Rees – Evan George

Ganwyd yn ail fab John ac Elisabeth Rees, y trydydd o unarddeg o blant .Fe’i ganed yn Nhafarn y “Bird in Hand” Y Fforest, o fewn ffiniau’r hen Sir Gar. Symudodd yn blentyn ifanc ychydig lawr y ffordd i’r Hendy. 

Wedi cyfnod o addysg elfennol, gymharol fyr, ddaeth i ben yn 1935 er iddo ennill “scholarship” prin iawn oedd arian y teulu, felly fel ei frodyr a’i dad troi tua thalcen y gwaith glo oedd ei ysgol addysg . Swydd  “Lamp man “ a gyflawnai  o  1936 -41, yn gyfrifol am rannu golau i’w gydweithwyr  ar ei ffordd lawr i grombil y ddaear, a derbyn eu lamp yn ôl ar ddiwedd twrn gwaith. Dyna’r arwydd fod pawb yn ôl i’r wyneb yn ddiogel. Yng nghyfnod yr ail ryfel byd aeth gyda’i dad i weithio i ffatri Lucas ym Mirmingham a chymhwyso fel tool maker. Ychydig fyddai yn sôn am y cyfnod yma. Nid oedd y “smog” bondigrybwyll a’r bwydlenni anarferol werth son amdanynt, dychwelodd adre yn 1944

Wedi dychwelyd yn ô li Gymru astudiodd ym Mhrifysgol Abertawe o Fedi 1944 hyd ddiwedd 1946, hyfforddodd fel gweithiwr ieuenctid  .Yn dilyn cymhwyso penodwyd ef yn  warden aelwyd yr Urdd ym Maesteg yn 1946. Roedd yno gyda’r Parch W Geraint Owen ar gychwyn addysg Gymraeg yn Festri Bethania  Maesteg . Bu yno am gyfnod byr cyn symud yn Warden ar Aelwyd yr Hendy  yn 1947.

Treuliodd sawl cyfnod yn gwersylla yn Llangrannog. Diolch i’w arhosiad yn 1946 roeddwn ni yn ôl yn y 70au’r ganrif ddiwethaf yn llawer mwy cyfarwydd â Nkosi Sikele’i Afrika, nag anthemau ABBA  fel gweddill fy ffrindiau. Cafodd ei ddylanwadu yn fawr gan wersylloedd rhyngwladol yr Urdd.

Yn 1949 atebodd alwad i wasanaethau ei Arglwydd  o’i fam eglwys , Calfaria Hendy, ac etifeddiaeth Gwili  un o gyn weinidogion yr eglwys yn parhau  yn atgof plentyn iddo, a dylanwad y Parch T J Ffransis  yn aruthrol arno . Codwyd ef i’r weinidogaeth yn ystod cyfnod gweinidogaeth Parch O Tregelles Williams.. Derbyniodd hyfforddiant yn y Coleg Gwyn, Coleg y Bedyddwyr, Bangor. Bu dylanwad ei Brifathro J Williams-Hughes yn allweddol wrth iddo ddatblygu a mireinio ei ddawn gyfathrebu, ehangu ei ddysgu a’i ddeall o ddirgelion Groeg, ffynonellau’r hen Destament a hanes yr Eglwys. Dyma hefyd gyfnod euraid y Noson Lawen a Dr Sam, (BBC) yn sicrhau bob cyfle i fois “Bap Coll” rannu eu doniau a gweddill Cymru . Cyfrannodd lawer i faes darlledu yn llais cyfarwydd ar sawl cyfres ysgafn ac yn gyfrannwr cyson i “Rhwng Gŵyl a Gwaith” yn y 70au ac 80au cynnar y ganrif ddiwethaf.

Ordeiniwyd ef yn Weinidog yn, Salem Cefn Cymerau, ‘Abermo a’r cylch ar y 9fed o Hydref, 1952. Yn 1956 Seion Llanfair M.E a Moreia Pentraeth oedd yn ei alw i’w bugeilio sefydlwyd ef yno fel eu gweinidog ar Ebrill 1956. Am gyfnod cynhaliwyd ef gan gynhesrwydd ei bobl a charedigrwydd sawl teulu a fuodd gydag ef hyd y diwedd yn gyfeillion ffyddlon iddo. Yn 1961 ar 17 Hydref priododd  fy mam Ann merch y Parch a Mrs R.E Davies , Llannerch y medd a Bodafon ac yn 1966 ychwanegwyd y ddwy eglwys at ei ofalaeth.

 Gwasanaethodd deulu Bedyddiedig  Môn  fel ei Ysgrifennydd am nifer helaeth o flynyddoedd, a bu yn Llywydd ar ei Chymanfa  am ddau gyfnod 1969 ac 1989. Yn 1969 traddododd ei anerchiad o’r gadair “Nac ofnaf y praidd bychan, canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi’r deyrnas”. Yn y Gymanfa a gynhaliwyd dan nawdd Bethesda Bodafon yn 1989 “Llwyddiant y gwirionedd” oedd testun ei anerchiad. Cafwyd ynddi her a dadansoddiad o gyflwr yr eglwys yn 1989 , gan ei ddyfynnu “y mae llawer o arwyddion ein bod yn byw ar ddiwedd cyfnod yn hanes y grefydd gyfundrefnol yng Nghymru, ond megis y goroeswyd yr efengylwyr gan yr Efengyl ar hyd hanes tymhestlog yr Eglwys Gristnogol. Y mae’r un grym sef y grym a’i daliodd hwy ar waith o hyd, sef grym yr atgyfodiad.”

“Gweithredu ar sail y ffaith yna, yw’r her sydd yn ein hwynebu ni heddiw. Rhaid i’n tystiolaeth fod yn berthnasol i’n cyfnod ni “ EGR Mehefin 1989

Ymddeolodd ddydd olaf o’r flwyddyn yn 1986 ond parhaodd ei dystiolaeth a’ i weinidogaeth.

Yn ei elfen dyn pobl oedd o ddeallai ddirgelion yr hil ddynol ar ei gorau, ac ar ei gwaethaf, gallai gyd-lawenhau a thosturio, cydymdeimlo a chefnogi’r un mor rhwydd. Profodd yn ystod ei yrfa, fel sawl gweinidog,brofedigaethau erchyll teuluoedd. Gallant hyd heddiw dystio fod ei weinidogaeth wedi eu cynnal . Parchai bawb yn ddiwahân beth bynnag eu hamgylchiadau a’u hanghenion.

Dyn mawr oedd  ymhob peth ond maint! Os rhywbeth o flaen ei amser, yn radical o ran sawl syniadaeth yn ymylu ar yr anghonfensiynol, ei drugaredd tuag at eraill a’i rhawd ar brydiau yn annerbyniol i Sefydliad. Enghraifft o hyn oedd ei safiad a’i dystiolaeth mewn Llys barn a thribiwnlysoedd dros atal datblygiad gorsaf bŵer niwclear y Wylfa a’r ynys Môn ddechau’r 60au pan nad oedd hynny yn farn boblogaidd o bell ffordd.

Nid oedd pethau materol yn golygu fawr ddim iddo oni bai eu bod yn gallu eu defnyddio er budd eraill. Roedd ganddo hiwmor, a llawer un wedi cael cip ar ei ddireidi, yn dynnwr coes ond byth yn bychanu na dilorni. Yn storïwr bywiog a bywiogrwydd yn elfen o’i bregethu heriol, yn codi cwestiwn yn sicrhau fod y gwrandäwr yn meddwl am ei neges. Gosodai safon uchel iddo ei hun, yn hunan feirniad heb ei ail, ni chwenychai glod ond llwyddiant y gwirionedd.

Dewch yn ôl i’r lamp room, dyn y golau oedd  dyn oedd yn arwain ac yn sicrhau dod ac eraill yn ôl yn ddiogel. Gallaf dystio i’r goleuni gynnal a’i arwain yn ddiogel i dangnefedd Duw ar ddiwedd ei dwrn ef o waith.

Yn dilyn salwch byr bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor a’r Hydref 20fed 2001.

Cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch amdano yn y Tabernacl, Llannerch y Medd, a gwasgarwyd ei lwch ger Llyn Bodafon  ar odre Mynydd yr Arwydd o fewn golwg i Fethesda Bodafon tŷ trugaredd a gras.

Elen Vaughan Jones