Richards – Eurof (1938 – 2015)

Ddiwedd mis Mai, bu farw’r Parchg Eurof Richards, gweinidog Penuel, Casllwchwr. Trydydd plentyn aelwyd John Glyn ac Abigail Richards oedd Eurof Richards, ac roeddent fel teulu yn addoli yng nghapel Calfara, Penygroes. Bu farw ei chwaer Margaret o’i flaen, a gadawyd ei frawd Glyn i rannu yng ngalar y teulu.   Ganed Eurof yn 1938 a mynychodd yr ysgol gynradd ac uwchradd leol yn ardal Penygroes.  Ei fwriad cyntaf oedd ymuno gyda’r llu awyr, ond pan sylweddolwyd ei fod yn ddall i liwiau, bu’n rhaid iddo feddwl am yrfa arall.  Penderfynnodd fynd i weithio gyda’r Bwrdd Glo, ac ymroddodd i weithio’n galed gan dderbyn cyfrifodlbau yn fuan.  Bu’n is-reolwr ym Mhwll glo Bryn Lliw, cyn derbyn cyfrifoldeb rheolwr ym mhwll glo Cynheidre.  Yn ddiweddarach derbyniodd gyfrifoldeb i fod yn Swyddog Diogelwch dan ddaear lel-led maes glo De Cymru.  Ymddeolodd o’r diwydiant glo pan roedd yn 50 oed er mwyn cynnig ei hun am y weinidogaeth gyda’r Bedyddwyr.

Meithrinwyd ef yn y ffydd ers yn blentyn, a bedyddiwyd ef gan y Parchg Eleazar Bryn Jones.  Bu’n aelod ymroddedig, gan dderbyn ei gyfrifoldebau o ddifrif.  Bu ef a’i briod Violet, yn weithgar yn eglwys Calfaria a gwahoddwyd ef yn i fod ddiacon yno. Pan gafodd swydd gyda’r Bwrdd Glo ym mhwll Bryn Lliw, symudodd y teulu i fyw yn Gorseinon, ac ymaelodi yn Seion.  Roedd yn aelod gwerthfawr yno hefyd, ac yn reddfol yn ymweld gyda’r cleifion ac yn hapus i alw heibio’r oedrannus.  Cafodd gyfle i wasanaethu fel diacon yn Seion a derbyniodd gyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Ariannol.  Yn 1983, aeth Victor Evans yn weinidog yno a bu’r berthynas rhyngddynt yn agos iawn. Dwy flynedd yn ddiweddarach, cymhellodd y gweinidog yr ysgrifennydd ariannol i ystyried cynnig ei hun fel gweinidog lleyg, ac ar ôl ystyriaeth dwys, derbyniodd Eurof yr arweiniad. Yn 1987, ac yntau yn barod i orffen un yrfa, ceisiodd am le yng ngholeg yr enwad yng Nghaerdydd, a cychwynnodd ar gwrs tair blynedd i gymhwyso ei hun ar gyfer y weinidogaeth.  Bu’n fyfyriwr dygn dros y cyfnod, ac yn 1991, cafodd ei sefydlu’n weinidog llawn amser yn eglwys Seion Newydd, Treforus.

Yn ystod y ddegawd y bu yno, ymroddodd i blethu’r gynulleidfa ynghyd, gan fod Seion Newydd yn gynulleidfa a fu gynt yn ddwy eglwys wahanol.  Datblygodd fel pregethwr cadarn ac roedd yn arweinydd naturiol.  Bu ei brofiad yn y diwydiant glo ac fel diacon dwy eglwys yn werthfawr iddo wrth ddechrau fel gweinidog Seion.

Yn 2002, derbyniodd wahoddiad Bethesda, Ponthenri i fod yn weinidog yno, a mwynhaodd y ddeng mlynedd mewn ardal wledig.  Fel yn ei ofalaeth gyntaf, roedd yn fugail ffyddlon i’w braidd, ac yn mwynhau ymweld â’r ysgol leol, ac uniaethu ei hun gydag amgylchiadau pob cenhedlaeth yn y fro. Roedd ar delerau da gyda phawb, ac yn gyson ei gefnogaeth i Gymanfa Caerfyrddin a Cheredigion.  Ar ben y deng mlynedd eto, ymdeimlodd gyda’r alwad i gefnogi cynulleidfa eglwys Penuel Casllwchwr, er ei fod yn 75 oed erbyn hynny.  Roedd yn ffodus o fod yn berson iach mewn sawl gwedd, ond iddo ddioddef, fel llawer un arall a fu o dan ddaear, effeithau’r llwch ar y frest.  Bu’r aflwydd hynny yn ofid iddo am gyfnod sylweddol.  Siom Penuel oedd colli ei gweinidog ac yntau yn marw yn y gwaith.

Bu Eurof yn ffyddlon i weithgarwch yr enwad, ac yn selog i Ysgol Hâf y Gweinidogion, y ddwy Gymanfa y bu’n aelod ohonynt, ac i gynhadleddau’r enwad ar draws y blynyddoedd. Derbyniodd gyfrifoldeb trefnu Oedfa Ilston hefyd yn ei dro, ac roedd yn gyfforddus fel arweinydd achlysuron tebyg.  Roedd wrth ei fodd yng nghwmni gweindogion eraill, ac yn ffyddlon iddynt drwy’r blynyddoedd. Meddai ar bersonoliaeth gynnes a chyfeillgar, a byddai yn hapus i drafod pynciau y dydd, heb ofni dangos ei safbwynt pan ddeuai galw. Cofir am y gŵr hoffus a chymwynasgar a lwyddodd i gymysgu gyda phawb.

Meddai ar lais canu godidog, ac am ugain mlynedd, bu’n denor yng Nghôr Meibion Treforus.  Byddai’n ddigon parod i ganu unawdau a bod yn rhan o ddeuawdau hefyd pan fyddai’r cyfleoedd yn codi.  Cafodd lawer o bleser yn garddio, darllen a chwarae golff, ac roedd yn mwynhau cerdded a chwmnia.  Serch hynny ei bleser pennaf oedd bod gyda’i deulu. Roedd Vi ac yntau, yn mwynhau yr un pethau, a bu eu plant, Indeg a Paul, yn destun llawenydd iddynt ill dau.  Pan ddaeth yr wyrion i’r aelwyd, roedd Eurof yn ei seithfed nef, a byddai’n sôn am Sam, Chrissie, Dylan a Mark yn gyson.  Cynhaliwyd ei angladd o dan ofal Victor Evans, un a oedd yn weinidog i Eurof tra roedd ef yn gweithio yn y maes glo, yn ffrind agos ac yn dad yn y ffydd iddo.