Yr Wyddor: J

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

John – Walter Phillips ( 1910 – 1967)

 
Ganed Walter Phillips John ar 31 Ionawr, 1910 yn y Gilfach, ger Bargod, yng Nghwm Rhymni, ac yn ail o bum plentyn y Parchg D. R. John , gweinidog gyda’r Bedyddwyr a’i briod, Susannah Mary.  Roedd y ddau yn hannu o ardal Pen-y-groes ger Rhydaman, sir Gaerfyrddin. Bu’r tad…

Darllen mwy »

Jenkins – Sidney John (1899-1949)

Ganwyd Sidney John Jenkins ym mhentref Talybont, Aberystwyth yn 1899, i deulu a addolai gyda’r Bedyddwyr yn eglwys y Tabernacl o dan weinidogaeth y Parchg Trebor Aled. r  ol gadael ysgol cofrestrodd yn ifanc yn y fyddin, a bu yno hyd diwedd y rhyfel. 

Darllen mwy »

Jones – Thomas Richard (1933-2006)

Ganwyd Thomas Richard Jones yn 1933 i deulu o Fedyddwyr yn Tangrisiau, ger Blaenau Ffestiniog, ardal chwarelyddol a drwythwyd yn y diwylliant Cymraeg ac a fagodd pobl o ruddin ac argyhoeddiad. Bu T.R. yn enghraifft nodedig o orau ei gymuned.  Ei rieni oedd George Washington a Chatherine Jones ac roedd…

Darllen mwy »

Jones – J. Young (1847-1914)

Y Parchg J. Young Jones oedd gweinidog cyntaf Salem Newydd.  Ganwyd ef ar 30 Ionawr, 1847, yn fab i Samuel Jones, Llandudno, ac yn ŵyr i John Jones, Pydew, pregethwr nodedig yng Ngogledd Cymru.  Fe’i bedyddiwyd yn 14 oed, ym Môn, lle roedd ei dad yn oruchwylydd ym mwynglawdd copr…

Darllen mwy »

Jones – Idwal Wynne (1938-2006)

Un o gymeriadau unigryw y pupud Bedyddiedig yn ail hanner yr ugeinfed ganrif oedd y Parchg Idwal Wynne Jones. Un  a anwyd yn Sir Fôn oedd Idwal, a wasanaethodd yn bennaf ym Mhorthmadog a Llandudno, ond a anwylwyd gan Gymru gyfan.  Gŵr hynaws oedd yn mwynhau cwmni pobl.  Byddai yn…

Darllen mwy »

John – Emlyn Morris (1917-2008)

Un o blant Mynachlogddu ar odrau’r Preseli oedd Emlyn Morris John, y pumed o wyth plentyn William a Jane John, Dolau Newydd, Mynachlogddu.  Fel mwyafrif y teulu, gadawodd yr ysgol gynradd yn 14 oed gan gychwyn fel gwas ffarm yn Llangolman.  Dangosodd ddidordeb mawr yng ngwaith yr eglwys, a…

Darllen mwy »

Jones – Edward Cefni (1871 – 1972)

 
Teulu yng nghapel Cildwrn, ger Llangefni, Ynys Mon oedd rhieni yr emynydd a’r pregethwr enwog Edward Cefni Jones.  Ganwyd ef ar 17 Hydref 1871 yn bedwerydd plentyn allan o ddeg i John ac Ann Jones, Rhosgofer, Rhostrehwfa . Y gweddill oedd William, John, Mary, Edward (Cefni), Elizabeth, Anne Ellen, (nain…

Darllen mwy »