Ganed Ifor Lloyd Williams yn nhref Rhymni yn 1925, a magwyd ef yn eglwys Jerwsalem Rhymni, eglwys lle roedd ei dad yn ddiacon a thrysorydd. Yma, genhedlaeth yn ddiweddarach y gwasanaethodd ei chwaer Mrs Morfydd Prytherch fel diacon ac ysgrifennydd, ac roedd hithau’n graig addfwyn o berson wrth arwain yr eglwys.
Ganwyd E. J. Williams yn un o efeilliaid ar aelwyd Rhys a Mary Williams, y Felin yn Swydd-ffynnon ac roedd E.J. a David, ei frawd
Un o feibion Rhosllanerchrugog oedd William Owen Williams, mab i Mr a Mrs Richard Williams. Addolai’r teulu ym Methania, y lleiaf o’r ddwy eglwys Fedyddiedig Gymraeg yn y pentref, ond yr un mor ddidwyll ac egnïol, ac fe gafodd ei fedyddio gan y Parchg Idwal Jones. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio yng nglofa Gresford, er ni fu yno’n hir cyn iddo ymdeimlo â’r alwad i’r weinidogaeth.
Ganwyd Albert Tudor Davies ar 15 Rhagfyr 1909 ym Mhedair Heol ger Cydweli yn fab i David a Rachel Williams, Tynewydd, – aelwyd a fu’n deyrngar i’r Achos yn Salem, Pedair Heol. Daeth yn drwm o dan ddylanwad cewri fel y Parchgn. M. T. Rees ac E. Curig Davies. Yn Salem y dechreuodd bregethu ac yn ystod gweinidogaeth y Parchg Dewi Davies y teimlodd yr alwad i droi o’r gwaith glo i’r weinidogaeth Gristnogol.
Dywedir am rai, eu bod wedi eu geni i fod yn weinidogion, ac yn ôl barn llawer, roedd David Carl Williams yn un o’r cyfryw rai. O ran ei ymddangosiad a’i ymarweddiad, roedd yn gyfforddus yn y swyddogaeth o fod yn weinidog eglwys. Bu’n ddyn pulpud ac enwad, yn bregethwr o ran argyhoeddiad a greddf, ac yn gyfaill da i’w gyd-weinidogion ar hyd ei oes.
Ganwyd Elwyn Williams yn ardal Kingsland, Caergybi Sir Fôn. Saer coed oedd William ei dad a bu farw ei fam Ellen Williams pan oedd yn chwech oed. Roedd ganddo dair chwaer a dau frawd. Ef oedd yr ieuengaf o chwech. Bu colli ei fam yn fwlch mawr iddo ar hyd…
Ganwyd Morgan John Willliams yn 1910 yn Abernant, Aberdar, yn unig blentyn i Elizabeth a Benjamin Williams, dau o aelodau ffyddlon Bethel, Abernant. Derbyniodd ei addysg gynradd yn Abernant a’i addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Aberdar, yn yr un cyfnod â Gwyn Henton Davies. Dangosodd bod ganddo feddwl byw a…
Ganwyd Ifan R Williams yn Nhon Pentre’r Rhondda Fawr ym 1925, yn fab i Mari a Richard Williams. Daeth Richard o Sir Fôn i weithio yn y pyllau glo-gosod trawstie o dan ddaear i greu twnelau twrio am lô. Priododd weddw o’r enw Mari a oedd yn fêtron yn…
Deuddydd wedi’r Nadolig 2015, bu farw Eifion Wynne, gweinidog ffyddlon i Grist am hanner can mlynedd. Ganwyd ef ar aelwyd Gwilym ac Elizabeth Williams, gwerinwyr tawel eu gwedd oedd yn selog yn Salem, Ffordd-las. Cawsant y fraint o weld eu dau fab, Goronwy ac Eifion, yn cynnig eu hunain…
Un o blant Sir Fynwy oedd John Watts Williams ond pan roedd yn ddeng mlwydd oed symudodd ei deulu i Landudoch, yng Ngogledd Sir Benfro. Mynychodd yr Ysgol Eglwys leol am flwyddyn, cyn cofrestru fel disgybl yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Mynychai’r teulu Eglwys Blaunwaun, yn Llandudoch, a bedyddiwyd John…
Read our privacy policy here.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru
Y Llwyfan, College Road, Carmarthen SA31 3EQ
Polisi Preifatrwydd
Cynlluniwyd gan: Waters