dod i rym yng Nghymru hefyd.

Bydd y ddarpariaeth yn diogelu tenantiaid yng Nghymru rhag cael eu troi allan am gyfnod rhesymol a phenodedig, i gydnabod yr ansicrwydd sy’n deillio o bandemig y coronafeirws. Bydd y mesurau hyn yn gohirio pryd y caiff landlord ddechrau achos llys i geisio ailfeddiannu ei eiddo, drwy ei gwneud yn ofynnol iddo roi rhybudd o dri mis i’w denantiaid o’i fwriad i’w ailfeddiannu.

Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i denantiaethau diogel, sicr, byrddaliadol sicr, rhagarweiniol ac isradd, ynghyd â thenantiaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o denantiaid, felly, yn y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol.

Newid y sefyllfa dros dro yw nod y mesurau hyn, er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i denantiaid yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r ddarpariaeth yn cynnig, felly, y dylai’r mesurau fod yn weithredol am chwe mis, tan 30 Medi eleni.

Er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i barhau i ymateb yn gyflym, mae pwerau wedi’u cynnwys i ymestyn, drwy is-ddeddfwriaeth, y cyfnod rhybudd i hyd at chwe mis ac i ymestyn y cyfnod y bydd yn berthnasol.

eiddo yn drylwyr yn unol â’r canllawiau a nodir yma.

Ymweld ag eiddo

Dylid gohirio unrhyw ymweliadau ag eiddo nad oes brys amdanynt – mae hyn yn cynnwys dangos yr eiddo i denantiaid newydd neu brynwr a gwaith atgyweirio a/neu gynnal a chadw nad oes brys amdano. Os bydd angen mynediad ar frys i’r eiddo, os bydd rhaid ichi ymweld ag eiddo a/neu fod rhaid i rywun ymweld â’r eiddo ar eich rhan, rydym yn argymell y dylech gysylltu â’r tenant er mwyn cael gwybod p’un a yw’n hunanynysu a dilyn y cyngor meddygol a roddwyd.

Mae’r cyngor cyfredol o ran diogelwch nwy i aseswyr a landlordiaid/asiantiaid i’w weld ar wefan Gas Safe Register.

O 1 Ebrill 2020, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn berthnasol i’r tenantiaethau sydd eisoes yn bodoli. Lle bydd unrhyw eiddo rhent domestig yn syrthio’n brin o’r gofynion, ystyrir bod y landlord yn torri’r gyfraith a gallai gael cosb sifil o hyd at £5000.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i sicrhau bod y goblygiadau penodol i landlordiaid yn y sector preifat yng Nghymru yn cael eu hystyried, gan y gallent ei chael yn anodd cyflawni’r gofynion hyn oherwydd effaith COVID-19. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y bydd ar gael.

Gweler y cyhoeddiadau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch diogelu eich hunain ac eraill.

Cefnogi eich tenantiaid

Bydd Bil Covid Llywodraeth y DU yn darparu diogelwch ychwanegol i denantiaid drwy ymestyn y cyfnod rhybudd a roddir iddynt cyn y gellir eu troi allan i dri mis. Bydd y mesurau hyn yn dod i rym yng Nghymru hefyd.

Bydd y ddarpariaeth yn diogelu tenantiaid yng Nghymru rhag cael eu troi allan am gyfnod rhesymol a phenodedig, i gydnabod yr ansicrwydd sy’n deillio o bandemig y coronafeirws. Bydd y mesurau hyn yn gohirio pryd y caiff landlord ddechrau achos llys i geisio ailfeddiannu ei eiddo, drwy ei gwneud yn ofynnol iddo roi rhybudd o dri mis i’w denantiaid o’i fwriad i’w ailfeddiannu.

Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i denantiaethau diogel, sicr, byrddaliadol sicr, rhagarweiniol ac isradd, ynghyd â thenantiaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o denantiaid, felly, yn y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol.

Newid y sefyllfa dros dro yw nod y mesurau hyn, er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i denantiaid yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r ddarpariaeth yn cynnig, felly, y dylai’r mesurau fod yn weithredol am chwe mis, tan 30 Medi eleni.

Er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i barhau i ymateb yn gyflym, mae pwerau wedi’u cynnwys i ymestyn, drwy is-ddeddfwriaeth, y cyfnod rhybudd i hyd at chwe mis ac i ymestyn y cyfnod y bydd yn berthnasol.

Os ydych yn wynebu anawsterau ariannol o ran eich taliadau morgais yn sgil COVID-19, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i seibiant talu morgais am 3 mis. Mae hyn yn berthnasol hefyd i landlordiaid lle mae tenantiaid yn wynebu anawsterau ariannol yn sgil COVID-19.

Gellir cynnig hyn i gwsmeriaid sydd wedi gwneud eu taliadau i gyd hyd yn hyn ac nad oes ganddynt eisoes ôl-ddyledion. Os ydych yn poeni am eich sefyllfa ariannol ar hyn o bryd, cysylltwch â’ch benthycwr cyn gynted â phosibl i drafod p’un a yw hyn yn opsiwn addas i chi. Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yma.

Cofiwch y gallai incwm eich tenant(iaid) fod wedi lleihau o ganlyniad uniongyrchol i hunanynysu a chyngor Llywodraeth y DU yn sgil y pandemig. Os yw eich tenant(iaid) yn ei chael yn anodd talu’r rhent, cyfathrebwch â nhw a dewch i drefniant fel eu bod yn gallu ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion cyn gynted â phosibl.

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi nodi’n glir ei bod yn disgwyl i landlordiaid basio budd unrhyw seibiant talu morgais ymlaen i’w tenantiaid.

Mae nifer o fesurau brys wedi’u sefydlu i sicrhau na fydd cyfleustodau tenantiaid bregus yn cael eu hatal yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhagor o wybodaeth yma:  Government agrees measures with energy industry to support vulnerable people through COVID-19.