Jones – Arthur (1924-1985)

Arthur JonesGanwyd y Parch Arthur Jones ar Fehefin y cyntaf, 1924 ym Methesda, Sir Gaernarfon, y mab ieuengaf mewn teulu o naw o blant i Richard ac Elizabeth Jones, Nant y Tŷ. Cafodd ei addysg gynradd yn ysgol Carneddi cyn mynd i ysgol Cefnfaes, Bethesda. Bethel, Caellwyngrudd oedd ei fam eglwys, yno y bedyddiwyd ef gan Y Parch E. Bryn Jones ac oddi yno yr aeth i’r weinidogaeth gan ddilyn ôl troed ei dri brawd hŷn sef John, Robert Coetmor a William. Cyn wynebu ar y weinidogaeth bu’n gweithio ym maes glo Northumberland, yn chwarel y Penrhyn ac yna yn Adran Cynnal a Chadw bwrdd ysbytai Môn ac Arfon.

Dechreuodd ar ei gwrs yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor yn 1958, gan dderbyn galwad i wasanaethu Eglwys Bethabara, Sir Benfro a’i sefydlu ar Fedi  28ain, 1961. Ar ddechrau ei gyfnod yma mwynhaodd gwmni a chyngor ei gymydog Y Parch R. Parri-Roberts, Bethel, Mynachlog-ddu.

Bethabara oedd ei unig ofalaeth ac roedd rhif aelodaeth Bethabara  yn uwch pan fu farw yn 1985 nag yr oedd pan ddechreuodd yno yn 1961. Dyna dystiolaeth o’r berthynas nodedig o hapus a fu rhwng gweinidog o fugail cydwybodol  a’i  braidd.

Yn ôl tystiolaeth Y Parch T. R. Jones “ Roedd yn bregethwr cryf, ond diau mai fel bugail gofalus ac fel cymwynaswr y cofir ef gan ei bobl a thrigolion godre’r  Preseli. Galwyd ef o’n plith yn frawychus o sydyn… , a pharlyswyd ardal eang gan y newyddion trist ”.

Bu farw’n frawychus o sydyn, tra yn torri lawnt Cartrefle, ar Fedi 17eg 1985. Gadawodd Elina ei weddw, a dwy ferch Elizabeth ac Olwen.

Cyfrannwr: Elizabeth John