James – James Spinther (1837-1914)

Un o blant Talybont oedd James Spinther James, a chofir amdano yn bennaf fel llenor a hanesydd y Bedyddwyr yng Nghymru yn ail hanner y 19g. Roedd ei rieni, Humphrey a Catherine James yn byw yn y Brachgoed, ond symudodd y teulu i Bwlch-y-dderwen ar odre Pumlumon. Brawd iddo oedd y Parchg Gwerfyl James, a fu’n weinidog yn Seion Treforus am gyfnod.   Pan roedd James yn blentyn, ond arhosodd y teulu i fod yn aelodau yn y Tabernacl, Talybont, lle bedyddiwyd James yn 13 oed.  Yn ddiweddarach dewisodd ychwanegu ‘Spinther’ i’w enw.  Gweithiodd fel bugail a hwsmon nes iddo symud yn 1854 i Aberdâr, a chael gwaith fel glöwr.  Yno, daeth o dan ddylanwad y Parchg Thomas Price, gan ymddiddori mewn llenyddiaeth, ond dechreuodd bregethu yn y Tabernacl, Talybont pan ddychwelodd i’w ardal enedigol gan nad oedd gwaith iddo yn Aberdar.

Derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn Athrofa Hwlffordd yn 1859 a’i ordeinio yn weinidog yn 1861 yn Llanelian yn Rhos. Un o’i lwyddiannau yn y cyfnod hwn oedd adeiladu capeli yn Hen Golwyn ac yn Llanddulas.  Yn y cyfnod hwn hefyd y priododd ferch o Landudno o’r enw Elizabeth Hobson.

Teithiodd i America yn 1865-6 a threulu peth o’r amser yno yn gweinidogaethu. Pan ddychwelodd, bu am gyfnod byr heb ofalaeth, ond yn 1867 derbyniodd gyfrifoldeb fel gweinidog yn eglwysi’r Bedyddwyr yn Treuddyn ac yn Coed-llai. Yn 1870 cafodd ei sefydlu yn weinidog yng Nglanwydden a bu yno am ugain mlynedd.  Dywed R. T. Jenkins yn y Bywgraffiadur Cymraeg ei fod yn siaradwr huawdl ar bynciau gwleidyddol, ond nad oedd ‘yn ddyn cymeradwy’.  Ceir sylw cynnil yn Seren Gomer (Mawrth 1915) gan R. Ellis Williams, pan ddywed fod Spinther James yn fwy o lenor nac o bregethwr, gyda’r nodyn fod Spinther  wedi ymneulltio o’r weinidogaeth ‘ers rhai blynyddoedd, ac er fod iddo, fel pawb arall ei wendidau, credwn ei fod yn wir fonheddwr a Christion’.  Ar ôl gadael y weinidogaeth, bu’n gweithio yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor, ac ennill ei blwyf fel gŵr llyfrau’, ac yn gyfforddus iawn yng nghwmni academyddion y coleg.  Prin yw’r cyfeiriadau ato fel gweinidog, a cheisiwyd osgoi dweud ei fod wedi cael blas ar alcohol yn aml.  Efallai fod yr oes ddiweddarach yn barotach i dderbyn hynny, a chydnabyddir bod alcoholiaeth yn salwch yn anad unrhyw beth arall.  Nid oes sôn chwaith iddo gael teulu.

Ei brif waith fel llenor oedd llunio Hanes y Bedyddwyr mewn pedair cyfrol hardd.  Cyfrannodd hefyd at hanes Bedyddwyr Cymru yn  History of the Baptists gan Dr Thomas  Armitage (1819–1896). Cyfrannodd yn sylweddol i nifer o gyhoeddiadau eraill ar nifer o bynciau amrywiol. Lluniodd nifer o emynau, a gwelir pedwar ohonynt yn Y Llawlyfr Moliant Newydd (1955) sef ‘Fy Mugail da’ (351); ‘Ti O Dduw foliannwn’ (377); Clywch berddoriaeth swynol (380`; a ‘Y dydd aeth heibio weithian’ (752).  Ceir tri emyn yn Caneuon Ffydd (2001) sef Ti O Dduw, foliannwn (127); Bendigedig fyddo’r Iesu (388); Clywch berddoriaerth swynol (460). Nodir bod golygyddion yr llyfrau hyn wedi addasu’r pennillion ym ôl eu gogwydd eu hunain, ac engraifft o hynny oedd y modd addasodd cyhoeddiad gan yr Annibynwyr ail bennill yr emyn Bendigedig fyddo’r Iesu a soniai am ‘Trwy fedydd, ei gydgladdu ag Ef, a’i gyd-gyfodi mewn bywyd byth yr un”.

Bu farw’n ddisymwth yn mis Tachwedd 1914.wedi dychwelyd adref ers iddo fod yn ceisio ‘reciwtio’ pobl i’r fyddin.  Roedd ef, fel llawer o bobl amlwg yr enwad megis y Parchg M. B. Owen, yn gweld bod yn rhaid cefnogi’r frwydr yn erbyn y Kaisar. Bu nifer o weinidogion a myfyrwyr diwinyddol yn ystyried nad oedd dewis ond cefnogi’r ymdrech filwrol, gan gynnwys pobl a ddaeth ymhen y rhawg yn heddychwyr o argyhoeddiad. Roedd gan Spinther James ddiddordeb parod mewn gwleidyddiaeth, ac yn barod iawn ei farn ar faterion fel iechyd a dadgysylltiad.  Nid oedd yn awyddus i’r Eglwysi Bedyddiedig yng Nghymru aros yn agos i’r corff Bedyddiedig yn Lloegr.  Roedd Ellis WIlliams o’r farn fod Spinther James yn un o haneswyr amlycaf y genedl yn y cyfnod hwnnw, er bod haneswyr diweddarach yn ymwybodol o’i gyfyngiadau. Enillodd Spinther raddau M.A. a D.Litt ar ei daith, a bydd yr haneswyr diweddarach nag ef yn ddiolchgar iddo am fraenaru’r tir a chasglu cymaint o wybodaeth am gefndir Eglwysi Bedyddiedig Cymru.

Cyfrannwr:  Denzil Ieuan John

Ffynhonellau:

Hanes y Bedyddwyr   Cyfrolau 1-4  Cyhoeddwyd gan Wm Morgan Evans a’i fab, Caerfyrddin 1893-1907

Thomas Shankland     Y  Geninen (Gwyl Dewi), 1915, 9-15;

  1. T. Jenkins Bywgraffiadur Cymraeg.
  2. Ellis Williams Seren Gomer, Mawrth 1915
  3. T.M.Bassett  ‘Bedyddwyr Cymru’,    Gwasg Gomer,  Mehefin 1977