Roberts – Richard Gruffydd (1922-2006)

Teyrnged Mab yn y Ffydd

Yr Athro D Densil Morgan

Chwe mlwydd oeddwn i pan ddaeth pregethwr newydd i fod yn weinidog ar ein capel ni yn Nhreforus. Un o’r Gogledd ydoedd, o Ynys Môn, er o Goelbren a Nant-y-ffin ym mhen uchaf Cwm Tawe y daeth ef atom. Gŵr yn ei dridegau ydoedd, yn dalsyth, yn urddasol ei olwg ac yn dawel ei ffordd. Roedd yn ddyn teulu, gyda Val, ei wraig, hithau’n un o ferched Cwm Merthyr, yn gefn iddo ac yn troi o gwmpas y ddau ohonynt oedd y plant: John, Huw, Sian ac yna Dafydd, y cyw melyn olaf. A minnau’n blentyn fy hun, ni wyddwn yn iawn beth oedd swyddogaeth pregethwr, ond gwyddwn mai ‘Mr Roberts’ oedd ‘ein pregethwr ni’, ac y byddai yno ym mhob gweithgaredd yn y capel: yn holi cwestiynau yn yr oedfa blant, yn cynnal dosbarth ysgol Sul y bobl ifanc yn y festri, yn ymweld â’n cartref ac yn siarad am bethau’r cwrdd gyda Mam-gu. Roedd e’n rhan o drefn pethau ac o wead bywyd o ddyddiau plentyndod ymlaen.

Pymtheg oed oeddwn pan fedyddiwyd fi, yn un o tua hanner dwsin o ieuenctid yr Ysgol Sul. Mae’n rhaid nad oedd fawr o wrthryfel ynof oherwydd yr unig amser i mi gefnu ar Eglwys Calfaria, dros dro, oedd er mwyn mynd i’r Mission Pentecostaidd yn ysbeidiol am ychydig flynyddoedd ble roedd y canu yn fwy bywiog a’r gweithgareddau yn fwy Seisnigaidd ac yn fwy llachar o lawer. Ond nôl y deuthum ac ymuno â dosbarth y Gweinidog ar y galeri, er mwyn trafod pethau mawr a dechrau gwrando, mae’n debyg, ar yr hyn oedd yn cael ei ddweud. Digon cynhyrfus oedd pethau yng nghanol y chwedegau, yn wleidyddol ac yn grefyddol, a da oedd cael gweinidog a oedd yn medru cydymddwyn gyda doethineb mawr â chwestiynau amrwd un dyn ifanc, beth bynnag, oedd yn dechrau chwilio am atebion i broblemau bywyd. Ar broffes o ffydd y bedyddiodd Mr Roberts ni; gwyddai mai gwaith yr Eglwys oedd cefnogi pobl ifainc ar ddechrau eu pererindod ac nid codi atalfeydd ar eu llwybr. O hynny ymlaen cafwyd mwy o wrando, ar y neges o’r pulpud y tro hwn, bob amser yn dawel, yn bwyllog – nid felly roedd pethau yn y Mission Pentecostaidd! – yn feiblaidd ac yn gall. Roedd rhywbeth yn cyniwair ar hyd ar amser, yn cynyddu oddi mewn, ac ar ddiwedd un oedfa bore Sul yn 1971 dyma fynd at Mr Roberts a dweud, yn betrus ddigon, efallai mai i’r weinidogaeth yr oeddwn yn cael fy ngalw. Roedd hynny’n ddiwrnod mawr yn fy hanes i, ac mae’n dda cael tystio bod a wnelo’r tad yn y ffydd nid yn unig â’r achlysur ond â’r hanes cyn hynny ac am dros tri-deg-pump o flynyddoedd wedi hynny hefyd.

Ganed Richard Gruffydd Roberts ym Môn, yn fab i William Roberts a’i wraig o ardal Rhyd-wyn. Symudent i Fynydd Bodafon, ac yng nghapel Bethesda Bodafon, o dan weinidogaeth y Parchg R.E.Davies y’i codwyd. Derbyniwyd ef gan Gwrdd Dosbarth Môn ar drothwy’r rhyfel yn 1939, ond nid tan 1941 yr aeth yn ymgeisydd am y weinidogaeth i Goleg y Bedyddwyr, Bangor. Perthynai i do disglair o fyfyrwyr a oedd yn cynnwys Dafydd Davies, prifathro Coleg Caerdydd yn ddiweddarach, D.Carey Garnon, George John a ddeuai maes o law yn Brifathro’r Coleg Gwyn, Aneurin Davies ac Emlyn John. Er gwaethaf cyni’r rhyfel, roeddent yn ddyddiau hynod greadigol ym Mangor gyda myfyrwyr nodedig fel Meredydd Evans, Islwyn Ffowc Elis ac R.Tudur Jones eisoes yn gwneud eu marc. Er mai un distaw a diymhongar oedd ‘Ritchie’, elwodd ar y bwrlwm hwn, ac ar yr hyn a gafodd gan ei athrawon:  J.T. Evans a J.Williams Hughes, Prifathro ac Athro yn y Coleg Gwyn, a J.E.Daniel yn dysgu Athrawiaeth Gristionogol a John Morgan Jones yn dysgu Hanes yr Eglwys ym Mala-Bangor, ‘y Coleg Coch’, drws nesaf. Wedi pedair blynedd cyfoethog yno, mentrodd i gymoedd y De, ac yn y Tabernacl, Merthyr Vale yr ordeiniwyd ef ar derfyn y rhyfel yn 1945. Roedd symud o dawelwch cefn gwlad Môn a’i Rhyddfrydiaeth gydymffurfiadol i wres sosialaidd cymoedd y De yn gryn ysgytwad, a dysgodd gydymdeimlo ag argyfwng y gweithwyr. Roedd hi’n brentisiaeth ardderchog ar gyfer dyn ifanc, ac yn ogystal â dysgu cyfrinion y weinidogaeth, cafodd hyd i’r ferch ifanc a ddeuai’n wraig iddo ac yn gefn ar hyd ei oes, sef Val. Wedi chwe blynedd yn Nwyrain Morgannwg, symudent i Flaenau Cwm Tawe, i Golelbren ac ardal yr Onllwyn, ac er na ollyngodd Môn ei gafael arno fyth, ym Morgannwg y parhaodd. Galwyd ef i olynu Ifor Lloyd Wiliams yng Nghalfaria, Treforus, yn 1959, a dechrau yno yn 1960. Ac am ddeng-mlynedd-ar-hugain bu’n fawr ei barch ymhlith ei bobl, yng Nghalfaria i ddechrau, ac o 1973 yn Seion a Soar yn ogystal, gan arwain at yr uno yn Seion Newydd yn 1981.

Pwyll, doethineb, lledneisrwydd a graen a nodweddodd ei weinidogaeth yn Nhreforus. Ni chafodd y weinidogaeth neb a fawrygodd ei alwedigaeth yn fwy, a chafodd ei bobl ei ymroddiad llwyraf ar hyd ei oes. Cafodd lywio’r symudiad, digon blaengar yn ei ddydd, i uno’r achos Bedyddiedig yn Nhreforus a chreu o dair eglwys, sef Calfaria, Seion a Soar, un eglwys sef y Seion Newydd.  ‘Yr ydym yn ymglywed â phwysigrwydd ac â sialens yr arbrawf’, meddai ar ddechrau proses yr uno yn 1973, ‘er nad wyf yn hollol hapus gyda’r gair arbrawf. Gall arbrawf fethu … ond y mae rai pethau mewn bywyd sydd yn rhy fawr ac yn rhy bwysig i fethu. Fe garem feddwl ein bod yma yn rhoi sêl ein bendith nid yn unig ar waith a threfniadau dyn, ond fod a wnelo Ysbryd Duw â’r weledigaeth hon’. Bu’n ufudd i’r weledigaeth ac yn amyneddgar. Roedd yn arweinydd, ond yn arweinydd hynod hirben, pwyllog a doeth. Ni fynnai ruthro, ond ni phylodd y weledigaeth am eiliad, a phan ddaeth yr amser i ddirwyn y tri achos i ben a chreu un achos o’r newydd yng nghapel hardd Seion yn 1981, roedd yr amseru yn berffaith. Roedd y ffaith fod y cwbl wedi bod mor ddidramgwydd a’r cytgord mor wych yn dyst i dreiddgarwch a sensitifrwydd y gŵr doeth hwn.

Dyn ei bobl a’i eglwys oedd ‘R.G’. Bu’n ffyddlon i Gymanfa Gorllewin Morgannwg gan wasnanaethu fel ei hysgrifennydd am flynyddoedd, a dyrchafwyd ef i’w chadair yn 1981. Mae ei anerchiad, ‘Dyn, ei Ymchwil a’i Gamgymeriad’, yn adrodd ei brofiad fel gweinidog yr efengyl yn ystod blynyddoedd yr hirlwm, ac yn crynhoi ei neges a’i ffydd. Trasiedi ac argyfwng dyn oedd iddo gefnu ar ei Arglywdd, ac ni ddeuai ymwared iddo nes iddo ddychwelyd ato mewn edifeirwch a ffydd. Tasg yr eglwys meddai, sef Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif, oedd ‘ailgydio yng ngweledigaeth fawreddog, beryglus Iesu o Nasareth, a’i bregethu Ef fel Un a all eto waredu ei bobl’. A dyna a wnaeth, yn ffyddlon ac yn ufudd, o bulpud Calfaria Treforus, o’r Seion Newydd, o Ainon Heol-las, ac o Seion Gorseinon ble ymaelododd wedi iddo ymddeol yn 1991. Nid ‘pregethwr cyrddau mawr’ ydoedd, ac ni fynnai fod mewn unman arall ond yn ei bulpud ef ei hun. Er iddo fynychu’r Undeb ar hyd y blynyddoedd, nid dyn Undeb na chynhadledd ydoedd, ond dyn ei bobl a’i braidd a’i filltir sgwar. Roedd ganddo weledigaeth uchel iawn o le yr eglwys oddi mewn i arfaeth Duw. Pregeth ar fuddugoliaeth derfynol yr eglwys er gwaethaf pob erlid a phob difrawder a barodd i fachgen ifanc fynd ato yn betrus ar derfyn oedfa yn  1971 i fynegi ei awydd i fynd i’r weinidogaeth, ‘a phyrth uffern nis gorchfygant hi’. Ymdeimlad â phwysigrwydd yr eglwys a’r fraint anrhaethol o fod yn was iddi hi a’i cynhaliodd ar hyd y daith.

Bu’r cysylltiad rhwng y tad yn y ffydd a’r mab yn y ffydd yn un agos iawn. Trefnu, i ddechrau, i fynd i’r Coleg Gwyn – er mai ym Morgannwg yr oeddem, dim ond un coleg, sef Coleg Bangor, oedd yn bod! – a chyfarfod cofiadwy, yng nghwmni R.G., â’r Prifathro D.Eirwyn Morgan mewn caffi ar stasiwn Abertawe a minnau yn y chweched dosbarth ar y pryd. Yna cael bod yn ‘student pastor’ yn Nhreforus yn yr haf 1974, a gweld drosof fi fy hun, yn ei gwmni ef ac eiddo’r diweddar Barchg D.Lloyd Walters, beth oedd yn oblygedig yn y gwaith yn go iawn. Ei wahodd i weinyddu yn ein priodas ni yn 1977, ac yna i bregethu’r siars ordeinio yng Nghalfaria Penygroes yn 1982, ac felly eilwaith yn y sefydlu yn Y Gaerwen, yn ôl ar ei ynys hoff yn 1989. Mae’r atgofion bellach yn rhai annwyl a chysygredig, felly hefyd y sgwrs olaf ddiwedd yr haf ac yntau’n gwybod fod ganddo driniaeth arw o’i flaen. Roedd y llais yn wan, ond y ffydd yn gref. Diolch a wnaeth am ymgeledd y teulu ac am y fraint o gael bod yn weinidog i Iesu Grist yng nghyfnod y cilio mawr.

Estynnwn ein cydymdeimlad â’r plant, John, Sian a Dafydd a’u teuluoedd, ac â Huw a Iona, Huw yn gyn-ysgrifennydd Seion Newydd cyn dilyn llwybr ei dad ac yntau bellach yn weinidog lleyg Calfaria Sgiwen. Mawr yw’n dyled i’w tad, y gŵr diymhongar, llednais ac annwyl a gyfoethogodd fywydau cymaint ohonom. Braint yw cael bod yn ddyledwr iddo.

Cyfrannwr – D. Densil Morgan