Yr Wyddor: J

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

Jones – Isaac (1847 – 1914)

Ganwyd Isaac Jones yngh Nghastell Nedd yn 1847.  Symudodd gyda’i deulu i Ferthyr Tudful a dechreuodd weithio yn y lofa leol yn naw oed.  Wedyn symudodd y teulu i Bontypridd lle gweithiodd yn y Chain Works a hefyd ym mhwll glo’r ‘Great Western’. 

Darllen mwy »

Jones – William (1918-1989)

William Jones ar ddydd Sant Steffan 1918 y pedwerydd plentyn i deulu o naw o blant Richard ac Elizabeth Jones, aelwyd Nant y Tŷ, Gerlan, Bethesda. Yn ôl tystiolaeth cyfoedion, roedd yn blentyn galluog iawn a ddaeth yn uchel iawn ar restr disgyblion llwyddiannus 11+ y sir. Bryd hynny roedd addysg yn gostus ac amgylchiadau economaidd y teulu yn methu ei gynnal i barhau ym myd addysg uwchradd, felly dechreuodd weithio’n 14 oed yn Chwarel y Penrhyn a chynorthwyo ar dyddyn y teulu cyn cael ei alw i’r fyddin ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn 1939 tan 1945.

Darllen mwy »

Jones – Robert Coetmor (1913-1990)

Brodor o’r Gerlan, Bethesda Gwynedd oedd y Parch R. Coetmor Jones (‘Bob’neu ‘Robin’) fel ei gelwid gan ei gyfoedion. Fe’i ganed yn Hill Street ym mis Hydref 1913. Mab ydoedd i Richard Jones, chwarelwr a thyddynnwr a’i wraig Elizabeth Jones ac yr oedd ganddo tri brawd, John, Wil ag Arthur a pum chwaer, Catherine, Ann, Alice, Phylis a Betty.

Darllen mwy »

Jones – Arthur (1924-1985)

Ganwyd y Parch Arthur Jones ar Fehefin y cyntaf, 1924 ym Methesda, Sir Gaernarfon, y mab ieuengaf mewn teulu o naw o blant i Richard ac Elizabeth Jones, Nant y Tŷ. Cafodd ei addysg gynradd yn ysgol Carneddi cyn mynd i ysgol Cefnfaes, Bethesda. Bethel, Caellwyngrudd oedd ei fam eglwys, yno y bedyddiwyd ef gan Y Parch E. Bryn Jones ac oddi yno yr aeth i’r weinidogaeth gan ddilyn ôl troed ei dri brawd hŷn sef John, Robert Coetmor a William.

Darllen mwy »

James – James Spinther (1837-1914)

Un o blant Talybont oedd James Spinther James, a chofir amdano yn bennaf fel llenor a hanesydd y Bedyddwyr yng Nghymru yn ail hanner y 19g. Roedd ei rieni, Humphrey a Catherine James yn byw yn y Brachgoed, ond symudodd y teulu i Bwlch-y-dderwen ar odre Pumlumon. Brawd iddo oedd y Parchg Gwerfyl James, a fu’n weinidog yn Seion Treforus am gyfnod. 

Darllen mwy »

Jones – Edgar Owen (1912-1976)

Ganwyd Edgar Owen Jones ar 3 Mai, 1912, ar fferm Maes Gwilym, Carwe, yn un o bedwar plentyn i John ac Ann Jones.  Roedd ganddo ddau frawd, Gwynfor ac Elwyn, a chwaer, Awena. Addolai’r teulu yn Siloh, capel y Bedyddwyr yng Ngharwe. Y gweinidog yno yn nghyfnod ei blentyndod oedd y Parchg M.T. Rees, gŵr a gafodd ddylanwad mawr ar Edgar.

Darllen mwy »

Jones – Williams Rhys (Gwenith Gwyn) (1858-1937)

Bu yng Nghymru draddodiad cyfoethog o offeiriaid a gweinidogion a oedd hefyd yn llenorion ac yn hynafiaethwyr, yn newyddiadurwyr ac yn awdurdod ar len a llafar eu bro a’u gwlad: gwyr diwylliedig, cynheiliaid traddodiad, parod i gyfrannu eu dysg a’u gwybodaeth i eraill.  Buont yn gymwynaswyr yn eu dydd a’u…

Darllen mwy »

Jones – Tom Ellis (1914-1999)

Ganwyd Tom Ellis Jones, yn chweched o ddeg o blant i Daniel a Deborah Jones, Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin ar 13 Awst, 1914. Cafodd ei fagu ar aelwyd dlawd ond cynnes a chariadus mewn ardal lofaol draddodiadol. Bu’n ddifrifol wael ar ddau achlysur yn ei blentyndod, unwaith gyda Llid yr…

Darllen mwy »

Jones – Emlyn (1927-2014)

Un o blant y gogledd oedd Emlyn Jones a dreuliodd eu gyfnod fel gweinidog yn y de, ac yn bennaf yn Llangloffan, Sir Benfo. Ganwyd ef yn 1927, i deulu a oedd yn byw ynFferm y Clwt,Fforddlas, ger Conwy,  ond yn ystod plentyndod Emlyn a’i chwaer, symudodd y teulu i…

Darllen mwy »