Williams – William Owen (1903-1972)

Un o feibion Rhosllanerchrugog oedd William Owen Williams, mab i Mr a Mrs Richard Williams.  Addolai’r teulu ym Methania, y lleiaf o’r ddwy eglwys Fedyddiedig Gymraeg yn y pentref, ond yr un mor ddidwyll ac egnïol, ac fe gafodd ei fedyddio gan y Parchg Idwal Jones.  Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio yng nglofa Gresford, er ni fu yno’n hir cyn iddo ymdeimlo â’r alwad i’r weinidogaeth.  Gweinidog Bethania yn y cyfnod hwnnw oedd y Parchg Peter Jones. Aeth i dderbyn paratöad i’r weinidogaeth yn Ysgol Myrddin,cyn sefyll arholiadau Coleg y Bedyddwyr ym Mangor a’i dderbyn yno, ymhen y rhawg, fel myfyriwr diwinyddol. 

Bum mlynedd yn ddiweddarach yn 1941, cafodd wahoddiad gan eglwysi Silöam Cydweli a Noddfa, Trimsaran i fod yn weinidog iddynt,  a bu yno am dwy flynedd ar hugain. Eto, ardal y glo caled yng ngodre Cwm Gwendraeth oedd Cydweli a Trimsaran, gyda gafael y Gymraeg yn gryfach ar y fro erbyn hyn nag oedd yng nghysgod tref Merthyr.  Byddai W.O. wedi bod yn gartrefol yno, ac ymdoddodd i ryddm yr adral.  Bu’n gyfnod bendithiol i bawb, ond ar ôl dwy flynedd ar hugain, ymdeimlodd â’r cymhelliad i newid maes a symud i Siloam, Ferwig, a Blaenwenen, nid nepell o dref Aberteifi. Roedd hon yn ardal gwbl wahanol, a bu’r cyfnod yno yn un llwyddiannus iawn, ac ymdoddodd i fywyd y gymuned  yn fugail medrus ac ymroddedig. Person felly oedd W.O. Williams.  Yn ystod ei weinidogaeth yno, cafodd wahoddiad gan Gymanfa Caerfyrddin a Cheredigion i fod yn llywydd iddi yn 1968-9.  Cynhaliwyd y gynhadledd flynyddol ym Methania, Aberteifi, er traddododd W.O. Williams  ei anerchiad o’r gadair yn ei bulpud ei hun yn Siloam, Ferwig. Testun ei anerchiad oedd ‘Y Weinidogaeth’, ac roedd yn ei elfen yn trin ei bwnc.  Ynddi, soniodd fod y weinidogaeth yn angenrheidiol am “ei bod wedi ei rhoddi inni ac yn cwrdd â’r angen, ac hefyd am ei bod yn cyfoethogi bywyd y Saint”.

Nodwyd fod ei fab Gareth ap wedi ymdeimlo â galwad i’r weinidogaeth, a chofrestrodd fel myfyriwr diwinyddol ym Mangor.  Mwynhaodd ei amser yn y coleg a derbyniodd yntau, ar ddiwedd ei gyfnod ym Mangor, wahoddiad i fod yn weinidog yn eglwysi Froncysyllte a Chefnmawr, er ni pharhaodd y trefniant hwnnw yn hir.  Dewisodd lwybr gwahanol, ac aeth i weithio gyda Monsanto, cwmni diwidiannol lleol yn Cefnmawr, a diflannodd oddi ar lwyfan y weinidogaeth.

Roedd William Owen Williams wrth ei fodd yn siarad am bregethau a phregethwyr, a mwynhaodd yntau a’i briod wyliau cyson yng Ngwesty Arundell yn Brighton.  Roedd nifer o weinidogion eraill yn manteisio ar yr adnodd yno i weinidogion, tra’n ymlacio yn y dref hyfryd honno ar lan y môr.  Yn anffodus cafodd yntau anhwylder difrifol yng Ngwanwyn 1972, a bu farw ar Fehefin 18fed y flwyddyn honno ac yntau ond yn 69 oed.  Claddwyd ei weddillion ym mynwent Llangristiolus, Sir Fôn. 

Cyfrannwyr: 

Milton Jenkins     Llawlyfr 1973

Denzil John