Jones – William (1918-1989)

Williams JonesWilliam Jones ar ddydd Sant Steffan 1918 y pedwerydd plentyn i deulu o naw o blant Richard ac Elizabeth Jones, aelwyd Nant y Tŷ, Gerlan, Bethesda. Yn ôl tystiolaeth cyfoedion, roedd yn blentyn galluog iawn a ddaeth yn uchel iawn ar restr disgyblion llwyddiannus 11+ y sir. Bryd hynny roedd addysg yn gostus ac amgylchiadau economaidd y teulu yn methu ei gynnal i barhau ym myd addysg uwchradd, felly dechreuodd weithio’n 14 oed yn Chwarel y Penrhyn a chynorthwyo ar dyddyn y teulu cyn cael ei alw i’r fyddin ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn 1939 tan 1945.
Roedd y teulu cyfan yn aelodau ffyddlon ym Methel, Caellwyngrudd ac wedi’r rhyfel penderfynodd ddilyn cwrs yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, yn 1950 . Er mwyn ymbaratoi ar gyfer dilyn ei gwrs treuliodd gyfnod gyda’r Parch. R. Parri-Roberts, Mynachlog-ddu, fel ei frawd John Jones cyn hynny.
Yn 1953 derbyniodd alwad i Bryn Seion a Beulah,Cwmtwrch ac yno y cyfarfu â Morfudd ei briod.
Nos Iau a dydd Gwener, Gorffennaf 31 ac Awst 1, 1958 sefydlwyd ef yn weinidog ar eglwysi bedyddiedig Blaenffos a Seion, Crymych. Dyma wedyn fu maes ei ofalaeth hyd ei ymddeoliad yn 1988.
Heb amheuaeth ,ei orchwyl bwysicaf yn ei dyb ef oedd pregethu. Yn ôl ei gyfaill E. George Rees, “Bu galw cyson arno i uchel wyliau pregethu’r eglwysi, a gyda’ i ddawn ymadrodd a’i ddychymyg llachar cyfareddwyd llawer cynulleidfa ganddo. Roedd yn boblogaidd iawn yn ei fro, ac yn aml gwelid ef yn y farchnad leol gyda’r ffermwyr.
Bu farw yn ei gartref fore dydd Nadolig 1989.
Cyfrannwr: Elizabeth John (nith)