Thomas – Ceredig Morgan (1915-1978)

Morgan ThomasGanwyd Ceredig Morgan Thomas ar aelwyd William a Mary Ellen Morton Thomas yn ystod cyfnod y tad fel gweinidog gyda’r Bedyddwyr yn Blaengarw.  Ni chafodd iechyd da yn ystod ei blentyndod gan ddioddef o’r Dwymyn y Rheumatic.  Bu bron marw pan oedd yn saith oed.

Cychwynodd ei yrfa fel gŵr ifanc yn gweithio ar y bysiau yn Abertawe.  Yn ystod yr un cyfnod astudiodd yn rhan amser gan ennill Diploma‘r Brifysgol mewn gwaith cymdeithasol gan arbenigo ar waith gyda’r ifanc.  Bellach roedd y teulu wedi symud i Abertawe ac ymaelodi yng Nghapel Gomer.

Fel ei dad a’i frodyr Glyn Morgan Mortgon Thomas a William Ewart Thomas, ymdeimlodd Ceredig gyda’r alwad i’r weinidogaeth ac ar ôl treulio amser yng Ngholeg Paratoawl Ilston, aeth i Fangor i’w gymhwyso i’r weinidogaeth.  Priododd gyda Nan Williams o Dinas Cross ar ôl gorffen ei gwrs ym Mangor, ac yna mentro i’r weinidogaeth i’w ofalaeth gyntaf yn eglwysi Cymmer a Glyncorrwg.  Ordeiniwyd ef yn 1952 a bu yno am chwe blynedd hyd at 1958.  Ei ail ofalaeth oedd eglwys ddwyieithog  Salem, Llanilltyd Faerdref, ger Pontypridd a mwynhau ugain mlynedd o wasanaeth hyd ei farwolaeth.  Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Ysgrifennydd Cwrdd Dosbarth Pontypridd yng Nghymanfa Dwyrain Morgannwg. Gwasanaethodd hefyd fel Caplan Anghydffurfiol yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg hyd ei farwolaeth yn yr ysbyty honno adeg Nadolig 1978.  Roedd yn ŵr tyner a thawel ei wedd, yn fugail da a ffyddlon, ac yn berson llawen bob amser.  Bu’n selog i’w gyd-weinidogion heb gwyno am ei iechyd bregus trwy gydol ei oes.

Cyfrannwr : Rhiannydd Thomas, Caerdydd   (nith)