Jones – Tom Ellis (1914-1999)

tom ellis jones

Ganwyd Tom Ellis Jones, yn chweched o ddeg o blant i Daniel a Deborah Jones, Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin ar 13 Awst, 1914. Cafodd ei fagu ar aelwyd dlawd ond cynnes a chariadus mewn ardal lofaol draddodiadol. Bu’n ddifrifol wael ar ddau achlysur yn ei blentyndod, unwaith gyda Llid yr Ymenydd, ond cafodd ei warchod a’i adfer ar gyfer pwrpas uwch.

Ym 1929, ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed, aeth i weithio at ei dad a’i frodyr i bwll glo Pentremawr a bu yno yn mwynhau’r gymuned waith glos tan 1942, Er yn waith peryglus ac anodd, roedd y gymdeithas danddaearol yn un glos a chyfaddefodd sawl gwaith bod ganddo hiraeth ar ei ôl. Roedd yn aelod ac athro ysgol sul yn Pisgah Bancffosfelen, a profodd weinidogaeth yn Parchedigion J Watts Williams a Glyn Davies-Jones. Roedd hefyd yn hapus yn gwasanaethu wrth yr organ yn ôl y gofyn. Dros y cyfnod, bu’n brwydro yn erbyn galwad Duw arno i fynd i’r weinidogaeth. Fodd bynnag, ildio a wnaeth, derbyn cymeradwyaeth yr eglwys leol a mynychu Coleg Myrddin, Caerfyrddin am flwyddyn i baratoi ar gyfer arholiadau mynedfa i Goleg yr enwad ym Mangor, lle yr ymunodd â 20 o fyfyrwyr eraill oedd â’u bryd ar y weinidogaeth.

Ym 1947, derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar eglwysi cylch Llanbedr Pont Steffan, sef Noddfa Llanbed, Bethel Silian a Caersalem Parcyrhos. Yno y cyfarfu â Mary Wynne Williams a oedd eisoes yn gweithio yn yr ardal yn ei swydd fel Trefnydd Lleol i Urdd Gobaith Cymru. Priododd y ddau, gan ddechrau blynyddoedd hapus o gyd-weinidogaethu fel partneriaeth yn enw eu Harglwydd. Roedd Mary yn hynod o weithgar gyda Mudiad y Chwiorydd ac yn rhan allweddol o’r gwaith o sefydlu Cartref y Gogledd. Yn dilyn marwolaeth Tom, cafodd Mary ei dewis yn lywydd yr Undeb ac, yn gwbl briodol, camodd i’r swydd honno yn Noddfa Llanbedr Pont Steffan, eglwys gyntaf Tom. Bu’n gweinidogaethu yno tan Mehefin 1955, pan symudodd i eglwys Bethesda Glanaman. Profodd flynyddoedd bendithiol yn Glanaman tan Mehefin 1969 ac yno y ganwyd ei ddau fab. Ym 1969, symudodd i fod yn weinidog ar y Tabernacl, Llandudno lle bu’n gweinidogaethu yn hapus tan ei ymddeoliad ym Medi 1979. Yn ystod y cyfnod hynny, bu’n Ysgrifennydd a Llywydd ar Gymanfa Sir Gaernarfon. Ar ôl ymddeol, symudodd i Ddolgellau, yn aelod yn Nghapel Judah, hen eglwys deuluol Mary a bu’n gwasanaethu eglwysi o sawl enwad yng nghylch Meirionnydd am tua ugain mlynedd hyd at ychydig o fisoedd cyn ei farwolaeth. Ar ben hynny, chwaraeodd rhan gyflawn yng ngweithgareddau Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion, lle y gwasanaethodd, yn ei dro fel Llywydd ac Ysgrifennydd Cenhadol.

Roedd yn bregethwr ffyddlon a chyson a byddai ei aelodau yn tystio ei fod yn berson cadarn ond graslon a charedig. Nid oedd yn un am geisio sylw; nid oedd yn ddyn pwyllgorau fel y cyfryw ond bu’n weithgar ar Bwyllgor y Coleg Gwyn, ei hen goleg, am rai blynyddoedd. Yn anad dim arall, roedd yn fugail a roedd ei fryd pennaf ar ei ofal dros ei braidd. Roedd yn un garw am gadw cofnodion ac mae rhai o’r cofnodion hynny yn codi cwr y llen ar rai o’r bywydau y bu’n gofalu amdanynt dros ei weinidogaeth. Dros ei 32 o flynyddoedd yn y weinidogaeth lawn amser, bedyddiodd 174, derbyniwyd neu adferwyd 131 a bu’n gofalu am 184 a fu farw yn ystod ei weinidogaeth.

Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yn Rhagfyr, 1999, dyma a ysgrifennwyd ganddo – “Pe tae modd cael ddoe yn ôl (nid mod i’n siwr y byddwn am i’r peth ddigwydd) ond tase’r fath beth ym mhatrwm bywyd fel y cred rhai …… i’r weinidogaeth yr awn am ei fod Ef yn gallu ein defnyddio ni, lestri pridd, er ein holl wendidau er ei glod a’i ogoniant.”

Cyfrannwr:  Arwel Ellis Jones a’r teulu.