Roberts – Edward (1886-1985)

Mab i David a Jane Roberts (Davies gynt) oedd Edward Roberts a anwyd yn Llanelli, 20 Mawrth, 1886. Roedd yn un o naw o blant, a chanddo bedwar brawd (John, Thomas, William a Henry) a phedair chwaer (Ann, Mary, Elizabeth-Jane a Gertrude). Aelodau yn Seion, Llanelli, oedd ei rieni lle roedd yr enwog E.T. Jones yn weinidog, ac ef a fedyddiodd Edward ar broffes o’i ffydd yn 1901.

Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol elfennol Parc, a’r Ysgol Uwchraddol, Llanelli.  Gweithiwr peiriant yn y diwydiant alcam oedd ei dad a dechreuodd y mab weithio fel prentis mowldiwr metal (metal moulder) yn Neville’s Foundry,Llanelli,  ond o dan ddylanwad pregethu ei weinidog a Diwygiad 1904-05, fe ddechreuodd yntau bregethu. Bu’n ffodus o fod wedi treulio amser yn nosbarth  Ysgol Sul y Parchg Rowland Jones, B.A. ym mlynyddoedd ei arddegau cynnar, a meithrinodd hynny ei ddiddordeb yn y Beibl.

Cymeradwywyd ef i’r weinidogaeth gan ei fam-eglwys ac aeth i Goleg Caerfyrddin yn 1905 i ddechrau paratoi ar gyfer y weinidogaeth.  Aeth i Ysgol yr Hen Goleg yng Nghaerfyrddin i dderbyn hyfforddiant, cyn cael ei dderbyn i ddechrau cwrs gradd yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1906 a blwyddyn yn ddiweddarach cofrestrodd fel myfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr hefyd. Graddiodd gydag anrhydedd mewn Athroniaeth yn y Brifysgol yn Nhachwedd 1909, ac ychwanegodd radd B.D. at ei B.A. dair blynedd yn ddiweddarach yn 1913. Aeth ymlaen i Goleg Mansfield, Rhydychen, lle graddiodd eto radd Meistr mewn diwinyddiaeth cyn cael ei ordeinio yn 1915 yn eglwys Bethel, eglwys y Bedyddwyr Saesneg yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, gyda’r Prifathrawon William Edwards (Caerdydd) a W. B. Selbie (Mansfield) yn gwasanaethu.

Yn 1918, tra oedd yn weinidog yn yr Eglwys Newydd, priododd â Gwladys Taylor, aelod ac organyddes yr eglwys ym Methel. Yn Castle Street, eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn Llundain, y bu’r briodas a ganwyd iddynt ddau o blant, sef David a John. Profodd y ddau eu hunain fel meddygon o’r radd flaenaf.

Symudasai yn 1924 i’r Tabernacl, Pontnewydd, Gwent, lle y treuliodd ddeuddeng mlynedd fel gweinidog cadarn ei weinidogaeth gan gyfrannu’n sylweddol i fywyd Cymanfa Bedyddwyr Gwent.  Ergyd drom iddo a’r teulu oedd marw annhymig ei wraig yn 1929 yn 42 oed.  Bu Edward a’i feibion yn ffodus o dderbyn cymorth ei chwaer yng nghyfraith Mary, hyd nes ei marw hithau yn 1943.

Yn 1937, cafodd ei benodi yn Athro Athrawiaeth Gristnogol ac Athroniaeth Crefydd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd, a hynny pan ymddeolodd y Prifathro Thomas Phillips. Mynychai ef a’r teulu Eglwys Saesneg y Bedyddwyr yn Albany Road, a bu’n gwbl hapus yn yr eglwys yno.

Yn 1944, derbyniodd gyfrifoldeb ysgrifennydd ariannol y coleg.  Ystyriwyd ef yn ddyn gofalus a threfnus  ac roedd wedi bod yn ysgrifennydd senedd y coleg cyn ymuno gyda’r staff.  Tair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei apwyntio yn brifathro yn dilyn marwolaeth y Prifathro John Griffiths Yn yr un flwyddyn priododd ei ail wraig, Margaret Edwards, merch o Bontnewydd oedd yn “gymar ffyddlon ac yn gymorth gwerthfawr iddo wrth arwain y coleg ymlaen yn y cyfnod ôl-rhyfel.  Cynhaliwyd y briodas yng Nghapel Albany Road. Ysgrifennodd T.W. Chance yn ei gyflwyniad i’r Prifathro Roberts yn Llawlyfr 1951 Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg –

“ ‘Roedd derbyn bechgyn a ddychwelai o’r lluoedd arfog yn golygu llawer o ohebiaeth â’r Bwrdd Addysg, ac ni fu’r athrawiaeth erioed gymaint ag yn y blynyddoedd hyn wedi’r gâd. Er hynny diogelwyd diddordebau’r myfyrwyr a’r Coleg â gofal eiddigus “ .

Yn ystod ei gyfnod fel Prifathro datblygwyd adeiladau preswyl Coleg y Bedyddwyr a dathlwyd trydedd jiwbilî sefydlu’r Coleg yn y Fenni yn 1807. Roedd y coleg wedi peidio â bod yn goleg preswyl pan symudodd o Bont-y-pwl yn 1893, ond gyda chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr am y weinidogaeth yn 1945, pan ddychwelai dynion o’r Ail Ryfel Byd, dechreuwyd sôn am ehangu safle Coleg y Bedyddwyr drwy adeiladu hostel ar gyfer lletya’r myfyrwyr. Ar ysgwyddau Edward Roberts y syrthiodd y prif gyfrifoldeb am wireddu’r freuddwyd ac agorwyd yr hostel newydd yn swyddogol ar 7 Ionawr 1953. Ymddeolodd o’i gyfrifoldebau fel prifathro’r Coleg yn Rhagfyr 1957, wedi blwyddyn o ddathlu trydydd jiwbili sefydlu’r Coleg.

Derbyniodd wahoddiad Cymanfa Dwyrain Morgannwg i fod yn llywydd iddi yn 1950-51, ac fe gymerodd yn destun i’w anerchiad o’r gadair ‘Crefydd ein cyfnod’, gan ddadansoddi’r sefyllfa grefyddol yn  y wlad mewn modd cytbwys a deallus, fel oedd yn gweddu iddo.  Gellir darllen yr anerchiad yn Llawlyfr y Gymanfa 1951.

Wedi ymddeol o’r Coleg bu’n byw yng Nghaerdydd am gyfnod, gan deithio ar y Suliau i wasanaethu eglwysi cymoedd y De. Pan fu farw ei wraig yn 1968 symudodd i fyw at un o’i feibion, meddyg yng Nghaerwrangon ac yna ym Mhenbedw cyn treulio’i flynyddoedd olaf yng Nglyn Nest, cartref henoed y Bedyddwyr yng Nghastell Newydd Emlyn. Bu farw’n dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, dydd Sul, 20 Gorffennaf, 1975.

Carai’r encilion ac ni chwenychodd unrhyw swydd o fewn i’w enwad, er iddo gael ei berswadio i dderbyn Llywyddiaeth Cymanfa Dwyrain Morgannwg yn 1950/51. Yn y Coleg, canolbwyntiodd ar ei ddarlithio a’i waith gweinyddol a bugeiliol, heb fentro cyhoeddi ond ambell ysgrif ac ambell anerchiad.

Cyfrannwyr:

  1. Hugh Matthews, (Codwyd yr erthygl o’r Bywgraffiadur Cymraeg).
  2. W. Chance (Codwyd o’i bortread o’r prifathro yn Llawlyfr y Gymanfa Dwyrain Morgnnwg 1951)

Denzil John