Jones – Emlyn (1927-2014)

Un o blant y gogledd oedd Emlyn Jones a dreuliodd eu gyfnod fel gweinidog yn y de, ac yn bennaf yn Llangloffan, Sir Benfo. Ganwyd ef yn 1927, i deulu a oedd yn byw ynFferm y Clwt,Fforddlas, ger Conwy,  ond yn ystod plentyndod Emlyn a’i chwaer, symudodd y teulu i Ddinorwig, lle cafodd y tad waith fel chwarelwr.  Roedd ganddynt dyddyn bychan, ac yno y magodd Emlyn ddiddordeb mewn ceffylau.  Roedd o gefndir gwerinol ac yn gyfarwydd gydag arferion a diddordebau pobl cefn gwlad.

Derbyniodd ei addysg yn lleol, a theimlo’r alwad i’r weinidogaeth. Bu’r teulu yn aelodau yn Sardis, eglwys y Bedyddwyr yn y pentref, a’r gweinidog yng nghyfnod llencyndod Emlyn oedd y Parchg Clifford Davies. Cafodd ei dderbyn i Goleg y Bedyddwyr ym Mangor, ac yno y daeth yn ffrind i lawer, ond yn arbennig i James Dole, myfyriwr di-Gymraeg o Lanbradach.  Dysgodd James yr iaith Gymraeg yn fuan, a byddai Emlyn yn mynd yno at y teulu.  Roedd yn gymuned digon tebyg ar sawl gwedd i Ddinorwig, ac eithrio’r ffaith mai Saesneg oedd prif iaith y fro a bod llawer o’r dynion yn löwyr.  Yn Llanbradach y cyfarfu Emlyn gyda’i briod Beti, a priodwyd y ddau yng nghapel ei ofalaeth gyntaf  sef Bethel, Abernant.

Ordeiniwyd Emlyn yn weinidog ym Methel, Abernant, yn 1950, a mwynhau bywyd Cwm Cynnon, ond ymhen chwe blynedd cafodd ei alw i ofalaeth Llangloffan, fel olynydd i’r Parchg Richard Edwards. Ganwyd dau fab hynaf Emlyn a Betty, sef Haulwyn a Hedd, yn ystod eu cyfnod yn Abernant, ac yn Sir Benfro, ganwyd Nia ac Iwan.  Roedd Betty yn athrawes wrth ei galwedigaeth, tra bod Haulwyn yn beiriannydd gyda British Telecome, Hedd yn lyfrgellydd yn ardal Wrecsam, Nia, fel ei mam yn athrawes, tra bod Iwan wedi cael blas ar amaethu, cyn dychwelyd i Benfro a throi ei olygon at addysgu.  Ni bu’r briodas heb ei gofid, ac ymhen amser penderfynodd Beti adael y cartref a dychwelyd i’w bro genedigol, cyn symud i fyw yn y gogledd.

Er iddo fwynhau cyfnod y cymoedd, roedd symud i’r ardal wledig yn hawdd iddo gan adael ‘dilaswellt lawr y dref”. Ganol y saithdegau, helaethwyd ei ofalaeth i gynnwys eglwysi Harmoni, Pencaer ac eglwys y Bedyddwyr yn Wdig.  Ceir llawer o dystiolaeth iddo fod yn bregethwr difyr yn trafod ei destun yn ofalus ac yn  cyflwyno argyhoeddiadau cryfion.  Roedd yn pwysleisio bedydd crediniol ac yn lwyr-ymwrthodwr wrth reddf.  Nid oedd ganddo fawr o amynedd gyda thŷ tafarn. Cofir amdano fel gŵr unplyg ei farn ac ni fyddai’n ildio ar fater o egwyddor. Byddai’n ymwelwr cyson gyda theuluoedd galar ac yn selog gyda’r cleifion a’r gofidus.

Gwasanaethodd y Cwrdd Adran yn ffyddlon ac roeddyn llywydd iddi yn 1962.  Yn 1974, derbyniodd gyfrifoldeb llywyddiaeth y Gymanfa a hynny yn cydnabod iddo fod yn is-ysgrifennydd iddi am ddegawdau ac yn Arolygwr parod ei gymwynas i eglwysi’r Gymanfa hefyd.

Byddai yn ei elfen yn ymweld â ffermydd y fro ac roedd yn adrodd hen ddywediadau amaethyddol am arwyddion tywydd.  Roedd yn adnabod y coed a’r llwyni yn y gwrychoedd a chân yr adar ar draws y tymhorau. Prynodd ferlen a mwynhau ei marchogaeth. Mewn cystadleuaeth aredig yn y chwedegau, mentrodd i gynnig am aredig gyda cheffyl, a rhyfeddu’r amaethwyr oedd yno, gyda’i ddawn a dangos ochr arall i’w allu.  Roedd wrth ei fodd hefyd yn gyrru ceir sylweddol, a theithio’r sir.  Ers ei blentyndod roedd yn cael blas ar adrodd cerddi gan feirdd fel Ceiriog, Eifion Wyn a’u cyfoedion a gallai adrodd rhain yn ddramatig.  Meddai Dafydd Henri Edwards amdano “Yr oedd llawer o’r Beibl a’r Llyfr Emynau ar ei gof hyd y diwedd, ac yn ei flynyddoedd olaf wedi iddo golli ei olwg bu adrodd y trysorau hyn yn fwy o gysur na dim iddo. Gwisgai ddillad o frethyn da a sgidiau cryfion o ledr safonol”.

Ym niwedd ei oes, collodd ei olwg a bu’n falch o fedru tynnu o’i gof yr ysgrythur a’r farddoniaeth.  Dioddefai o ddolur y galon a bu farw yn ysbyty Treforus.  Ymddiriedodd trefnu ei angladd i gyfaill o weinidog, gan ddewis nad oedd unrhyw un arall yn bresennol, hyd yn oed ei deulu. Efallai fod hyn yn dweud llawer amdano, ac iddo nodweddion preifat amgenach na’r rhelyw.

Cyfrannwyr:

Dafydd Henri Edwards

Denzil Ieuan John