Yr Wyddor: T

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

Thomas – William Ewart (1916-1994)

Ganwyd William Ewart Thomas ym mis Ebrill 1916 ym Mlaengarw i’w rieni William a  Mary Ellen Morton Thomas.  Cofir amdano fel bachgen direidus a bywiog nad oedd ag unrhyw ddiddordeb mewn gwaith ysgol.  Gadawodd yr Ysgol Uwchradd yn bymtheg mlwydd oed.

Darllen mwy »

Thomas – John (1886 – 1975)

Efallai nad oedd llawer o gynulleidfaoedd eglwysi canol yr ugeinfed ganrif wedi sylweddoli eu bod yn byw yn oes aur y pulpud anghydffurfiol Cymreig, Roedd nifer dda o ddoniau cyhoeddus yn dod i’w penllanw, a sgiliau areithio cyfareddol y pregethwyr hyn yn boblogaidd.

Darllen mwy »

Thomas – Haydn John (1911-1968)

Yn ôl ei dystysgrif geni, ganwyd Haydn John Thomas ym Mlaengarw, tra roedd ei dad yn gweithio yn y gwaith glo yno, ond yn fuan wedyn, dychwelodd y teulu i Gwmfferws, ger Tycroes, Llandybie. Roedd yn fab i Mr a Mrs Arthur Thomas ac addolai’r teulu yn Saron, Eglwys y…

Darllen mwy »

Thomas – Ceredig Morgan (1915-1978)

Ganwyd Ceredig Morgan Thomas ar aelwyd William a Mary Ellen Morton Thomas yn ystod cyfnod y tad fel gweinidog gyda’r Bedyddwyr yn Blaengarw.  Ni chafodd iechyd da yn ystod ei blentyndod gan ddioddef o’r Dwymyn y Rheumatic.  Bu bron marw pan oedd yn saith oed.

Darllen mwy »

Thomas – Nathaniel (1818-1888)

Un o gymeriadau amlycaf hanes y Tabernacl oedd y Parchg Nathaniel Thomas (1818‒1888).  Yn dilyn marwolaeth y Parchg David Jones yn Nhachwedd 1854, aeth dros flwyddyn gyfan heibio cyn i’r eglwys ei sefydlu wedi iddo weinidogaethu yng Nghaerfyrddin. 

Darllen mwy »

Thomas – Evan Ungoed (1860 – 1930)

Ganed Evan Ungoed Thomas yn Heol yr Hen Gastell, Llanelli ar 7 Medi 1860, yn fab i David a Sarah Thomas, y pedwerydd o’u saith plentyn. Yn ddiweddarach yn ei fywyd mabwysiadodd enw morwynol ei fam (Sarah Ungoed) yn enw canol. Yr oedd ei dad, a lafuriai yn y gwaith alcam, yn ddiacon yn eglwys luosog Seion yn y dref, ac yn un o’r fintai a ollyngwyd gan y fam eglwys, ymhen y rhawg, er mwyn sefydlu eglwys newydd Calfaria, a leolid mewn man strategol ar dyle’r Bigyn.

Darllen mwy »

Thomas – Edward Morgan (1912 – 1986)

U
n o gymeriadau lliwgar a llawen y weinidogaeth oedd Edward Morgan Thomas, er iddo gael ei adnabod fel E.M. gan y mwyafrif a’i hadnabu. Roedd yn un o bump a bu farw ei dad pan roedd E.M. yn blentyn bach.  Magwyd ef yn eglwys Nasareth, Blaenllechau o dan weinidogaeth y Parchg T.E.Thomas, a chafodd ei fedyddio yn 1928.

Darllen mwy »

Thomas – William (1876-1941)

Ganed William Thomas ar aelwyd ei rieni sef Winnie a Morgan Thomas yn 1876 sef Tynreithin, Ffair Rhos, Sir Aberteifi.  Cafodd fagwraeth draddodiadol yn ei fro enedigol, ac yn 18 oed cafodd ei fedyddio yn afon Teifi a’i dderbyn yn aelod yng Ngharmel, Pontrhydfendigaid.  Derbyniodd brentisiaeth i fod yn…

Darllen mwy »

Thomas – David Osborne (1922-1980)

Ar fore Gwener y Groglith 1980, bu farw Osborne Thomas,  ac yntau ond yn 58 mlwydd oed.  Bu farw’n ifanc o drawiad ar y galon, a bydd llawer yn siwr o ddweud i’w farwolaeth anhymyg fod yn golled sylweddol ac y gallai fod ei gyfraniad fel pregethwr a diwinydd…

Darllen mwy »

Thomas – Glyndwr Morgan Morton (1911-2002)

 
Ganwyd Glyndwr Morgan Morton Thomas yng Nghaergybi tra roedd ei fam a’i dad sef y Parchg William Thomas a Mary Ellen Morton Thomas yn aros gyda’u teulu yng Nghaergybu adeg arwisgo Edward yn Dywysog Cymru.  Roedd ei dad wedi derbyn gwahoddiad i fod yn un o’r gwahoddedigion yno.
Cafodd…

Darllen mwy »