Williams – Morgan John (MJ) (1910-1995)

Ganwyd Morgan John Willliams yn 1910 yn Abernant, Aberdar, yn unig blentyn i Elizabeth a Benjamin Williams, dau o aelodau ffyddlon Bethel, Abernant.  Derbyniodd ei addysg gynradd yn Abernant a’i addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Aberdar, yn yr un cyfnod â Gwyn Henton Davies. Dangosodd bod ganddo feddwl byw a threiddgar, a chyn y diwedd y cyfnod addysgol roedd wedi penderfynnu y byddai am gynnig ei hun i fod yn wenidog i Grist.

Bedyddiwyd ef gan y Parchg B. Williams ym Methel, Abernant, ac yntau ond yn dair ar ddeg oed.  Dechreuodd bregethu pan roedd yn 17 oed, a cheisiodd am le yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd flwyddyn yn ddiweddrach.  Yno, cyfarfu a’i gyfaill mynwesol, Walter P. John, a fyddai maes o law yn frawd yng nghyfraith iddo. Cyfoedion eraill iddo, a fu’n gyfeillion cywir ar hyd y blynyddoedd oedd A.R. Johnston, G. Henton Davies, E.J.Williams,Tom Richards, Ithel Jones, ac S Ivor Buse.  Graddiodd yno o fewn chwe blynedd gyda B.A., B.D., gyda graddau o’r safon uchaf, ac yn 1934, ordeiniwyd ef yn Seion, Glyn Ebwy.  O fewn tair blynedd symudodd i Abercarn. Yn ystod y cyfnod hwn priododd â Barbara  John, merch y Parchg a Mrs D. R. John, Rhydwilym. Cynhaliwyd y briodas yn Rhydwilym, gyda’r Parch D. R. John yn gweinyddu, ac yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Morgan Jones, Hen-Dy-Gwyn.  Yn ystod y cyfnod hwnnw gwasanaethodd fel ARW, yn gwarchod yr ardal rhag ymosodiadau o’r awyr adeg yr Ail Rhyfel Byd. Roedd ganddo ddiddordeb cryf mewn gwleidyddiaeth a cafodd wahoddiad i fod yn ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Abertyleri yn Nwyrain Gwent ar gyfer etholiad 1945. Yn 1946, cafodd ei sefydlu yn Eglwys y Bedyddwyr, North Road, Aberdaugleddau ac fel yn y ddwy ofalaeth gyntaf, profodd ei hun i fod yn bregethwr safonol ac arweinydd cydwybodol a diogel. Roedd wrth ei fodd yn yr ofalaeth hon, a derbyniai wahoddiadau i bregethu gyda’r eglwysi Cymraeg ei hiaith hefyd. Yn ystod ei gyfnod yno, gwasanaethodd fel caplan i’r Uchel Siryf yn Sir Benfro, sef Syr Frederick Rees, gan dderbyn y cyfrifoldeb o bregethu i’r barnwyr yn Hwlffordd.

Yn dilyn ymddeoliad y Parchg R. T. Evans yn 1959, gwahodwyd M. J. Williams i fod yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad.  Roedd yn Gymro cwbl ddwy-ieithog ac wedi cael ei fagu yn yr Adran Gymraeg, ond wedi gwasanaethu eglwysi yn yr Adran Saesneg.  Erbyn hyn, roedd ganddynt dau blentyn sef Sian a Rhys, a symudodd y teulu i fyw i Abertawe. Yn ystod ei gyfnod o ugain mlynedd yn Tŷ Ilston, gwelwyd llawer o ddatblygiadau yng ngweithgareddau’r Undeb.  Apwyntiwyd Mr Gwyn Griffiths o Rydaman fel Ysgrifennyddd Ariannol, a bu’r enwad yn ddyledus i’r ddau hyn am eu dycnwch a’u proffesynoldeb gweinyddol.  Roedd yn gwbl gyffyrddus yn y swydd, a meithrinodd berthynas adeiladol gyda swyddogion pwyllgorau’r Undeb a swyddogion y cymanfaoedd. Meithrinodd nifer dda o weinidogion drwy eu perswadio i fod yn aelodau o bwyllgorau neu eu gwahodd i ysgrifennu adroddiadau.

Ysgrifennai yn raenus ac effeithiol mewn llu o gyhoeddiadau’r enwad, a hynny ym mhob maes o waith yr Undeb.  Gallai ganmol a gallai ddwyn sylw ar wendidau’r eglwysi hefyd.  Ceir enghraifft yn yr adroddiad ariannol o’r Drysorfa Gynhaliol yn 1959, ar ddechrau ei dymor fel Ysgrifennydd Cyffredinol, yn dweud  ‘Siomedig ar y cyfan yw’r Adroddiad.  Dim ond £5,392 a gyfrannwyd gan yr elgwysi eleni, rhyw £15 yn fwy na’r llynedd, tra dylai fod o leiaf yn £1,500 yn fwy’. Â ymlaen i gynnig camau cadarnhaol a rhesymol i wella sefyllfa’r Gronfa Gynhaliol ac nid oes modd amau bod yr ysgrifennydd newydd wedi rhoi meddwl dwys a cadarnhaol i sicrhau gwell amodau i weinidogion y dyfodol.  Byddai gair o werthfawrogiad ganddo yn calonogi ac yn ysbrydoli pobl o bob oed a diddordeb. Gofalai am ei staff yn y swyddfa, ac roedd yntau a Gwyn Griffiths yn gyfeillion da, ac yn ymddiried yn ei gilydd. Nid oedd M.J. yn gyrru car, a byddai Gwyn Griffiths wrth ei fodd yn cludo ei gyfaill fel bo angen. Llwyddai i fod yn bwyllog a chytbwys ym mhob sefyllfa heb golli ei amynedd gydag unrhyw un.  Bu’n selog i Ysgol Haf y Gweinidogion, ac yn ffrind da i bawb.

Roedd i M. J. barch o bob rhan o’r Undeb, boed yn Gymraeg neu Saesneg eu hiaith.  Roedd yr adain geidwadol eu diwinyddiaeth a’r adain mwy rhyddfrydig eu daliadau yn medru ymddiried ynddo. Roedd ganddo afael cryf ar egwyddorion a hanes y Bedyddwyr ar y naill law ac hefyd ewyllys ystwyth i fentro llwybrau gwahanol yn ogystal.  Ef ysgogodd ei gyfaill Tom M. Bassett, Bangor, i ysgrifennu llyfrau hanes yr enwad  ‘Bedyddwyr Cymru’ Gwasg Ty Ilston,1977, cyfrolau a gafodd eu cyhoeddu, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg.

Anrhydeddwyd M. J. Williams drwy ei ethol yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru Adran Saesneg yn 1957 ac yn 1967, ac yn 1977, dyrchafwyd ef yn llywydd UBC yr Adran Gymraeg. Hyrwyddodd M.J. gysylltiadau agos gyda’r enwadau eraill, ynghyd a sicrhau perthynas iach gydag Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon.  Yn 1977, cafodd ei ethol i fod yn llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr. Bu’n gadeirydd Senedd Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd ac Pwyllgor Cyd-yngynghorol y Bedyddwyr ym Mhrydain a Chadeirydd Bwrdd y Weinidogaeth. Byddai’n cyfrannu yn goeth ac yn bwyllog ym mhob cynhadledd, ac ni fyddai geiriau wast ganddo ar unrhyw adeg. Dywedodd yr Athro Glanmor Williams am ei gyfaill a’i gyd-ddiacon yng Nghapel Gomer mewn erthygl yn Seren Cymru Awst 1977 :

Dysgais fwy ganddo am hynt ein henwad, am brofedigaethau a godidowgrwydd y weinidogaeth, ac am wir ystyr y grefydd Gristnogol nag y gallaf yn hawdd ei fynegi.  A gogoniant y cyfan oedd mai nid yn gymaint trwy gyfrwng yr hyn a ddywedodd M.J. y cefais fy ngoleuo, ond yn rhinwedd yr hyn ydoedd.

Yn dilyn ei ymddeoliad o Dŷ Ilston yn 1977, bu’n gefn i’r ddiadell yng Nghapel Gomer, Abertawe, ac yn weinidog cynorthwyol iddynt ar y cyd â’r Parchg J. S. Williams. Gelwid arno i bregethu yn uchel wyliau’r enwad a’r eglwysi, boed yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac roedd yn bregethwr difyr a choeth, gyda sylwedd a pherthnasedd i’w gynulleidfa a’i gyfnod.  Mwynheuai gwmni pobl o’r un fryd ag ef ei hun, a byddai grŵp bychan o ffrindiau dethol yn cyfarfod am goffi yn gyson, gan roi’r byd yn ei le. Bu farw yn Nhachwedd 1995 yn 85 oed ac wedi cyfrannu’n sylweddol i fywyd y Deyrnas.

Roedd yn academydd wrth reddf ac yn ddarllennwr eang gydol oes.  Trafod llyfrau oedd ei bleser a gwnaeth hynny tan wythnos olaf ei oes. Ysgrifennodd lyfr hylaw ar fywyd y cenhadwr enwog Timothy Richard, a gallai fod wedi ysgrifenni llawer mwy yn sicr, pe bai ganddo’r amser.  Roedd ganddo flas ar hanes gwleidyddiaeth yn gyffredinol ac at wleidyddion yn benodol.  Pan wrthododd y gwahoddiad i fod yn ymgeisydd yn etholiad 1945, ar ôl roi ystyriaeth ddwys iddi, nodir  colled y Tŷ Cyffredin oedd ennill Tŷ Ilston, gan ddangos bod yr alwad uwch yn gryfach na dim iddo.  Gŵr i Grist oedd Morgan John Williams ac yn un o bileri y dystiolaeth Gristnogol yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Cyfarch M. J. Williams ar ddathlu 60 mlynedd yn pregethu’r Gair.

Dewr i’r eitha ei draethi – dros ei Gris
Troes gred yn weithredu:
Yn gaethwas i’w bregethu
Di-feth trwy’i fywyd a fu.

Rhydwen Williams.    1994

 

Cyfrannwr:  Denzil Ieuan John.