Roberts – Robert Parri (1882 – 1968)

robertparriUn o’r llyfrau mwyaf darllenadwy o blith cofiannau gweinidogion Cymru yw’r un a olygwyd gan y Parchg Idwal Wyn Jones, ‘Ffarwel i’r Brenin’ (Gwasg Ty ar y Graig, 1972). Ynddo eglura’r golygydd fod gwrthrych y cofiant wedi camgymryd beth oedd dyddiad ei eni, a bod ymchwil wedi profi i Robert Parri Roberts gael ei eni ar 3 Fawrth 1882 ym Mhen-y-Lon, Llanfaethlu yn un o bump o blant i William ac Elisabeth Roberts. Ychwanega’r golygydd nad oedd y gwrthrych yn poeni llawer am ddyddiadau beth bynnag!!  Ceir yn y gyfrol lu o erthyglau difyr yn dadlennu rhychwant eang o ddiddordebau a blaenoriaethau Robert Parri-Roberts. Mae hefyd nifer o gerddi a luniwyd gan amrywiol feirdd i gydanabod y brenin. Ceir cofnod yn y gyfrol o sgwrs rhwng Lewis Valentine, golygydd Seren Gomer, 1962 a Parri-Roberts yn holi am ei gefndir a’i fywyd.

Daeth Parri-Roberts lawr i Ysgol yr Hen Goleg er mwyn bod o dan hyfforddiant Joseff Harri yn 1907, cyn dychwelyd i’r gogledd fel myfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr yn 1909, ac yn efrydydd yn yr un cyfnod â’r Parchg Gwilym Owen, Saron, Rhydaman. Roedd ugain yn sefyll arholiad mynediad i’r coleg ar yr un adeg, ac ond wyth a dderbyniwyd.  Y chwech arall oedd J. E. Roberts, Cefn-mawr; T. Thomas Llanelli; W.D.Lewis, Ystalyfera; Eleazer Davies, Ystradgynlais; A. R. Morgan, Caersalem Newydd a L. G. Lewis, Rhydaman.  Y tri darlithydd yng Ngoleg y Bedyddwyr oedd y Prifathro Silas Morris, yr Athro J. T. Evans a’r Dr Owen Davies, Caernarfon.  Un o’r bobl hynny a fu’n ddylanwad mawr ar Parri Roberts oedd prifathro Coleg yr Annibynwyr, sef Dr Thomas Rees, heddychwr a ddaeth ei hun o dan ddylanwad y Parchg Pulston Jones, y pregethwr dall.  Dyma’r adeg y cafodd Parri-Roberts ei alw gan ei gyfeillion fel ‘Parri Bach’.

Ordeiniwyd Robert Parri-Roberts yn weinidog yn Salem, Fforddlas yn 1912.  Roedd yn bregethwr poblogaidd a chymeradwy, ac er i’r cyfnod fagu cefnogaeth i filitariaeth yn 1914, roedd y gweinidog ifanc yn glir ei feddwl yn y cyfnod cynnar hwn. Dywedir mai cyfnod gweinidogaeth Parri Roberts oedd y cyfnod mwyaf llwyddiannus yn hanes yr eglwys, a bod angen cario meinciau i fewn i’r capel er mwyn creu lle i bawb.   Dywed Myfi Williams, yn ‘Ffarwel i’r Brenin’, mai ei ddawn fel pregethwr a ddenai’r gynulleidfa i wrando arno.

“Pan gynhyrfid ef gan y gwirionedd a draethai, arferai gerdded yn ôl a mlaen yn y pulpud, fel llew mewn cawell.  Weithiau gwnâi hynny heb fedru dweud yr un gair, wedi’i lethu gan ddwyster neu ogoniant y gwirionedd dan sylw.  ‘Doedd dim yn fwy huawdl na’r eiliadau hynny o fudandod aflonydd.” (tud 32)

Roedd ganddo reddf naturiol i gynnal cwmni gyda phlant a phobl ifanc, ac roedd yn frenin yn y ‘Band of Hope’. Edrydd Myfi Williams yn”Ffarwel i’r Brenin’, ddau hanesyn amdano yn cael ei amharchu am iddo sefyll yn gadarn ar dir heddychiaeth.  Dywed y cyntaf na chafodd cael ei gludo i angladd Spinther James gyda’r gweinidogion eraill i’r fynwent ar ben y Gogarth, Llandudno.  Roedd wedi cael ei esgymuno hyd yn oed gan ei gyd-weinidogion. Hanes arall oedd iddo bregethu ym Methesda, ac na chafodd gynnig llety, a bu’n rhaid iddo gerdded adref o’r dref yn ôl i Ffordd-las.  Yn niwedd Ionawr 1924 priododd gyda Miss Jennie Roberts a hynny deg mis cyn iddo gael ei sefydlu ym Mynachlog-ddu. Bu yn Nyffryn Conwy am 12 mlynedd, yn uchel ei barch yno ar hyd ei oes.

Symudodd i Sir Benfro yn Hydref 1924 a thystiolaeth bro gyfan oedd ei fod yn frenin yn eu plith.  Dyfyniad o anerchiad angladdol i Parri-Roberts a draddodwyd gan Lewis Valentine, ei gyfaill mynwesol, yw teitl y gyfrol goffa, ‘Ffarwel i’r Brenin’.  Felly’n union yr ystyriwyd ef ym mhobman, ac anodd mesur cyfraniad helaeth gweinidog Bethel, Mynachlogddu.

O fewn y flwyddyn i gyrraedd Mynachlogddu, ganwyd eu merch Mona, a bu hithau yn achos dathlu i’r fro gyfan.  Er hyn, daeth cymylau galar i’r aelwyd pan bu farw ei briod Jennie yn 1926. Claddwyd hi ym mynwent Bethel.  Bu’r gymdogaeth yn ofalus iawn o’r gweinidog a’i ferch fach ac yn arbennig teulu fferm y Glandy.  Ymhlith merched yr aelwyd honno roedd Mary Anne Gibby, ac ymhen y rhawg daeth hithau yn ail-briod i’r gweinidog ac yn llysfam i Mona.   Bu’n briodas ddedwydd eithriadol, a’r aelwyd yn lle croesawgar i bawb. Ganwyd pump o blant iddynt sef Gwen, Goronwy, Hefin, Hedd ac Ithel.   Tristwch arall i’r teulu oedd marw annhymig Goronwy, ac yntau ond yn 11 oed.  Mae’r pedwar sy’n weddill wedi anrhydeddu eu rhieni drwy fyw y ffydd a gwasanethu’r eglwysi lle maent wedi byw.  Bu Hefin yn drysorydd Eglwys Bethel am dros hanner canrif. Bu Gwen yn selog yn eglwys Saron Treletert, Hedd yn un o selogion yr eglwys yn Llanuwchlyn ac Ithel yn weithgar iawn yn Nasareth, Hen-dy-gwyn.

Cofir am Parri Roberts fel gŵr o ddoniau amrywiol.  Roedd yn bregethwr effeithiol a phoblogaidd, yn weinidog cyson ei gonsyrn dros eraill, yn effro i ddigwyddiadau moesol a gwleidyddol ei gyfnod, ac yn arbennig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn y bennod sy’n cyfeirio ato fel dyn y pulpud, cyfeiria’r Parchg Môn Williams ato fel un a ddymunai fod yn bregethwr ers yn blentyn, a phregethwyr oedd ei arwyr.  Disgrifiodd Parri Roberts drwy ddweud amdano –

“wedi iddo godi ei destun, ni phrysurai, ond llefaru’n bwyllog, hamddenol, mewn Cymraeg llafar da, yn iaith y werin. Ceid ynddo naturioldeb a gwreiddioldeb.  Teimlech ar rai adegau ei fod megis yn ymgomio â’i gynulleidfa. Meddai ar y ddawn brin honno i ddod ar delerau da â’i wrandawyr.  Yn wir, rhoddai ei hiwmor iach a’i wên  ddengar gyfle iddo wneud hynny. Ond dylid cofio mai nodwedd fawr ei bregethu oedd ei ddifrifwch. Ceid ganddo genadwri wreiddiol, broffwydol ac fel yr oedd ei neges yn gafael ynddo, fe deimlech wres y tân.  Yr oedd yn meddwl a theimlad, gwres a goleuni yn ei bregethu; gall y golau fod yn oer, ond roedd y pregethwr hwn ar rai prydiau yn gwreichioni.  Goleuai ei lygaid fel y cynhesai ei ysbryd a’r ‘nwyd anfarwol’, wedi’i feddiannu.  Pregethu oedd ei fwyd a’i ddiod ac fe ddefnyddiodd bopeth i’r amcan aruchel hwn.”

Soniwyd amdano fel athro hefyd, a bu nifer a ddaeth yn amlwg yn y pulpud Cymraeg ddechrau’r daith ym Mrynhyfryd.  Meithrinodd yn y bechgyn ifanc a ddaeth i’w aelwyd, gariad at ddysgu sut i ddarllen a deall y Beibl, ac i weld perthnasedd yr Efengyl i fywyd pobl.  Credai Parri-Roberts fod angen i’r bregeth fod yn ddealladwy ac yn berthnasol i’r gynulleidfa, a dyna wnaeth ar hyd y blynyddoedd.  Dywed y Parchg J. Gwynfor Bowen, a luniodd bennod ar y pwnc yn y cofiant, er bod amserlen benodol i’r gwersi, nad oedd gwedd ffurfiol i’r cyflwyno, a bod yr athro yn feistr ar ei bwnc ac yn effeithiol wrth ei gyflwyno.  Dyfynnir llythyr oddi wrth y Prifathro J.Williams Hughes at Parri-Robers

“Annwyl Parri-Roberts,
Y mae pwyllgor y Coleg yn awyddus iawn i chwi wybod fel yr ydym yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth ynglŷn â’r brodyr ieuanc sydd a’u bryd ar fod yn weinidogion yr efengyl, ond, ysywaeth, heb gael yr addysg ofynnol i’w cymhwyso i ddilyn cwrs Coleg.  Cawsom rai o’r brodyr ieuanc hyn o’r blaen, cyn, ac ar ôl iddynt fod o dan eich disgyblaeth a’ch addysg chwi, a gweld cynnydd dirfawr ynddynt.  Mae’n sicr na sylweddolwyd y cynnydd hwn heb lawer o fyfyrio o’u tu hwynt, nac ychwaith heb lawer o amynedd a dyfalbarhad o’ch tu chwithau…….”

Bu dylanwad Dr. Thomas Rees, prifathro Coleg yr Annibynwyr yn drwm arno, ac roedd Parri-Roberts wedi etifeddu yr angerdd honno o fod yn heddychwr o argyhoeddiad.  Roedd rhuddin Henry Richard a’r Parchg Pulston Jones o’r ganrif flaenorol ynddo.  Bu cyfraniad Keir Hardie, George M. Ll Davies yn rhan o waddol yr etifeddiaeth o heddychiaeth yng Nghymru, ac roedd Parri Roberts yn un o ladmeryddion amlycaf y pwyslais hwn yn ei genhedlaeth.  Un elfen amlwg o hyn oedd y modd y bu ef ynghyd â’r Parchg Joseff James, Llandisilio yn brwydro i amddiffyn bro’r Preselau rhag cael eu defnyddio fel maes tanio i’r fyddin. Ffurfiwyd pwyllgor amddiffyn, gyda’r ddau weinidog, ynghyd a’r prifathro lleol yn arwain yn y fenter. Bu’n ohebydd cyson yn y wasg, a galwodd y Parchg T. J. Davies ef yn ‘Gandhi y Preselau’.

Ni ellir gosod Parri-Roberts mewn corlan benodol o ddiwinyddion, ac mewn sawl ystyr roedd yn berson gwahanol ac unigryw.  Cawsai flas ar drafodaeth lenyddol a gwleidyddol, gan roi’r byd yn ei le.  Bu Brynhyfryd yn hafan ddiogel i ystod eang o ymwelwyr, gyda chanran sylweddol ohonynt yn weinidogion yn trafod pregethwyr a phregethau. Roedd yn gymhathiad byw o’r difrif a’r digrif, gan warchod y gwerthoedd Cristnogol mewn byd a welodd cymaint o gyfnewidiadau yn ystod y ganrif. Roedd Parri-Roberts wrth ei fodd yn yr ardd, a bu gardd Brynhyfryd yn cnydio’n dda.  Deallai’r garddwr sut oedd hau gan adnabod y pridd yn dda.  Felly bu gyda’i fywyd.  Heuodd yn helaeth o’i syniadaeth radical gan ddeall yn iawn beth oedd yn debygol o ddwyn ffrwyth. Fel y bu yntau o dan ddylanwad pregethwyr Môn a heddychwyr Cymru, bu ef yn ddylanwad o bwys ar yr eglwys ym Methel, a’r myfyrwyr a fu yn pwyso arno am hyfforddiant ar ddechrau eu gyrfaoedd. Yn adroddiad yr eglwys 1967-8, lluniwyd yr anerchiad gan Mr Eric John, yr ieuengaf o’r diaconiaid ar y pryd, gan ddweud am y gweinidog –

“Corff bychan a bregus a gafodd, ond o fewn y gragen ddaearol honno, lletyodd Enaid mawr.  Cofir ef fel pregethwr mawr, cwmnïwr digymar, cyfaill ymddiriedol a chymwynaswr hael”.

Rhodddwyd ei weddillion i orffwys yn y Fynwent Newydd, ac ar y maen coffa, sef garreg-lwyd o Glynsaithmaen gwelir englyn o waith W.R.Evans –

O gwr Môn i Gaermeini – y craffaf
A’r puraf oedd Parri,
Y da frawd, proffwyd o fri
Noswyliodd ar Breseli.

 ………………………………………………………………………………………………………

I gofio y Parchg R. Parri-Roberts, Mynachlog-ddu.

Gŵr o Fôn, gwlad Goronwy,
Yma ym Mhenfro’r tramwy,
A Môn ni wêl yntau mwy.

Taer y bregeth ym Methel,
Mor eirias oedd y mawr sêl,
Ei dŷ, bellach mor dawel !

Y gwaith ydoedd pregethu:
Heulwen yr efengylu
Oedd ddarn o Fynachlogddu.

Draw ei drem hyd oer drumiau
Niwlog yr hen Breselau.
A’r hen fro yn ei fawrháu.

Diedifar wladgarwch,
“Rhyddid” ei gri, a heddwch
Egni llef yn llosgi’n llwch!

Rhag magnel ar breselau,
Dihid o’r awdurdodau:
Ac yno ni bu gynnau.

Prudd iawn yw’r praidd yno
Wedi’r diail fugeilio
A gwas y Gred dan gwys gro.

 Mae yno ger Carn Meini,
Bro’r gawnen a’r siglenni,
A chwsg yn ei heddwch hi.

     James Nicholas.

Cyfrannwr:  Denzil Ieuan John