Un o blant pentref y Bynea oedd John Rowland Jones a anwyd ar Ebrill 23, 1903. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd y Bynea, cyn symud i ysgolion yn Rhydaman a Chaerfyrddin. Bu yng ngholegau Prifysgol Cymru yn Abertawe a Bangor. Addolai y teulu yn y Tabernacl, Llwynhendy, lle roedd ei dad yn ysgrifennydd yr eglwys. Yno y bedyddiwyd John, ac yn ddiddorol, un arall a gafodd ei bedyddio ar yr un pryd oedd Margaret John, ei ddarpar wraig.
Dechreuodd bregethu yn 1925 yn 22 oed, ond yn 1935 y cafodd ei ordeinio yn Seion, Blaenau Ffestiniog. Tair blynedd yn ddiweddarach roedd wedi symud i Foreia, Dowlais (1938). Bu yno am bum mlynedd, cyn symud yn agosach i’w wreiddiau yn Adulam, Pontardawe yn 1943, a chael dylwanwad mawr ar y bobl ifanc a oedd yno ar y cyfnod hwnnw, Treuliodd bymtheng mlynedd yng Nhwm Abertawe cyn symud yn ôl i gyffiniau Abertawe yn 1960 ac ymsefydlu yn Seion, Waunarlwydd. Gŵr cadarn ei farn, ac yn weinyddwr cytbwys a chlir ei feddwl oedd J.R Jones, a gwelwyd hynny pan wasanaethodd Cwrdd Dosbarth Ystalyfera fel ysgrifennydd, ac yn 1953 derbyniodd y cyfrifoldeb i fod yn Ysgrifennydd Cymanfa Gorllewin Morgannwg, Bu yn y swydd honno am 21 mlynedd ac yn ddylanwad ym mhwyllgorau a pheirianwaith yr Undeb. Gwasanaethodd fel Arolygwr y Gymanfa hefyd, a bu’n llywydd y Gymanfa yn 1968.
Profodd John Rowland Jones ei hun fel gweinyddwr effeithiol iawn. Roedd wrth ei fodd yn cwmnïa gyda phobl, ond mewn materion o drefn gweinyddol, ac o hyd yn chwilio am gwell ffyrdd o ddarparu tegwch i’w gyd-weinidogion. Un o ffenomenau y cyfnod oedd bod y gydnabyddiaeth a roddid i weinidogion wedi colli ei werth, ac er bod parch i’r wenidogaeth, gwelid bod eglwysi yn ei chael yn anodd i gynnig cydnabyddiaeth deilwng. Ar yr un pryd, roedd aelodaeth yr eglwysi yn dechrau disgyn. Nodir bod economi Prydain yn gyffredinol yn dal i ddiodde, yn rhannol oherwydd cost ad-dalu dyledion yr Ail Ryfel Byd, ac felly roedd yr eglwysi fel sawl corff elusennol arall yn gwegian yn ariannol. Gwelid fod yr eglwysi llai yn methu cynnal gweinidogaeth fel y bu, ac roedd John Rowland Jones y math o berson a ddaeth i sefyll gydag eraill i arwain Undeb Bedyddwyr Cymru yn y gwaith hwn. Ar achlysur marwolaeth John Rowland Jones,trefnwyd casgliad coffa iddo yn lle rhoddion blodau, a daeth y cyfanswm sylweddol hwn yn rodd i hyrwyddo Cronfa’r Weinidogaeth.
Bu nifer o’i berthnasau yn amlwg yn gwasanaethu’r Undeb. Ewythr iddo oedd y Parch R.H. Jones, San Cler ac enwyd John Rowland ar ôl perthynas arall a ddisgleiriodd fel athro a phregethwr. Yn dilyn ei angladd, gwireddwyd dymuniad John drwy drefnu casgliad ariannol yn lle blodau. Daeth y cyfanswm yn £194 ar gyfer Cronfa’r Weinidogaeth, swm a oedd yn anrhydeddus iawn yn y cyfnod hwnnw.
Ganwyd un ferch i’r briodas sef Enid, a threuliodd hithau ei bywyd fel athrawes, yn Llundain. Cofir am John Rowland Jones fel gweinidog ffyddlon i’w alwad, ac a fu’n driw i’w etifeddiaeth Fedyddiedig, ac i werthoedd sylfaenol Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwnaeth ei orau i warchod yr etifeddiaeth honno i’r cenedlaethau a ddaw, a’u cynorthwyo i arddel y ffydd a byw yr Efengyl.
Cyfrannwr: Denzil Ieuan John.