Rowlands – W. H. (1913 – 1986)

 

WHRowalndsCafodd William Humphreys (W.H.) Rowlands ael ei eni yn Wandsworth, Llundain ar 6 Mehefin 1913 lle roedd ei rieni fel llawer o Geredigion yn ymwneud â busnes llaeth.Collodd ei dad yn y Rhyfel Byd Cyntaf pan oedd yn bedair oed a dychwelodd ef, ei chwaer, Jean, gyda’u mam yn ôl i Gymru – i Bontrhydfendigaid yn gyntaf cyn symud i Aberdâr ac yna i Dal-y-bont.

Dangosai’r ‘Humphreys’ yn ei enw ei berthynas deuluol â Benjamin Humphreys, Adulam Felin-foel, a hanai o Dal-y-bont. Roedd y gweinidog o Felin-foel yn ewythr iddo

Yn Ysgol Tal-y-bont ac Ysgol Ardwyn yn Aberystwyth  y cafodd W.H.Rowlands ei addysg ac wedi gadael yr ysgol roedd ei fryd ar fod yn forwr ac ymuno â’r llynges. Rhwystrwyd ei fwriad gan afiechyd a chafodd ei hun yn gweithio mewn swyddfa cyfreithiwr. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn y Tabernacl, Tal-y-bont ar 1 Medi 1932. Roedd â’i fryd, bellach, ar y Weinidogaeth.

Daeth cyfle iddo fynd i baratoi ar gyfer cwrs Coleg yn Ysgol Myrddin, Caerfyrddin a thra yno cyfarfu â Nan Jones yng nghapel Penuel ac ymhen y rhawg daeth yn wraig iddo.

Cafodd ei dderbyn i Goleg yr enwad yng Nghaerdydd yn 1936. Ymgeisiodd am le yno yn 1935. Y flwyddyn honno derbyniwyd 12 i’r Coleg ac addawodd y Prifathro Tom Phillips iddo y cawsai fynediad yn 1936 ond y dylai fanteisio ar y cyfle i dreulio’r flwyddyn yn paratoi ymhellach ar gyfer dechrau’r cwrs. Bu farw Tom Phillips cyn y cyfweliadau am fynediad yn 1936 ac ni wyddai neb arall am yr addewid! Bu’n rhaid wynebu arholiad a chyfweliad arall ond bu’n llwyddiannus gan fod yn un  o naw a gafodd fynediad

Ordeiniwyd ef yn weinidog eglwysi Seion, Nefyn, a Chaersalem, Morfa Nefyn, yn Mehefin 1939. Wythnos yn ddiweddarach priododd â Nan Jones a ganed dau o blant iddynt, Paul a Non. Daeth yn agos at ieuenctid yr ardal drwy chwarae fel gôl-geidwad i dîm peldroed yr ardal. Cynigodd dau o aelodau ifanc yr eglwysi eu hunain ar gyfer y weinidogaeth yn ystod ei gyfnod yn Nefyn. Newidiodd un ei feddwl tra bod y llall, Celt Hughes, oherwydd afiechyd blin wedi cael ei ordeinio a’i sefydlu ‘in absentia’, megis, yn Calfaria Aberdâr. Bu farw cyn medru symud i’r ardal a chymryd gofal o’r eglwys yno.

Wedi pregethu mewn Cyrddau Mawr yng Nghaersalem Newydd, Treboeth, Abertawe, cafodd alwad i fugeilio’r eglwys fel olynydd i R. Emrys Davies yn 1948.

Er prysured yr eglwys yno yr adeg honno, ymroes i ffurfio’r ‘Gorlan’ – gweithgareddau ar gyfer y bobl ifanc yn eu harddegau – a gyfarfu yn y festri bob nos Wener. Ni syrthiodd nifer y grŵp hwn yn llai na rhyw ugain i bump ar hugain yn ystod y deuddeng mlynedd y treuliodd W. H. Rowlands yng Nghaersalem. Aeth dau o’r grŵp i’r weinidogaeth: Glyndwr Richards (Rhymni, Blaen-cwm, Blaenconin, Tymbl a Chalfaria Clydach) a Hugh Matthews (Cylch Llanbed, Heol y Castell, Llundain, ac athro a phrif-athro Coleg y Bedyddwyr Caerdydd). Un arall o’r Gorlan, sef Leighton Thomas, yw gweinidog yr eglwys yng Nghaersalem ers 1995, er nad yng nghyfnod W. H. Rowlands y codwyd ef i’r Weinidogaeth. Daeth eraill o aelodau’r Gorlan yn ddiaconiaid a diaconesau ac yn arweinwyr yn yr eglwys ac mewn eglwysi eraill. 

Siom i’r eglwys a’r ifanc oedd iddo dderbyn galwad i Flaen-waun yn 1960, ond gwelai ef gyfle a her newydd yno wedi ymddeoliad John Thomas.

Bu’n Llywydd yr Undeb yn 1980 ond cyn hynny roedd wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i’r enwad. Roedd yn ŵr o argyhoeddiadau cadarn, pendant ac nid ofnai eu mynegi. Pan deimlai fod rhaid, siaradai heb flewyn ar dafod. Roedd ei baratoadau’n drylwyr – ar gyfer y pulpud fel ar gyfer pwyllgor a phopeth a wnâi. Gwasanaethodd ar bwyllgorau di-ri mewn Cwrdd Dosbarth, Cymanfa ac Undeb a bu’n llywydd pob un o’r tri hyn yn eu tro. Bu’n gadeirydd Pwyllgor Ysgol Sul yr Undeb a Phwyllgor Canolog y Gronfa Gynhaliol. Llywiodd ‘Pwyllgor y Tŷ’ ym mlynyddoedd cynnar Cartref Glyn Nest. Er hynny, pregethu ac adeiladu’r eglwys a ymddiriedwyd i’w ofal oedd y peth pwysig yn ei olwg. Credai’n gryf mewn diogelu urddas y pulpud ac roedd ei bregethau bob amser yn amserol a pherthnasol. Ceisiodd ddysgu plant sut i wrando ar bregeth draddodiadol. Gwnaeth hyn yng Nghaersalem Newydd drwy greu anerchiadau syml ar ffurf pregethau-tri-phen ar gyfer y Cwrdd Plant misol.

Ymddeolodd o’i waith fel gweinidog a symud i fyw i Aberteifi yn 1981 ar ddiwedd blwyddyn ei lywyddiaeth o’r Undeb. Bu farw yn ei gartref ar 22 Awst 1986.

Cyfrannwr – D. Hugh Matthews