Williams – T Elwyn (1922 – 2011)

Elwyn WilliamsGanwyd Elwyn Williams yn ardal Kingsland, Caergybi Sir Fôn. Saer coed oedd William ei dad a bu farw ei fam Ellen Williams pan oedd yn chwech oed. Roedd ganddo dair chwaer a dau frawd. Ef oedd yr ieuengaf o chwech. Bu colli ei fam yn fwlch mawr iddo ar hyd ei oes, ond cafodd ofal arbennig gan ei dad, y ddwy chwaer a’r brawd a oedd yn ddi-briod.

Aeth i’r ysgol gynradd yn Kingsland a mynychu Ysgol Sul Ebeneser gyda’i fam i gapel y Methodistiaid a oedd ond tafliad carreg o’r cartref. Mynychodd yr Ysgol Ramadeg yn nhre Caergybi a’i brif hobïau yn y dyddiau hynny oedd pêl droed a golf. Yn wir, dyna oedd yn wir ar hyd ei oes. Aeth ymlaen i chwarae pêl droed i dîm y coleg yng Nghaerdydd ac yr oedd yn gefnogwr brwd i dîm pêl droed Everton. Edmygai ei frawd yn fawr, am ei fod yn chwarae golff yn  broffesiynol. Bu yn mynd yn ôl i chwarae yng nghlwb Bae Trearddur ar hyd ei oes ac roedd yn ei wyth degau cyn rhoi i fyny’r gêm yn llwyr.

Ar ôl colli ei fam dechreuodd fynychu Hebron, sef Eglwys y Bedyddwyr gyda’i dad a’r  teulu. Daeth gweddi yn bwysig iddo, ac yn ei arddegau roedd yn mwynhau dilyn y cyfarfodydd gweddi a’r seiat. Ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth a gwasanaethu ei Dduw.

Aeth i’r ysgol baratoi yn Rhosllannerchrugog cyn mynd i’r brifysgol yng Nghaerdydd. Roedd yn amser anodd, amser rhyfel, aros gyda theuluoedd,  bwyd yn brin, oriau’r coleg yn hir pryd hynny. Y Sul yn ddiwrnod hir a blinedig, rhaid oedd chwilio am fws neu drên i fynd ag ef i wahanol eglwysi. Treuliodd chwe wythnos yn Sir Benfro ar daith gasglu i’r coleg. Hoffai adrodd yr hanes am chwilio am yr eglwysi, dod i lawr o drên a dim byd i wneud ond cerdded. Defnydd o fatsien er mwyn cael golau i gadw ar y lôn yn y tywyllwch. Soniai am groeso twym galon yn rhan fwyaf o’r aelwydydd ond ambell un yn dangos y parlwr, a oedd yn oer a di-groeso ac yntau yn bwyta ar fwrdd bach ar ben ei hun.

Pregethodd mewn llawer o gapeli yn y Rhondda, ac roedd yn mwynhau mynd yn ddiweddarach gyda’r teulu i ddangos iddynt ble y bu ac ail adrodd hanesion am yr hyn a fu.

Ar ôl gorffen yn y coleg, cafodd alwad i Eglwys y Ffrwd Aberpennar, adeilad hardd, llawn cynnwrf a gweithgareddau. Cafodd groeso mawr gan deulu’r tŷ capel. Cyn ei ordeinio priododd gydag Enid Evans, merch o’r eglwys yn Hebron Caergybi, a dod a hi’r holl ffordd o Sir Fôn. Bu bron iddi fynd yn ôl i’r gogledd ar ôl cyrraedd duwch y cwm – defaid o’r mynyddoedd yn cysgodi  yn nrws y tŷ, a’r chwilod yn gorchuddio’r waliau yn ystod y nos.

Mwynhaodd bod yn arweinydd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1946 pan enillodd y   Parch Rhydwen Williams y goron ar y testun  “Yr Arloeswyr”.

Do, cafodd amser da, gyda phobl garedig a chroesawgar. Yn ystod y pedair blynedd a fu yno ganwyd Eleanor eu plentyn cyntaf,  ond yna derbyniodd ddwy alwad, un i Fanceinion a’r llall i Feinciau  a Salem Pedair Heol yn Sir Gaerfyrddin. Gofynnodd y teulu lawer tro pam  Meinciau yr un oedd yr ateb “Cefais fy arwain yno”

Ardal hollol wahanol i Aberpennar, oedd hon – o’r duwch i’r gwyrddni. Blynyddoedd hapus,  cymdeithas gref ac aelwydydd croesawgar. Byw ar y Meinciau a mynd ar y beic i Bedair Heol, dal y bws neu gerdded i fugeilio ei aelodau. Garddwr o fri, cadw ieir a mwynhau helpu ar y gwair yn y ffermydd cyfagos.

D0edd dim face book na twitter yr adeg honno felly helpodd un o’r aelodau a oedd wedi rhoi hysbyseb yn y papur yn chwilio am wraig, i ysgrifennu llythyron ati. Roedd y darpar wraig yn byw yng Nghaernarfon, ond roedd diwedd hapus a’r ddau yn priodi ac ymgartrefu yn ardal y Meinciau.

Bu adegau trist pan oedd llawer yn colli ei babanod, gyrru neges a dweud byddent yn gyrru corf y baban ar y bws er mwyn iddo gael ei gladdu yn y fynwent, dim arch ond bocs cardfwrdd, mae’r amserau wedi newid!.

Ganwyd yr ail ferch Eunice yn ystod y blynyddoedd hyn

Daeth galwad yn 1957 i rannu gair Duw yng Nghalfaria Penygroes, Sir Gaerfyrddin, dim ond deuddeng milltir o’r Meinciau. Dychwelodd  i‘r gweithfeydd glo unwaith eto, a llawer o’r bechgyn yn gweithio yng ngwaith Cynheidre. Rhyfeddod oedd gweld bws y “colliers” yn cyrraedd sgwâr y pentref. Y “colliers” yn dod i lawr o’r bws fel blanced o dduwch ond parau o lygaid yn disgleirio, o’r  gwahaniaeth pan ddaeth y baddon i’r gweithfeydd!

Dyma eglwys gref a’r fedyddfa yn y sêt fawr yn cael llawer o ddefnydd ar hyd y blynyddoedd.

Soniodd lawer am gymanfa Ganu’r Pasg, rihyrsal ar y Sul ac yna’r Gymanfa ar y Llun. Byddai’r dillad newydd a’r hetiau  yn dod allan. Dyma achlysur pan roedd y capel yn or-lawn y ffwrymau bob ochr a’r plant wrth eu bodd yn eistedd ar risiau’r pulpud. Yna mis Mehefin byddai tri bws yn gadael sgwâr y pentref i fynd ar drip yr Ysgol Sul. Os dewis yr ieuenctid yna mynd i Borthcawl a’r ffair ond os dewis y rhai hŷn, yna i Ddinbych y Pysgod, ond pawb yn cymdeithasu gyda’i gilydd ar y traeth.

Yn ystod y blynyddoedd yma  bu’n mynd i bregethu lawr i Sir Benfro ac yn 1962 gofyn i’w ferch hynaf fynd gydag ef i Gyfarfodydd Pregethu Eglwys y Groesgoch. Ar ddiwedd y flwyddyn honno, daeth yr alwad i wasanethu yno, ond methwyd a symud hyd nes Ebrill 1963 oherwydd yr eira mawr.

Felly yn ôl i ardal wledig yn agos iawn i’r arfordir Roedd yma lu o ieuenctid a’r gymdeithas yn gryf yn wythnosol. Roedd wrth ei fodd ar nos Galan yn helpu’r dynion i baratoi bwyd i’r gwragedd yn y festri, nid brechdanau chwaith ond pryd tri chwrs, a phawb yn cael amser da. Priododd Eleanor yno a dywdeda’i Elwyn yn aml ei fod wedi ei gadael gyda’i gŵr yn Sir Benfro cyn iddo ateb yr alwad i wasanaethu yng Nghalfaria Login a Ramoth Cwmfelin, Sir Gaerfyrddin.  Bu’r gweinidog a’i wraig yn hapus iawnyno, gydag eglwysi gweithgar a llawer o ieuenctid a’r gymanfa bwnc yn bwysig iawn yng nghalendr yr eglwys. Yn ystod y cyfnod hwn dysgodd Elwyn i yrru bws ac wrth ei fodd yn helpu, os oedd galw, gyda cwmni bysiau “Jones Login”.

Priododd Eunice yn y cylch hwnnw a dywedai Elwyn iddo ei gadael hithau a’i gadael gyda’i gŵr yn y cylch cyn symud i Adulam, Felinfoel. Yn hwyrach, ymunodd eglwys gyda Salem, Llangennech gyda’r ofalaeth.  Roedd Elwyn ac Enid ond yn ddau unwaith eto, ond erbyn hyn roedd yr wyrion yn dechrau cyrraedd.

Gwnaed ffrindiau da yn y pentref, ac roedd cyfarfodydd y cwrdd gweddi a’r chwaeroliaeth yn gryf yno. Cafwyd blynyddoedd hapus a bu’r ddau yn teithio dipyn ar eu gwyliau. Dathlodd 50 o flynyddoedd yn y weinidogaeth tra oedd yn Adulam ac yna yn 76 oed penderfynodd ymddeol. Credai yn gryf na ddylai gweinidog aros yn yr un eglwys ar ôl ymddeol, er mwyn gadael i weinidog newydd gael y cyfle i arwain yn ei ffordd ei hunan.

Felly cafodd dŷ yn Hwlffordd, hyn yn agosach i’r merched. Nid oedd yn undebwr mawr, ond pregethodd y gair ar hyd ei oes. Ymhyfrydodd yn ei wyrion a’i or-wyrion ac roedd wrth ei fodd yn eu cwmni.

Mwynhaodd ei fywyd, bu’n briod am bron 66 mlynedd cyn cau ei lygaid ar Fedi 1af 2011 ac Enid ei wraig deuddydd ar ei ôl. Roedd y gwasanaeth angladdol o dan arweiniad eu gweinidog y Parch Paul Davies ym Methlehem, Spittal a chladdwyd eu gweddillion ym mynwent Y Groesgoch.

 elwyn2

 

Mi glywsom dyner lais

Yn galw arnom ni.

Cyfrannwr:  Eleanor Thomas