Williams – Ifan Richard (1925-2009)

Ifan Williams

Ganwyd Ifan R Williams yn Nhon Pentre’r Rhondda Fawr ym 1925, yn fab i Mari a Richard Williams. Daeth Richard o Sir Fôn i weithio yn y pyllau glo-gosod trawstie o dan ddaear i greu twnelau twrio am lô. Priododd weddw o’r enw Mari a oedd yn fêtron yn ysbyty Ton Pentre. Yn ddwy oed, bu rhaid i Ifan a’i dad symud yn ôl i Dy’r Allt, Pontrhydybont, Sir Fôn gan i Mari farw o ganlyniad i lawdriniaeth apendics.

Yn ei arddegau, ymunodd  Ifan â’r llynges ac roedd yn forwr ar y Russian Convoys nes diwedd y rhyfel. Ar ei benblwydd yn ddeunaw oed, dychwelodd adre ond er bod teisen penblwydd yn ei aros nid oedd ei dad yn ei aros. Tra’n trefnu dathliadau diwedd rhyfel yn neuadd y pentre, cafodd Richard drawiad ar y galon, a bu farw oriau’n unig cyn i’w unig fab gyrraedd adre.

Cafwyd teyrnged hyfryd iddo yn Y Rhwyd (papur bro gorllewin Môn)  a dywedwyd iddomfod yn ‘lanc ifanc, golygus, medrus’  a fynychodd y County School  yng Nghaergybi ‘ ac âi i gapel y Bedyddwyr, Sardis lle’amlygodd ei hun i fod yn llanc ifanc cyhoeddus ‘gyda’r ddawn o ddiddori fel actor doniol’.Y ddylanwadodd arno yr adeg honno oedd y Parchedig L G Lewis.   Hyfforddodd Ifan wedyn fel saer coed gan ddal i fyw yn Sir Fôn nes penderfynu, gyda chefnogaeth y Parchedig L G Lewis fynd i Goleg y Bedyddwyr ym Mangor . Tra yno, cymerodd ambell ran mewn dramâu yng nghanolfan y BBC.

Dychwelodd i’r Rhondda i ddechrau ar ei yrfa ar ôl derbyn gwahoddiad i fod yn  weinidog yn nghapel Ainon, Treorci. Cafodd amser bywiog a llwyddiannus yno. Yn 1952 cyfarfu â Gwenda (athrawes ymarfer corff ifanc). Roedd hithau yn perfformio dawns werin unigol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y pryd. Priodwyd y ddau yn Ainon ar 1 Awst 1955, a ganwyd iddynt dwy o ferch, sef Elin a Siwan.  Yn ôl Mr. Arthur Roberts yn y Rhwyd ‘Roedd yn bregethwr egnïol, yn wladgarwr cydwybodol a’i gonsyrn yn fawr o blaid y gwan a’r di-freintiedig;.

Ym 1961, derbyniodd Ifan wahoddiad i fod yn weinidog yn Rhuama, Penybont ar Ogwr, a symudodd y teulu ifanc i fyw ym Mryntirion. Roedd hwn yn gyfnod cynhyrfus, chwyldroadol yn hanes yr iaith Gymraeg a chymerodd Ifan ran flaenllaw yn y fenter o Gymreigio ardal oedd yn hynod Seisnig ar y pryd. Dechreuodd un o’r Ysgolion Meithrin cyntaf yn festri’r capel, sefydlodd Glwb Cinio i ddynion Cymraeg yr ardal a chychwynodd siop lyfrau Gymraeg (Siop yr Hen Bont) a ddaeth yn ganolfan i Gymry a dysgwyr yr ardal. Gyda Trefor a Gwyneth Morgan roedd Ifan a Gwenda’n hynod gefnogol i’r fenter o greu ysgol gwbl Gymraeg yn y dref, sef Ysgol Glyndwr. Mynychodd Elin a Siwan yr ysgol am flwyddyn a thymor nes i’r ysgol orfod cau yn dilym marwolaeth Trefor Morgan.

Ymhen hir a hwyr, dechreuodd diaconiaid Ruhama  ofyn i Ifan gynnwys ambell emyn Saesneg yn y gwasanaethau, ac hefyd i gynnwys darlleniad Saesneg.  Nid oedd Ifan yn gyfforddus gyda hyn a theimlodd na allai gytuno gyda’r syniad, gan wrthod y cais. Mae’n bwysig nodi fod yna gapel Bedyddwyr Saesneg nid nepell o Ruhama ar y pryd. Ymhen blwyddyn neu ddwy penderfynwyd drwy bleidlais mewn cyfarfod eglwys i ofyn iddo adael ei swydd. Roedd wedi cael ei gyhuddo hefyd o bregethu’n boliticaidd a chyhoeddwyd hyn mewn papurau megis y ‘News of The World’. Wrth ddychwelyd o’u gwyliau hâf ddiwedd Awst 1969 roedd twr o newyddiadurwyr yn aros y tu fas i’r mans yn disgwyl ymateb i’r cyhuddiadau oedd ar led. Canlyniad hyn oedd i’r teulu, ynghŷd â Rhisiart , y babi newydd, gael tri mis i adael y mans a dod o hyd i rywle arall i fyw.

Ymgartrefodd y teulu wedyn yn Llandâf, a pharhaodd Ifan i bregethu bob Sul mewn capeli amrywiol, fel arfer capeli oedd heb bregethwr sefydlog, yng nghymoedd y De, tra’n ymarfer ei ddawn (a dal dau ben llinyn ynghyd) fel saer yn ystod yr wythnos. Yn wir, ar un adeg, bu’n gweithio ar do capel yng Nghaerdydd drwy gydol yr wythnos a phregethu ym mhulpud y capel hwnw ar y dydd Sul!

Cafodd drawiad yn 2001 gan gyfyngu’n sylweddol arno, ac o ganlyniad symudodd i’r Borth, Ceredigion i fyw yn agosach at eu merch a brawd Gwenda. Bu farw Ifan R. yn ysbyty Bronglais yn 84 oed, ac mae ei lwch wedi rhannu rhwng  traeth y Borth a bedd ei dad yn Eglwys Swtan, Sir Fôn. Ar ei garreg fedd mae’r geiriau:-

Ifan Richard Williams
Môn a Morgannwg
1925- 2009

 

Cyfrannwr: Elin Hefin