Williams – Evan John (1908-1993)

Yn ddyn ifanc

Ganwyd E. J. Williams yn un o efeilliaid ar aelwyd Rhys a Mary Williams, y Felin yn Swydd-ffynnon ac roedd E.J. a David, ei frawd yn agos iawn. Bu’r aelwyd ac ardal Swydd-Ffynnon yn ddylanwadol iawn arno, ac yn arbennig aelodau eglwys Bethel a’i gweinidog sef y Parchg T. R. Morgan, ei fodryb Mary a’r gofaint Tomos Dafis.  Cyfeiriai yn aml atynt a bu’r canllawiau a dderbyniodd yn ei lencyndod yn bwysig iddo weddill ei oes.  Derbyniodd ei addysg yn lleol, gan dyfu yn y ffydd ar aelwyd Bethel.  Ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth a chafodd ei dderbyn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd.  Wedi cyfnod  llwyddiannus yno, cafodd ei ordeinio yn 1929 fel gweinidog yn eglwys gynnes a bywiog Noddfa, Ynysybwl, pentref nid ansylweddol mewn cilfach o gwm, i’r gogledd o Bontypridd. Roedd traddodiad diwylliannol cryf yn y pentref, ac roedd yntau wrth ei fodd yn eu plith, a hwythau yn gwerthfawrogi ei ofal a’i arweiniad. 

Ail gam y daith oedd i ddyffryn diwydiannol a diwylliedig arall, ac fe gafodd y fraint o weinidogaethu i’r eglwys yn y Tabernacl, Maesteg.  Roedd yr adeilad yn sylweddol fwy na chapel Noddfa.    Yn ystod y cyfnod hwn priodwyd ef a’i ddyweddi Eirlys Evans, merch y Parchg a Mrs Henry Evans, a bu’n bartneriaeth agos ar hyd y degawdau.  Bu’r ddau yn dîm yn y weinidogaeth, gyda’r naill yn gefn i’r llall ar hyd y daith.

Byr fu eu arhosiad ym Maesteg, gan iddo yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymateb i alwad frwdfrydig Eglwys y Bedyddwyr yn y Felin-ganol, yng nghanol Sir Benfro. Ardal wledig oedd hon ac yn debycach i’r ardal lle magwyd E.J. Ymdeimlai â rhamant yr ardal ac roedd E.J. ac Eirlys wrth  eu bodd.  Cafodd ei gyfareddu a’i fendithio gan ysbrydolrwydd y gynulleidfa yno, gan aros yn ei plith am ddeuddeng mlynedd. Eto, yn 1953, cafodd ei alw i symud i Sir Aberteifi, ac ymsefydlu yn nhref fechan Drefach, gan dreulio pedair blynedd yn eu plith.

O fewn pedair blynedd, yn 1957, daeth nôl i Sir Benfro, ond bellach i bentref glan-môr Trefdraeth ac i fugeilio Eglwys Bethlhem. Fel yn yr eglwysi eraill roedd defosiwn a bwrlwm yr eglwys yn gweddu i’w natur radlon ef, a chafodd lwyddiant ymhlith yr ifanc yn arbennig.  Rhennir atgofion arbennig amdano a dywed Bonni Davies, un o’r ieuenctid hynny am ei weinidogaeth.    

“Ystyriaf fy hunan yn “un o blant EJ” ac mae fy nyled iddo fe a’i wraig Eirlys yn enfawr. Ni allaf feddwl am bâr a roddodd cymaint heb ddisgwyl dim yn ôl. “Yn dy waith y mae fy mywyd” yw’r cymal a ddaw i’r meddwl i’w disgrifio. Roedd rhyw weithgaredd ym Methlehem bob dydd o’r wythnos ag eithrio dydd Sadwrn – a hynny ar gyfer ystod eang o oedrannau. Pâr prysur iawn oedd EJ a’i wraig ac nid oedd pall ar eu gweithgarwch, eu brwdfrydedd a’u hymroddiad. Byddai codi arian i Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn rhan annatod o’r gweithgarwch hwnnw,  a daeth enwau fel William Carey, Timothy Richard a Mair Davies yn enwau cyfarwydd iawn, ac enwau lleoedd fel  Congo, China ac India mor gyfarwydd i ni ag Abergwaun, Aberteifi a Hwlffordd. Profiadau gwerth chweil hefyd oedd y cyfleodd i fod yn rhan o’r dramau a gynhyrchwyd gan E.J. ac i fynychu Ysgolion Haf y B.M.S yn rheolaidd. Ni allwn fod wedi cael gwell sylfaen i’r ffydd Gristnogol. Mae cymaint mwy y gallwn ddweud amdanynt, ond digon yw dweud hyn – mae’n siwr bod llawer yn gyfarwydd a’r gosodiad “Bydd rhai pobl yn ymweld â’n bywydau ni ac yna yn diflannu’n fuan. Bydd eraill yn aros ysbaid ac yn gadael ôl eu traed yn ein calonnau ac wedyn fyddwn ni byth, byth yr un fath”. Dyna fy nheimlad i am E.J. a’i wraig, ac wrth feddwl am y naill, meddyliwn am y llall hefyd, gan fod Eirlys yn gymaint rhan o’i weinidogaeth. Diolchaf i mi gael fy magu ar aelwyd grefyddol a thrwy hynny ddod i gysylltiad â’r ddau ar adeg mor allweddol yn fy mywyd. Prin chwech oed oeddwn pan ddaeth E.J. atom i Fethlehem, ac roeddwn yn bymtheg oed pan symudodd i Resolven i gydio yn ei waith fel Cynrychiolyddd Cymru o Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr.

Roedd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn bwysig iddo gydol oes, ond yn 1966, derbyniodd wahoddiad i’w gwasanaethu fel Cynrychiolydd Cymru, fel olynydd i’r Parch W.T Lloyd Williams.  Roedd ei waith yn golygu cryn deithio a threfnu, a gwnaeth hynny gyda graen a brwdfrydedd. Bydd llawer yn cofio’r cynhadleddau a drefnodd i’r ifanc yng nghanolfan y Barri ac a brofodd llawer o lwyddiant. Bu Eirlys yr un mor frwdfrydig a hi a ysgrifennodd hanes y Zenanna yng Nghymru, a’i gyhoeddu o dan y teitl ‘Helaeth Gasglu’.  Cyfieithodd ei phriod y gwaith i’r Saesneg o dan y teitl –‘Bountiful Harvest’

Daeth yr amser iddo orffen y bennod hon yn ei weinidogaeth, a dychwelodd i fyw i  Sir Aberteifi. Derbyniodd wahoddiad eglwysi Horeb, Penrhyncoch, Cwmsymlog a Goginan i’w bugeilio.  Dyma lle bu ei dad-yng-nghyfraith yn weinidog, ac roedd Eirlys felly nôl ym mro ei magwraeth.  Bu marwolaeth Eirlys yn 1985, yn ffactor bwysig yn ei ddirywiad corfforol ac roedd yntau yn colli tir ym mhob ffordd. Cafodd ofal yng Nghartref Gofal Blaenpennal ger Aberystwyth ym mlynyddoedd olaf ei oes. Bu farw yntau ddiwedd Awst 1993, a chynhaliwyd ei angladd ddechrau Medi yn Horeb, Penrhyn-coch. 

Dywedodd y Parchg Peter Thomas amdano,

“Trwy gydol blynyddoedd ei weinidogaeth llafuriodd yn egniol a diwyd ac ymhob un maes ma ’na bobl sydd yn para i’w gofio, ac yn diolch am gael bod o dan ei weinidogaeth, ac wedi elwa o’r arlwy a estynnodd”.

Meddai E.J. ar y reddf arbennig honno i beri i eraill deimlo’n gyfforddus yn ei gwmni, a byddai ei gofleidio a’i ysgwyd llaw yn hynod frwdfrydig.  Roedd ganddo lais clir ond addfwyn, gan adael i’r unigolyn neu’r gynulleidfa roedd yn cyfarch deinlo eu bod yn bwysig iddo. Byddai wrth ei fodd yn llunio ysgrifau yn ei waith, a gwelai’n glir beth dybiai oedd angen ei wneud ym mhob sefyllfa. Cododd dri i’r weinidogaeth sef, y Parchedigion E.D. Jones, Denis Young a Neville James.   Cyfeiria rhai at E.J. fel Non, ond E.J. oedd ei enw i bawb oddi allan i’w deulu.  Coffa da o ddyn urddasol a boneddigaidd, parod ei gymwynas ac yn driw i’w alwad, ond ni allodd David fynychu angladd ei efaill oherwydd ei afiechyd yntau.

Cyfrannwyr:

Denzil Ieuan John.

Bonni Davies.

Peter M Thomas – erthygl goffa yn y Tincer, (Papur bro lleol).