Roberts – David (1793 – 1872)

Gallaf olrhain cysylltiad fy nheulu ag Enwad y Bedyddwyr nôl i 1793.

Dyna flwyddyn geni taid fy nhaid, David Roberts, yn Hendre Bach, Llanuwchllyn.

Yn ol, Edward Edwards, diacon gyda’r Methodistiaid yn y cyfnod aeth David Roberts yn fachgen ifanc yn brentis crudd at ŵr a oedd yn aelod brwd o enwad yr Annibynnwyr yn Llanuwchllyn – Ellis Roderick.

Gan fod gan DR eisoes dueddiadau tuag at y Bedwyddwyr nid oedd y gwas a’r meistr yn cyd-dynnu yn dda iawn.

Un diwrnod poethodd y ddadl i’r fath raddau nes i Roderick gipio ei Feibl oddi ar Dafydd Rbts a dweud werth,’Chei di mo fy Meibl i Deio i ddweud dy gelwyddau’.

Yn fuan wedyn gadawodd DR Lanuwchllyn a throi am Frynsiencyn, Ynys Môn a chael prentisiaeth crudd yn y fan honno gyda William Roberts a oedd yn bregethwr lleyg gyda’r Bedyddwyr.

Yno cafodd ei fedyddio gan Christmas Evans a fu wrth gwrs yn weinidog ar y Tabernacl.

Ymfalchiai DR yn hanes dydd ei fedyddio oherwydd cariwyd ef i’r bedyddfaen o dan gesail Christmas Evans a oedd yn gawr o ddyn.

Rhaid ei fod yn llanc go ifanc serch hynny.

Dechreuodd bregethu dan nawdd ChE a dull ChE o bregethu a ddilynodd DR yn bur llwyddiannus.  Dywedir ei fod yn bregethwr rhugl ac effeithiol gyda chof da a doethineb fel sarff (a ydy hynny yn beth da?).

Efallai fod y stori hon yn datgelu’r elfen honno:

Dwyn pregeth John Elias

Roedd i bregethu yng Ngildwrn, capel y Bedyddwyr yn Llangefni, un Sul ond dim ond un bregeth oedd ganddo yn barod yn lle dwy. Clywodd fod John Elias yn pregethu mewn capel Methodistaidd yn y cyffiniau ac aeth i wrando arno. Pregethodd John Elias gyda’i egni arferol a llwyddodd DR i gofio’r bregeth yn ei chyfanrwydd. Traddododd y bregeth y bore Sul canlynol.

Traddododd JE hi am ddau y prynhawn yn Llangefni. Gan fod ambell i Fethodyn wedi mynychu’r gwasanaeth yn Cildwrn ac ambell i Fatist wedi mynychu cwrdd John Elias roedd peth dryswch pwy oedd wedi dwyn y bregeth gan bwy.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach cyfarfu JE a DR a gofynnodd JE yn sarrug ai DR ddwynodd ei bregeth. ‘Ie,’ oedd yr ateb,’ond deallais wedyn nad oedd hi’n perthyn yn llwyr i’r un ohonom.’

Dwyn pregeth arall

Cafodd DR ei gyhuddo o ddwyn pregeth yn tro arall hefyd gan Dr. David Morgan o Frynmawr.’Annwyl Mr. Morgan’, medde DR,’dydych chi ddim yn deall; mae digon o bregethau i’w cael, ond ei pregethu fel bod y gynulleidfa yn teimlo eu heffaith, dyna’r gamp.’

Gyda llaw maen ‘na prosiect ar y gweill ar hyn o bryd i adfer capel Cildwrn a gall unrhyw un gyfrannu trwy ‘crowd-sourcing’.

Aeth DR ymlaen o Langefni i Goleg y Fenni dan oruchwyliaeth y Parch Micah Thomas a ddisgrifid fel Gamaliel y Bedyddwyr. Ar ôl dwy flynedd yno aeth yn weinidog i Langynidr, Powys, ac oddi yno i Trosnant, Pontypwl.

Cyfnod Llangefni

Maen ‘na ddisgrifaid a llun o DR mewn llyfryn a gyhoeddwyd yn 1897 i nodi 118 mlynedd sefydlu capel Ebenezer, Llangefni. Daeth yn weinidog yno am gyfnod byr yn 1851.

‘Dyn o daldra cyffredin ydoedd, ond o gyfansoddiad cadarn, corff trwchus cwmpasfawr. Cariai ben lled fawr hefyd ar ei gorff a hwnnw, wedi iddo gyrraedd canol oed, yn foel; ond yr oedd ganddo dusw lled dda o wallt yn tyfu o’i wegil a chribai hwnnw yn ei wrthol ymlaen dros ei goryn, gan ei stiffio a dwr a sebon, a phriodi y cydunau yn drefnus ar ei iâd. (pen uchaf y coryn). Byddai felly yn edrych yn daclus wrth ddechrau pregethu; ond gan ei fod yn gogwyddo ymlaen yn y pulpud, ac yn ysgwyd ei ben o’r nail ochr i’r llall wrth lefaru, byddai ei briodas yn cael ei thorri tua chanol y bregeth, a’r cydunau gwahanedig I’w gweled yn syth, fel dau gorn, un o boptu’r pen, ac yntau fel pe bai’n cornio gyda hwynt bob nail ochr. Ond yr oedd yn llond pulpud o ddyn a phregethwr. Nid oedd fe allai yn feddyliwr mawr a dwfn, nac yn feirniad coeth a dysgedig; ond yr oedd ‘hen ŷd y wlad’ ganddo mewn cyflawnder, ac yntau yn gwybod pa fodd i’w roddi allan. Nid oedd fugail mor llwyddiannus. Yn y pulpud y rhagorai efe; a bu yn enwog a phoblogaidd fel pregethwr am dymor maith – dim llai na 50 mlynedd yn y weinidogaeth a gwelodd lawer o lwyddiant, bedyddiodd lawer yn Ne a Gogledd Cymru ac yn eu plith amryw a ddaethant bregethwyr a gweinidogion.’

Pregethu’n rhy fyr

Mewn llyfryn yn olrhain hanes Capel Carmel, Sirhywi lle bu DR yn weinidog o 1836-1845 sonnir am gwynion amdano am fod ei bregethau yn rhy fyr! Pan yrrwyd blaenor i’w weld i ofyn iddo bregethu’n hirach gofynnodd i’r blaenor esbonio pa rannau yn union o’i bregethau yr hoffai eu gweld yn cael eu ymestyn. Ni allai’r blaenor wneud hynny felly dywedodd DR:’Pan allwch chi gofio mwy, wna i bregethu mwy!’

Os oedd ei bregethau’n fyr roedden nhw yn taro’r nodyn gan fod DR yn codi ei lais tua diwedd y bregeth ac yn gorffen gyda bloedd hir a threiddgar. Dyna enillodd iddo’r llys-enw ‘yr utgorn arian’.

Perffomiwr o fri felly er fod awdur y gyfrol yn dweud amdano: ‘The general idea that prevailed about him was that he did not possess exceptional mental abilities’.

Fuodd e’n weinidog yn Nhalybont, Ceredigion, hefyd a dyna lle briododd a’i ail-wraig mam fy hen nain innau, Jane.

Nol i Trosnant

Yn Trosnant, Pontypwl y cafodd ei gladdu ar ôl bod yno’n weinidog ddwy waith, yr ail dro pan oedd yn 66 oed.

Pan aeth yno gyntaf yn 1820 bu’n weithgar iawn yn codi arian ar gyfer codi capel newydd.  Mae’n rhaid bod gweinidogion y cyfnod  – hyd at ddiwedd y 19eg ganrif yn brysur yn hel arian yn yr un modd pan edrychwch chi ar ddyddiadu adeiladu nifer helaeth o gapeli Cymru.

Dywedir iddo gael trafferth i arfer gyda gwasanaethau dwyieithog pan ail-ymunodd a’r eglwys yn Trosnant.  Difyr meddwl bod y Gymraeg yn fyw ac yn iach yn Nhrosnant, Pontypwl yn 1859.

Aethon fel teulu i chwilio am ei fedd rhyw ddeg mlynedd ar hugain yn ôl. Yn ofer. Cawsom hyd i’r fynwent ond doedd fawr o drefn yno – roedd rhywun hyd yn oed yn tyfu letus rhwng y beddi!

Does dim sôn am unrhyw un o’i feibion (roedd ganddo 3) yn troi at y weinidogaeth ond roedd ei fab, hefyd yn Ddafydd Roberts, yn adeiladwr ac yn 1858 cafodd gomisiwn i adeiladu Capel y Bedyddwyr, Llangynidr. Ef oedd y cofrestrydd lleol a phan fu fawr yn 1890 roedd yn berchen ar ystad go helaeth. Rhaid fod adeiladu capeli yn talu’n dda.

Cyfrannwr: Ann Beynon