Williams – John Watts (1907-1979)

Un o blant Sir Fynwy oedd John Watts Williams ond pan roedd yn ddeng mlwydd oed symudodd ei deulu i Landudoch, yng Ngogledd Sir Benfro.  Mynychodd yr Ysgol Eglwys leol am flwyddyn, cyn cofrestru fel disgybl yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Mynychai’r teulu Eglwys Blaunwaun, yn Llandudoch,  a bedyddiwyd John gan y Parchg J.D.Hughes.  Yn ddiweddarach daeth i’r argyhoeddedig ei fod wedi ei alw i’r weinidogaeth o dan arweiniad gweinidogaeth ddeinamig y Parchg John Thomas, ac ef a roddodd gymorth i John wrth ddechrau pregethu.  Cofrestrodd i wneud ei radd gyntaf yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, mewn Economeg, gan symud wedyn i Fangor a graddio mewn Diwinyddiaeth yn 1933. Arhosodd yn y coleg yno ac ymroi i wneud gwaith ymchwil M.A. ar bwnc Athrawiaeth yr Iawn.  Roedd yn ddarllenwr brwd ar hyd ei oes, ac yn cael pleser o ddarllen llyfrau yn ymwneud â’r Beibl a phynciau athronyddol a diwinyddol, ond weithiau, er mwyn cael amrywiaeth,  byddai yn troi at nofelau ‘Westerns’.

Ordeiniwyd a sefydlwyd John ym Mhisga, Bancffosfelen yn 1934, gan briodi Mair Eluned  Hughes o Gaersws, (g. 3/2/1935) a bu farw yn ystod ei beichiogiad cyntaf yn Nhachwedd 1937. Yn 1941, priododd John Watts Williams gyda Ceinros Rees, a oedd yn gofalu am weinidogion a fyddai’n ymweld â Moreia, Ynystawe.  Roedd hithau yn wraig weddw ifanc, a’i phriod wedi marw adeg yr Ail Ryfel Byd yn dilyn bomio  Abertawe, ac roedd ganddynt un plentyn o’r enw Alona.  Roedd John wedi derbyn cyhoeddiad ym Moreia ac aros dros y Sul yn y Tŷ Capel. Roedd y ddau yn weddw a datblygodd y berthynas rhyngddynt.  Derbyniodd J Watts Williams  alwad i Eglwys Fedyddiedig y Goedwig yn Wdig a’i sefydlu yno yn Hydref 1942. Priododd John a Ceinros yn Nhachwedd yr un flwyddyn ac ymgartrefodd y teulu bach yn gwbl hapus yn Sir Benfro.  Bu Ceinros yn gymar delfrydol iddo weddill ei oes, gan gyfrannu’n sylweddol i weinidogaeth ei phriod. Ganwyd mab iddynt o’r enw Rhys yn Chwef 2, 1944, ond bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.   Roedd Ceinros yn wraig gerddorol iawn, ac yn hyfforddi pobl i ganu, yn cyfeilio mewn oedfaon ac yn arweinydd Cymanfaoedd Canu. Bu yn gymorth mawr i’w phriod yng ngwaith yr eglwys.  Buont yno am ddeunaw mlynedd hapus, gan gymryd rhan amlwg ym mywyd Cymanfa Penfro. Yn ystod y cyfnod hwn ganwyd mab iddynt yn 1947, a’i enwi fel ei dad, yn John Watts Williams.

Cychwynodd John Watts Williams fel is-ysgrifennydd y Gymanfa yn 1945, ond ymhen y flwyddyn, derbyniodd gyfrifoldeb llawn yr ysgrifenyddiaeth.  Gweinyddodd y Gymanfa am bron i chwarter canrif, hyd at 1968,   gyda graen ac urddas, ac roedd yn cael ei barchu gan bawb yn ddiwahan. Meddai ar awdurdod tawel, a phawb yn barod i wrando arno, gan dderbyn ei arweiniad. Yn ystod ei gyfnod yng ngorllewin Sir Benfro, bu’n cynnal dosbarthiadau W.E.A. yn Abergwaun ar agweddau o athroniaeth.  Ystyrid ef yn bregethwr a oedd yn Feiblaidd ei natur ac yn genhadol ei wedd.  Roedd iddo wyleidra naturiol. o anian hael  gyda digon o hiwmor yn ei fywyd.  Byddai wedi rhannu ei geiniog olaf gyda’r sawl a dybiai oedd angen rhodd fechan, pwy bynnag oedd.  Ni wnaeth chwennych byw mewn ardal boblog na cheisio clod a chydnabyddiaeth y byd.  Roedd yn fodlon ei fyd yn cefnogi tystiolaeth a chymdeithas eglwysi bach y wlad.

Yn 1960, derbyniodd wahoddiad tair eglwys yn Adran Saesneg y Gymanfa yn Ne’r Sir sef Hephzebah Little Honeyborough, a Sardis, Johnston (Pope Hill), i fod yn weinidog iddynt, ac yn y cyfnod hwn gwasanaethodd fel Llywydd y Gymanfa (1964-5), cyn dychwelyd i’r Adran Gymraeg yn Felin Ganol, Solfach, yn Ebrill 1968, gan ychwanegu gofalaeth Seion, Tŷ Ddewi, yn 1969.  Ymddeolodd yn 1972 a symud i fyw yn Llechryd, nid nepell o Aberteifi.  Bu farw yn Ionawr 1978.   Yn ei ysgrif am John, dywedodd Emlyn Jones amdano, ei fod yn ‘was da i Iesu Grist ac yn annwyl gan ei frodyr’.

Byddai wedi bod yn falch o gyfraniad ei ferch ym mywyd yr eglwys Fedyddiedig Coedpenmaen ym Mhontypridd, wrth iddi gynnig arweiniad i waith Mudiad y Chwiorydd yn yr adran Saesneg, a’i mab hithau, y diddanwr amryddawn, Martyn Geraint yn un o arweinwyr Eglwys Coedpenmaen, ac yn boblogaidd mewn oedfaon a gwyliau Cristnogol ar draws Cymru a thu hwnt.  Hefyd bu Meilyr, ei or-ŵyr yn egniol yn ei genhadaeth yntau yn yr eglwysi, gan ddefnyddio ei ddoniau cerddgar a’i reddf genhadol i wasanaethu’r Deyrnas.  Dywedodd Alona am ei llys-dad ei fod yn dadol iawn iddi ac yn hynod hael a chefnogol, ac iddi werthfawrogi y cariad tadol a’r arweiniad sicr a gafodd ym mhob gwedd o fywyd.  Cafodd John Watts Williams y mab, yrfa ddisglair ei hun, gan raddio ym Mhrifysgol Sant John, mewn Hanes, Rhydychen mewn hanes. Symudodd yntau a’i briod Doreen i Aberystwyth, ac yntau yn gweithio fel Ceidwad Cynorthwyol yn Adran Llaw-ysgrifau a Chof-ysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Hefyd bu’n cyd-olygu cyfrol “Cofrestri Plwyf Cymru’, ymysg prosiectau eraill. Ganwyd iddynt hwythau ddwy ferch, Gwennan a Sioned, a bedyddiwyd y ddwy, fel eu rhieni yn y Felin Ganol.    Gadawodd John Watts Williams y tad, lwyfan y byd wedi cyfoethogi  bywydau llawer mwy o bobl mewn llu o gymunedau, a phawb yn ddiolchgar amdano.

 

Cyfrannwyr:

Emlyn Jones    Llawlyfr UBC 1980
Alona Rees
Denzil Ieuan John