James – Benjamin Levi (1920-1984)

Ganed y Parchg Benjamin Lefi James ar Ionawr 3, 1920 ar fferm Cwm Isaf, Mynachlogddu, yn un o bedwar plentyn Gwilym a Regina James.  Roedd ei rieni yn enedigol o’r plwyf, gyda’i fam yn ferch i deulu fferm Plasdwbwl. Bu farw hithau yn ifanc, a gwerthfawrogodd Ben y fagwraeth a gafodd gan David a Maria James ei dadcu a’i famgu duwiol a defosiynol. Bu bywyd yn anodd i Ben a’i deulu yng nghyfnod  ei blentyndod, a bu’r Parchg Parri Roberts yn ddylanwad cadarnhaol ac adeiladol ar ei fywyd.

Dechreuodd bregethu o dan arweiniad ei weinidog ac ar ôl tymor yn Ysgol Ilston yng Nghaerfyrddin,derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr, Bangor yn 1942.  Roedd Emlyn John, myfyriwr arall o Fynachlogddu, yn y coleg ar yr un adeg.  Yn 1945, ordeiniwyd Ben yn weinidog ym Mount Pleasant, Rhosllanerchrugog, ac yn yr un flwyddyn priododd â Miss Eithwen Davies, o Frynaman. Roedd hithau hefyd o deulu dawnus a gyfrannodd yn helaeth i fywyd eglwysig y fro. Yn Rhagfyr 1946, symudodd i fugeilio Eglwys Bethlehem, Porthyrhyd.  Tra yno, llafuriodd yn egnïol i adnewyddu’r capel, ac ystyrid yr adeilad ar yr adeg honno fel un o gapeli mwyaf modern y Bedyddwyr.  

Yn 1956, aeth i wasanaethu Eglwys Libanus, Treherbert, yng Nghwm Rhondda,  a mwynhau bwrlwm anghydffurfiaeth Gymraeg y maes glo yng Nghymanfa Dwyrain Morgannwg. Roedd y dirywiad iethyddol wedi dechrau, a hynny ochr yn ochr a’r colli tir yn nylanwad yr eglwysi ar y gymdeithas eangach.  Dangosodd cryn feistrolaeth ar bregethu yn Saesneg hefyd, ac o fewn pum mlynedd, yn 1961, symudodd i Gaerdydd a gweinidogethu yn Eglwys Llandaff Rd yn y brif-ddinas.  Gwelodd yr eglwys hon nifer o Gymry Cymraeg yn ei phulpud dros y degawdau, er mai ond dwy flynedd y treuliodd un o blant Mynachlogddu yno. 

Roedd yn weinidog a welai gyfleoedd newydd yn anodd i’w gwrthod, ac yn 1963, denwyd ef i Garmel, Pontlliw ac yn 1965, o fewn dwy flynedd, roedd wedi symud i Salem, Britton Ferry. Yn niwedd y chwedegau ni fu’n weinidog eglwys a nodir ei fod yn agored i wasanaethu eglwys neu gylch o eglwysi yn llawlyfr yr enwad,  gan fyw yn Cimla, ger Castellnedd, Rhydaman a Brynaman Isaf. Yn y cyfnod yma, derbyniodd wahoddiad Eglwys Seion, Cwmgors tra’n byw ym Mrynaman Isaf, ac yn uchel ei barch yno. Bellach roedd yn gweithio yn y maes glo, ynghyd â bod yn weinidog, ac roedd yn deall anian y gweithiwr cyffredin. Dioddefodd salwch heriol ei hun, ond roedd yr alwad i’r weinidogaeth ac i bregthu’r Efengyl yn allweddol bwysig iddo.   Bu farw’n sydyn yn niwedd Awst 1984, ac yntau ond yn 64 oed, gan adael ei briod a’i fab Huw i hiraethu ar ei ôl. 

Pregethu a phregethwyr oedd yn hawlio holl anian a diddordeb Ben James, ac roedd saernïo pregeth a’i thraddodi yn afiaethus yn bopeth iddo. Bydd rhai gweinidogion, fel Emlyn John, ei gyfaill bore oes yn aros yn yr un maes gydol eu gweinidogaeth, tra bu eraill, fel Ben James, yn codi adain yn aml, a gwasanaethu am dymhorau byr mewn sawl ardal.  Diolchwn am yr amrywiaeth o bobl ac o weinidogaethau yn ein gwlad ac y sawl a wynebodd pob anhawster gyda ffydd di-amod yn Nuw.   

Cyfrannwyr:

Irfon Roberts

Eirian Wyn Lewis

Denzil John