Williams – David Carl (1939- 2018)

Dywedir am rai, eu bod wedi eu geni i fod yn weinidogion, ac yn ôl barn llawer, roedd David Carl Williams yn un o’r cyfryw rai. O ran ei ymddangosiad a’i ymarweddiad, roedd yn gyfforddus yn y swyddogaeth o fod yn weinidog eglwys.  Bu’n ddyn pulpud ac enwad, yn bregethwr o ran argyhoeddiad a greddf, ac yn gyfaill da i’w gyd-weinidogion ar hyd ei oes.  Bydd gan bawb air da amdano, a pha ryfedd, ar ddydd ei angladd yn Hermon, Abergwaun, gyda’i gyfaill bore oes, sef Dafydd Henri Edwards yn llywyddu, roedd dros bymtheg ar hugain o weinidogion yn bresennol a hynny o blith sawl enwad. Roedd nifer dda nad oedd yn medru bod yn bresennol, wedi anfon gair o ymddiheuriad. Gweinidog o blith gweinidogion oedd David Carl.

Derbyniodd ei addysg gynnar yn yr ardal leol, cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg Caerfyrddin. Cyflwynodd ei hun i’r weinidogaeth yn Salem, Pedair Heol, a Chymanfa Caerfyrddin a Cheredigion. Gweinidog Salem yr adeg honno oedd y Parchg Gwyn Davies, ac roedd cyfeillgarwch agos rhwng Carl a’i dad yn y ffydd.   Yn 1956, cofrestrodd Carl yng Ngholeg Bedyddwyr, Bangor, i ddilyn cwrs hyfforddiant yno. Bu’n un o griw da o ffrindiau a fu’n driw i’w gilydd ar hyd eu hoes, ac yn rhan o oes gyfoethog yn y weinidogaeth yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Yn 1960 gadawodd y coleg a chael ei ordeinio a’i sefydlu yn weinidog yn eglwysi Trewyddel a Gerasim, yn yr ardal rhwng Llandudoch ac Aberteifi. Roedd Dafydd Henri Edwards yn gymydog iddo yng ngogledd Penfro, a bu’r ddau yn gefn i’w gilydd yn y cyfnod cynnar hwn. Er mai amser cymharol fyr y bu yno derbyniodd wahoddiad ym Medi 1963, i fod yn weinidog i eglwys y Tabernacl, Pontarddulais, ac yno mwynhaodd gyfnod hapus yn arfer ei ddoniau ac yn dod yn amlwg fel gweinyddwr a phregethwr.  Fel yn ei ofalaeth gyntaf, daeth ei fam, sef Amy Williams i fyw gydag ef, gan gadw tŷ iddo, ac roedd hithau yn ymroi i waith yr eglwys.   Yn 1964 profwyd cyfnod heriol pan losgodd rhan o’r capel, a gwelwyd pawb yn cyd-weithio o dan arweiniad y gweinidog i gasglu arian a sicrhau adfer yr adeilad.  Cynhaliwyd cyfarfod ail-gysegru’r capel ym Medi 1966.

Yn ôl Rosemarie Eynon, dyma oedd Oes Aur yr eglwys.  Bu gweithgarwch llewyrchus ym mhob adran o’r Eglwys gyda’r Ysgol Sul a’r Gymdeithas Ddiwylliannol yn gweld llewyrch da.  Dyma’r cyfnod pan luniodd Carl ‘wasanaeth y crud’, a rhannwyd hwn gyda holl eglwysi’r enwad.  Cafodd flas ar waith gydag Urdd y Seren Fore ac hefyd gyda’r bobl ifanc.

Yn Awst, 1969, priododd â Miss Rita Morgan o ardal Wauncaegurwen, a bu’n gymar delfrydol iddo.  Prynodd yr eglwys dŷ newydd i’r gweinidog a’i briod, a buont yn ddedwydd iawn yno.  Roeddent wedi ymserchu’n llwyr yn ei gilydd, ac yn rhannu yr un diddordebau.  Yn Chwefror 1971, dathlodd yr eglwys ei chanmlwyddiant, a bu’r gweinidog yn arweinydd effeithiol yn y dathlaidau hyn. Tair blynedd yn ddiweddarach, sef yn 1974, ymatebodd Carl Williams yn gadarnhaol i wahoddiad eglwysi Calfaria, Penygroes ac Eglwys Penrhiwgoch i fod yn weinidog iddynt, gan ddwyn i ben ei gyfnod ym Mhontarddulais.

Treuliodd Carl wyth mlynedd yn ardal Penygroes ac fel yn ei ofalaethau eraill, enillodd galonnau’r eglwysi a’r ardal gyfan.  Tystia aelodau’r elwysi hyn iddo fod yn bregethwr effeithiol yn y ddau bulpud, ac yn llyfr hanes eglwys Calfaria, nodir iddo gynnal dosbarth Beiblaidd yr oedolion a rhoi lle priodol i blant a phobl ifanc.  Datblygodd waith Urdd y Seren Fore yn yr eglwys, a threfnu oedfa Cyflwyno Babanod fel y gwnaeth ym Mhontarddulais. Cryfhaodd adran y chwiorydd yn ystod ei weinidogeth a gwelwyd sawl datblygiad lleol arall.  Sefydlwyd Cwmni Drama yn yr eglwys a Chylch Meithrin lleol.  Bu’n drefnydd ‘pryd ar glud’ heb anghofio gweithgaredd eisteddfodol rhwng yr eglwysi lleol. Yn 1978, ychwanegodd eglwys Tabor, Cross Hands at yr ofalaeth.  Bu hefyd yn gaplan yn Ysbyty Mynydd Mawr.

Yn Chwefror 1982, symudodd i weinidogaethu yn Hermon, Abergwaun gan rannu ei amser hefyd gydag eglwysi Seion, Scleddau a Glandwr, Llanychaer. Arhosodd yno bron i 30 mlynedd yng nghwmni pobl o’r un anian ac argyhoeddiad.  Roedd wrth ei fodd yn pregethu a gwerthfawrogwyd ef fel bugail selog i’w ofalaeth. Byddai yn gyfrifol am ddramau pan oedd yr Ysgol Sul yn ei anterth, a gwisgo ar gyfer pasiant  y Nadolig.Rhoddai bwyslais cadarnhaol ar waith Cymorth Cristnogol ac hefyd ar gasglu nwyddau a threfnu loriau er mwyn  cludo  i Romania. Roedd yn storïwr da gan adrodd llu o hanesion am fywyd yn y garafan.  Oddi fewn i fywyd y dref, bu’n hyrwyddo gwaith Dysgu Cymraeg i oedolion a chefnogi Cymrodorion y dref.   Bu hefyd yn golofnydd ‘Myfi, Tydi, Efe’ yn Llien Gwyn, sef papur bro Abergwaun.  Cyfrannodd hefyd i’r gyfres  ‘Gair y Dydd’.Ymddeolodd yn swyddogol yn Medi 2011.

Roedd yn uchel ei barch mewn Cymanfa ac Undeb a chafodd lu o gyfleoedd i wasanaethu’r enwad mewn sawl maes.  Mynychai’r Cyngor a Chynhadledd Undeb Bedyddwyr Cymru yn gyson, ac yn mwynhau’r gwmniaeth yn fawr. Yn yr un modd bu’n selog i Ysgol Haf yr Adran Gymraeg ac yn darlithio yno yn ei dro.

Bu Carl yn ysgrifennydd nifer o bwyllgorau adranol Cymanfa ac Undeb, nodwyd eisoes ei fod wedi ymddiddori yng ngwaith yr ifanc, a roedd yn Ysgrifennydd Pwyllgor Urdd y Seren Fore am gyfnod hir tra bu’r pwyllgor hwnnw yn sefyll yn annibynnol o weithgareddau’r Undeb.  Yn sgil hyn, roedd ar Gyngor yr Undeb, yn aeddfed ei farn, yn gytbwys ei arweiniad.  Ymhen y rhawg, gwahoddwyd ef gan y Parch Idwal Wyn Owen, un o’i gyd-fyfyrwyr ym Mangor, i fod yn un o dri is-olygydd, a fyddai’n ysgrifennu colofnau cyson yn Seren Cymru.  Roedd ei briod hefyd yn cyfrannu fel is-olygydd, a’r trydydd aelod o’r  panel yn y cyfnod yna oedd y Parchg Desmond Davies, Caerfyrddin. Cafodd Carl wahoddiad i fod yn llywydd yr Undeb ar dröad y ganrif, a thraddododd ei anerchiad o’r gadair yn ei bulpud hoff yn Hermon yn 2001.  Mwynhaodd y swydd, ac anwylodd ei enwad.

Cyfraniad sylweddol arall gan Carl oedd gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Penfro,  gan gymryd drosodd, oddi wrth y Parchg Dafydd Henri Edwards,  ar adeg pan roedd rhwyg anodd yn y Gymanfa.  Llywiodd Carl y pwyllgor gweinyddol i drefnu cael dwy ran i’r Gymanfa, gyda’r ddwy adran yn cynnal eu pwyllgorau  a’u chynhadleddau eu hunain.  Ychwanegai hyn at ei gyfrifoldebau, ond wedi’r gwahanu rhwng eglwysi y De a Gogledd y Gymanfa, roedd pawb yn hapusach ac wedi gwerthfawrogi sgiliau gweinyddol gweinidog Hermon, Abergwaun.  Roedd eisoes wedi profi ei allu academaidd wrth ddilyn cwrs gradd o Aberystwyth.  O dan arweiniad Dr D. Densil Morgan, cafodd gyfle i wneud gwaith ymchwyl o dan nawdd Cronfa Eglwys Ravenhill,  ac arweiniodd ei adnabyddiaeth o Gymanfa Penfro iddo lunio ei draethawd hir ar hanes cynnar tystiolaeth y Bedyddwyr yn y sir.

Roedd yn ddyn o ddiwylliant sylweddol, a bu’n ffyddlon i’r Eisteddfod Genedlaethol a’i chymdeithas hi.  Cafodd gyfle i bregethu yn Oedfa’r Eisteddfod ar ei hymweliad ag Abergwaun yn 1986 ac yn trysori’r cyfle.

Bu ei briod yn athrawes yn Ysgol Llanymddyfri ar ddechrau ei gyrfa, ond yn fuan yn cafodd gyfle i weithio fel darlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan arbenigo ar Lydaweg. Am oes gyfan, bu hithau a Carl yn ymwelwyr cyson gyda Llydaw, ac yn tywys grwpiau o bobl yno yn ystod yr haf. Roeddent wrth eu bodd, ac yn lladmeryddion achos Llydaw yng Nghymru.  Bu’r briodas yn un hwyliog a llawen, a’r ddau yn rhannu yr un cefndir ac yn arddel yr un gwerthoedd.    Yn dilyn ei ymddeoliad symudodd y ddau i fyw yn Llandybie, er prin y bu iddynt fwynhau iechyd da yn ystod y blynyddoedd olaf hyn.  Bu farw’r ddau o fewn wyth mis i’w gilyddflwydd gan adael etifeddiaeth deg ar eu hôl.

Cyfrannwr: Denzil Ieuan John