Ganwyd John Williams yn Rhosllanerchrugog ar 24 Gorffennaf 1886, yn fab i John a Sarah Williams. Ar ôl iddo adael yr ysgol, dechreuodd weithio yn dair ar ddeg oed yng Nglofa’r Hafod. Bedyddiwyd ef gan y Parchg Evan Williams, ym Mhenuel, Rhos yn 1905, blwyddyn y Diwygiad mawr. Yn…
Ganwyd William Rhys Watkin, yr hynaf o blant William a Barbara Watkin, ar 10 Rhagfyr 1875, yn Ynystawe, Morgannwg. Cyn ei fod yn ddyflwydd oed, symudodd y teulu i fyw i ben yr Heol-las ar fynydd Gelliwastad, ac yno ganwyd gweddill o’r teulu. Roedd y plant yn bobl alluog iawn…
Brodor o ardal Pwllheli oedd Henry Dunn Williams, ac a ddatblygodd ei yrfa ym myd bancio gyda Banc Midlands. Symudodd o un ardal i’r llall, gan weithio mewn sawl maes oddi fewn i’r banc, ac roedd wrth ei fodd gyda heriau newydd. Dychwelodd i Gaerdydd i weithio fel swyddog iaith…
Ganed O. Tregelles Williams ar Ionawr 10, 1922 yn Nhreforys, yr ieuengaf o dri o blant i Oswald a Rachel Ann Williams. Bu ei fam yn organyddes Soar, Treforys 1908-1917, cyn geni’r plant, gan gyfansoddi’r gerddoriaeth i “ Gweddi Plentyn Da”, sef emyn ei gweinidog, y Parch. Fred Morgan a…
Gŵr o Landybïe, oedd Raymond Williams. Roedd ei wreiddiau yn ardal y glo caled, ac ni anghofiodd y graig y naddwyd ef ohono. Ganwyd ef yn un o saith o blant i Blodwen ac Edgar Williams, ac roedd y teulu’n selog yn eglwys Salem yn y pentref. Bu Raymond…
Mab Mary a Howell Williams, 5, Homphrey Street, Nantyffyllon oedd Idris ac fe’i ganwyd ar 20 Medi 1902. ‘Roedd ei rieni yn aelodau ffyddlon yn Salem a hendaid iddo, o ochr ei dad, oedd y Parchg Howell Davies, ac yntau oedd gweinidog cyntaf yr eglwys, ac ŵyr iddo oedd y…
Ganwyd Eric Williams yn 1933 yn un o ddau fab i Fred a Ceridwen Williams o Fancffosfelen. Derbyniodd Eric a’i frawd Idris eu haddysg yn ysgol gynradd y pentre ac yn yr Ysgol Uwchradd leol ac arhosodd Idris yng Nghwm Gwendraeth weddill ei oes. Roedd gwreiddiau teulu Mrs Williams…
Read our privacy policy here.
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 0345 222 1514
Ebost: post@ubc.cymru
Y Llwyfan, College Road, Carmarthen SA31 3EQ
Polisi Preifatrwydd
Cynlluniwyd gan: Waters