Richards – R. Wynne (1917 – 1976)

 

Un o blant Blaenau. Ffestiniog oedd y Parchg R. Wynne Richards, a fu’n weinidog gydol ei yrfa eglwysig ym Mhen-maen-mawr a Llanfairfechan.  Ganwyd ef yn Mehefin 1917 ac yn dilyn addysg elfennol yn y dref, cafodd waith yn y chwarel leol.  Yno cyfarfu un a brofodd wres y diwygiad (1904-5).  Wedyn daeth Wynne o dan ddylanwad y Parchg Gwyn Jones, gweinidog Methodistaidd lleol.  Ymunodd â’r fyddin ar gyfer yr Ail Ryfel Byd, a phan dychwelodd o’r gyflafan honno i Flaenau Ffestiniog,  ymaelododd yng  Nghalfaria, Blaenau Ffestinio o dan arweiniad y Parchg J. Gwynfor Bowen.  Roedd wedi ymdeimlo â’r alwad i’r weinidogaeth ac yn 1946 fe’i derbyniwyd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd.  Bu’n weithiwr cydwybodol yno, ac erbyn 1949 roedd yn barod i dderbyn y gwahoddiaed a ddaeth o gyfeiriad Seion Penmaenmawr a Libanus, Llanfairfechan, fel olynydd y Parchg M. Idris Morgan. Dyma fu ei unig faes a gwerthfawrogwyd ei weinidogaeth yno. Ei weithred olaf oedd llywyddu yn angladd ei ragflaenydd, oherwydd noson angladd Idris Morgan, bu farw Wynne Richards ei hun.

Bu Wynne Richards yn amlwg yng ngwaith y Cwrdd Dosbarth a Chymanfa Arfon. Yn y cyfnod hwn bu’n ysgrifennydd Pwyllgor yr Ifanc a Phwyllgor y Genhadaeth.  Am ddwy flynedd o’r bron, bu’n gadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol y Genhadaeth.  Rhoddai ei holl egni i’r gwaith  a bu’n hynod frwdfrydig i hyrwyddo achos Dirwest. Yn 1963, dyrchafwyd ef yn Llywydd y Gymanfa a rhannodd ei anerchiad ar y testun ‘Y Gymdeithas Genhadol’. Dywed Tom Ellis Jones amdano yn Llawlyfr 1977, fod Wynne Richards yn bregethwr melys a’i “neges yn llawn o obaith yr Efengyl”. Yng nghyfarfodydd blynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru 1970 yn Soar, Llwynhendy, pan roedd Mr Dic Hughes yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, cafodd Wynne Richards ei wahodd i bregethu.  Cafodd oedfa ysgubol, a’i gydnabod fel pregethwr eneiniedig.

Dau o’r bobl ifanc yn Seion yn y cyfnod cynnar o weinidogaeth oedd Wendy Richards (priod y Parchg Reter Dewi Richards) a John Merfyn Jones (cyn- ysgrifennydd eglwys Heol y Castell yn Llundain am gyfnod).  Dywed John M. Jones am Wynne Richards drwy ddweud –

“Roedd yn weinidog heb ei ail, a mae’n aros yn y cof gyda mi a fy mhrawd a chwaer fel gŵr a oedd yn ceisio ein harwain yn y ffordd iawn.      Roedd  yn  efengylaidd yn eu ffordd o gyhoeddi’r Gair.  Ymwelai yn rheolaidd â’r aelodau yn eu cartrefi bron bob wythnos. Yr oedd yn arbennig o dda gyda phlant  a phobol ifanc ac roedd yn denu plant o gapeli eraill i’r Band of Hope. Adroddai  hanes Taith y Perein ac roedd pawb yn gorfod adrodd neges Dirwest- “Yr wyf yn addo drwy gymorth dwyfol i ymgadw rhag bob math o ddiodydd meddwol” gan gofio mae ifanc iawn oeddwn i gyd.  Hefyd roedd yn gwahodd plant i’w gartref yn Llanfairfechan i de ac yna  roeddwn yn casglu o gwmpas y piano i ganu emynau Sankey a Moody yn llawn egni ! Aeth a rhai o’r bobl ifanc gydag efe i wrando ar Billy Graham yn pregethu yn Manceinion. Unwaith y mis ar fore Sul roedd yn cynnal gwasanaeth arbennig i blant, a chyfle i ni gymeryd rhan. Roedd yn ŵr hoffus ac yn weinidog oedd yn hawdd teimlo ei fod o yn gofalu amdanom ac yn effeithiol iawn yn ei genhadaeth.

Bu’n ymwelydd cyson ac amlwg gyda’r cartref henoed lleol. yn ‘Plas y Llan’, ac yn amlwg gyda Mudiad Dirwest Dyffryn Conwy.  Bydd trigolion y fro a selogion Cyfarfodydd Blynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru yn cofio ei briod Queenie, Roedd hithau yn llawn afiaeth cenhadol ac yn gymeriad annwyl ei phersonoliaeth a brwdfrydig ei chenhadaeth.  Ar ôl colli ei phriod, dychwelodd i’w bro genedigol ym Mhorthmadog  gan barhau i hyrwyddo gwaith yr eglwys, a  chyflawni swyddogaeth y pregethwr lleyg.  Gŵr y cefndir oedd Wynne Richards, ond bu’n agos at ei braidd, ac roedd  yn cael ei barchu’n uchel ganddynt.  Gwerthfawrogent ei ofal a thrysori ei weinidogaeth.

Cyfrannwr: Denzil Ieuan John