Wynne – Eifion (1937-2015)

Eifion Wynne

Deuddydd wedi’r Nadolig 2015, bu farw Eifion Wynne, gweinidog ffyddlon i Grist am hanner can mlynedd. Ganwyd ef ar aelwyd Gwilym ac Elizabeth Williams, gwerinwyr tawel eu gwedd oedd yn selog yn Salem, Ffordd-las.  Cawsant y fraint o weld eu dau fab, Goronwy ac Eifion, yn cynnig eu hunain i’r weinidogaeth a byw i  wybod iddynt fod yn weision ffyddlon i Iesu Grist ar hyd y degawdau.  Gall Salem, Fforddlas ymhyfrydu yn eu gweinidogaeth yn eglwysi’r de.

Ar ôl cyfnod o addysg yn y Bala ac yng Nghaerdydd, ordeiniwyd Eifion Wynne yn eglwys Carmel, Pont-rhyd-fendigaid a Bethel, Swyddfynnon yn 1965 a threulio tymor gwerthfawr yng ngogledd Ceredigion. Ennillodd ei barch yn y fro ac yn ffyddlon i’w alwedigaeth. Roedd wedi priodi gyda Betty, un o ferched y Bala, un a fu’n gymar ffyddlon a chefnogol iddo ar hyd y blynydoedd.  Bu ei chyfraniad hithau hefyd yn un cyfoethog i waith y chwiorydd ac i’r Gymdeithas Genhadol.

Ail faes Eifion Wynne oedd yr eglwys yng Nghroes-goch ar arfordir gorllewinol Sir Benfro.  Sefydlwyd ef yno yn 1974, a bu yn y cylch hwn am wyth mlynedd. Datblygodd fel pregethwr a chofir amdano fel bugail ffyddlon. Bu yntau a’i briod yn weithgar gyda gwaith yr Ysgol Sul, ac ymroddodd i fywyd Cwrdd Adran Gorllewin Penfro a Chymanfa Penfro.   Yn 1982, derbyniodd wahoddiad eglwysi Moreia a Chaersalem, Dowlais, fel olynydd i’r Parchgn Andreas Williams  a Michael Evans, ac ymroi i wasanaethu, nid yn unig eglwysi’r ofalaeth, ond Cwrdd Adran Cylch Merthyr a Chymanfa Dwyrain Morgannwg.  Profodd ei hun fel gweinyddwr ymroddedig gan roi o’i orau i gymorthwyo eglwysi, nifer ohonynt yn chwilio am gymorth wrth gau eu drysau.  Gwelodd ddirywiad o bob cyfeiriad, ac roedd ei wasanaeth i’r eglwysi hyn yn selog ac yn llawn cydymdeimlad.  Bu’n ysgrifennydd y Gymanfa am dros chwarter canrif.  Bu’n weithgar gyda Chyngor Eglwysi Rhyddion y dref a gwasanaethu yno hyd ei ymddeoliad ddiwedd Gorffennaf 2009.

Cafodd gyfle hefyd i wasanaethu fel caplan yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr gan fwynhau’r gwaith yn fawr.  Roedd wrth ei fodd fel rhan o dîm caplaniaeth yr ysbyty,  ac roedd gan ei gyd-gaplaniaid air da am ei wasanaeth.   Cafodd bleser hefyd yn cefnogi gwaith Urdd Gobaith Cymru yn y fro, ac yn arbennig wrth drefnu Eisteddfod 1987. Roedd yn arbennig o falch o dderbyn gwahodd i drefnu Oedfa’r Eisteddfod a phregethu ynddi.  Bu’n gefnogol i lu o ddigwyddiadau Cymraeg eu hiaith yn y fro, ac yn frwd dros gefnogi Cymdeithas Ymchwil i Gancr.  Gwyliai rygbi’n gyson ac ar l ymddeol, bu’n pregethu’n selog, hyd yn oed ar ôl iddo gael y stroc yn 2008.  Mwynhaodd bod yn weinidog a chwmni pobl yr eglwys ar hyd ei daith.  Wynebodd golled fawr yn 2006 pan bu farw ei briod Betty a cafodd gysur yn nheuluoedd ei blant Eleri ac Emyr.  Yn hwyrddydd oes, bu’n ffodus o gael cefnogaeth a chwmnïaeth werthfawr Wendy Williams, un a fu’n athrawes ac yn weddw i weinidog Annibynnol lleol. Oni bai am ei charedigrwydd hi, ni fyddai wedi medru teithio i bregethu fel y gwnaeth.

Ar hyd ei weinidogaeth, bu’n selog i Gymdeithas Dydd yr Arglwydd, ac yn gadeirydd i’w phwyllgor gwaith yn Ne Cymru.  Mwynhaodd gymdeithas y gweinidogion ar hyd y daith  a cheisiai fod yn ddefnyddiol hyd orau ei allu.  Cynhaliawyd ei angladd yng Nghaersalem o dan lywyddiaeth y Parchg Dafydd Edwards.  Coffa da o gennad selog i Grist a’i eglwys ef.

DIJ