Ganwyd Albert Tudor Davies ar 15 Rhagfyr 1909 ym Mhedair Heol ger Cydweli yn fab i David a Rachel Williams, Tynewydd, – aelwyd a fu’n deyrngar i’r Achos yn Salem, Pedair Heol. Daeth yn drwm o dan ddylanwad cewri fel y Parchgn. M. T. Rees ac E. Curig Davies. Yn Salem y dechreuodd bregethu ac yn ystod gweinidogaeth y Parchg Dewi Davies y teimlodd yr alwad i droi o’r gwaith glo i’r weinidogaeth Gristnogol. Yn y cyfnod pan nad oedd grant o unman i fyfyrwyr diwinyddol, safodd arholiadau Undeb Bedyddwyr Cymru gan lwyddo gydag anrhydedd ar ei gynnig cyntaf.
Ar 25 Ebrill 1945, fe’i ordeiniwyd a’i sefydlu yn Smyrna, Casmael a Beulah, Casnewydd Bach, Sir Benfro. Treuliodd saith mlynedd yno cyn symud yn 1952 i Fethel a Salem Caio.
Cafodd yn Millie, briod annwyl – cymar a fu’n ffyddlon i’r weinidogaeth a yn eithriadol gefnogol i Tudor. Tynnu’n ôl at fro eu cynefin a wnaethant yn ddiweddrach, ac ymgartrefu yn Llanelli, gan gymryd gofal o Noddfa Trimsaran a Seilo, Carwe.
Roedd Tudor yn ddyn llengar a meistrolodd y grefft i gynganeddu. Bu galw mynych arno i feirniadu mewn eisteddfodau gwledig. Roedd yn fyfyriwr diwyd ar hyd ei oes ond ei bleser pennaf oedd cyhoeddi’r Gair. Cafodd ei feddiannu’n llwyr gan y nwyd i bregethu a bu galw cyson am ei wasanaeth.
Ymgartrefodd Tudor a Millie ym mlynyddoedd olaf eu bywyd mewn fflat gysurus ger capel Greenfield, Llanelli. Wedi marw ei gymar annwyl, cafodd Tudor gyfnod hir o salwch a dioddefodd yn ddirwgnach a dewr. Hunodd ar 20 Chwefror 1996. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Greenfield ac yna teithio i Amlosgfa Treforys. Cofir amdano fel gwr annwyl a boneddigaidd, yn serchog a chroesawgar. Diolchwn i Dduw am ei wasanaeth yn enw’r Meistr.
Cyfrannwr: David Carl Williams