Yr Wyddor: R

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

Richards – Eurof (1938 – 2015)

Ddiwedd mis Mai, bu farw’r Parchg Eurof Richards, gweinidog Penuel, Casllwchwr. Trydydd plentyn aelwyd John Glyn ac Abigail Richards oedd Eurof Richards, ac roeddent fel teulu yn addoli yng nghapel Calfara, Penygroes. Bu farw ei chwaer Margaret o’i flaen, a gadawyd ei frawd Glyn i rannu yng ngalar y teulu.

Darllen mwy »

Richards – D. Eilir (1927-2015)

Ganed Eilir y 7fed o Fehefin, 1927, yn Abercych, yn olaf o ddeg o blant i’r diweddar Gwilym a Martha Richards.  Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol y pentref ac Aberteifi.  Wedi rhai blynyddoedd o weithio yn siop ddillad dynion, Watts y Drapers, Aberteifi, a phregethu gylch y lle, penderfynodd ddilyn cwrs i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Tystiai’n aml i’w brofiadau yn Wattsei gymhwyso i ymdrin â phobl.

Darllen mwy »

Roberts – David (1793 – 1872)

Gallaf olrhain cysylltiad fy nheulu ag Enwad y Bedyddwyr nôl i 1793.

Dyna flwyddyn geni taid fy nhaid, David Roberts, yn Hendre Bach, Llanuwchllyn.

Yn ol, Edward Edwards, diacon gyda’r Methodistiaid yn y cyfnod aeth David Roberts yn fachgen ifanc yn brentis crudd at ŵr a oedd yn aelod brwd o enwad yr Annibynnwyr yn Llanuwchllyn – Ellis Roderick.

Darllen mwy »

Roberts – Robert Parri (1882 – 1968)

Un o’r llyfrau mwyaf darllenadwy o blith cofiannau gweinidogion Cymru yw’r un a olygwyd gan y Parchg Idwal Wyn Jones, ‘Ffarwel i’r Brenin’ (Gwasg Ty ar y Graig, 1972). Ynddo eglura’r golygydd fod gwrthrych y cofiant wedi camgymryd beth oedd dyddiad ei eni, a bod ymchwil wedi profi i Robert…

Darllen mwy »

Richards – R. Wynne (1917 – 1976)

 
Un o blant Blaenau. Ffestiniog oedd y Parchg R. Wynne Richards, a fu’n weinidog gydol ei yrfa eglwysig ym Mhen-maen-mawr a Llanfairfechan.  Ganwyd ef yn Mehefin 1917 ac yn dilyn addysg elfennol yn y dref, cafodd waith yn y chwarel leol.  Yno cyfarfu un a brofodd wres y diwygiad…

Darllen mwy »

Roberts – Richard Gruffydd (1922-2006)

Teyrnged Mab yn y Ffydd
Yr Athro D Densil Morgan
Chwe mlwydd oeddwn i pan ddaeth pregethwr newydd i fod yn weinidog ar ein capel ni yn Nhreforus. Un o’r Gogledd ydoedd, o Ynys Môn, er o Goelbren a Nant-y-ffin ym mhen uchaf Cwm Tawe y daeth ef atom. Gŵr…

Darllen mwy »

Roberts – Edward (1886-1985)

Mab i David a Jane Roberts (Davies gynt) oedd Edward Roberts a anwyd yn Llanelli, 20 Mawrth, 1886. Roedd yn un o naw o blant, a chanddo bedwar brawd (John, Thomas, William a Henry) a phedair chwaer (Ann, Mary, Elizabeth-Jane a Gertrude). Aelodau yn Seion, Llanelli, oedd ei rieni lle…

Darllen mwy »

Rowland Jones – John (1903-1978)

Un o blant pentref y Bynea oedd John Rowland Jones a anwyd ar Ebrill 23, 1903.  Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd y Bynea, cyn symud i ysgolion yn Rhydaman a Chaerfyrddin. Bu yng ngholegau  Prifysgol Cymru yn Abertawe a Bangor.  Addolai y teulu yn y Tabernacl, Llwynhendy, lle roedd…

Darllen mwy »

Rowlands – W. H. (1913 – 1986)

 
Cafodd William Humphreys (W.H.) Rowlands ael ei eni yn Wandsworth, Llundain ar 6 Mehefin 1913 lle roedd ei rieni fel llawer o Geredigion yn ymwneud â busnes llaeth.Collodd ei dad yn y Rhyfel Byd Cyntaf pan oedd yn bedair oed a dychwelodd ef, ei chwaer, Jean, gyda’u mam yn…

Darllen mwy »