Thomas – David Osborne (1922-1980)

David Thomas

Ar fore Gwener y Groglith 1980, bu farw Osborne Thomas,  ac yntau ond yn 58 mlwydd oed.  Bu farw’n ifanc o drawiad ar y galon, a bydd llawer yn siwr o ddweud i’w farwolaeth anhymyg fod yn golled sylweddol ac y gallai fod ei gyfraniad fel pregethwr a diwinydd fod hyd yn oed yn fwy i’r meddwl  Cristnogol yng Nghymru.

Ganed Osborne ar 28 o Ragfyr 1922, ym mhentref mawr Brynaman.  Bu farw ei fam pan roedd Osborne yn ifanc  a gwerthfawrogodd berthynas agos gyda’i dad Edmund, gŵr a weithai fel tyfwr blodau. Roedd hefyd yn agos i’w chwaer Eirwen.  Mynychai eglwys Fedyddiedig Siloam ym Mrynaman yn ystod cyfnod gweinidogaeth y Parchg Môn Williams.  Yn dilyn addysg gynradd lleol, ac yna addysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Rhydaman, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe i wneud gradd mewn athroniaeth ac yna i Goleg y Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin gan dderbyn gradd B.D.   Cofir am Osborne fel darllenwr a meddyliwr, ac roedd ei lyfrgell yn adlewyrchu ystod eang ei ddiddordebau academaidd. Ymhlith ei hoff  feddylwyr, roedd yn arbennig o hoff o weithiai y Reinhold a Richard Niebuhr, Karl Barth a Dietrich Bonhoeffer.  Roedd yn gweithio ar ei radd M.A. pan fu farw, ac yntau ond yn 58 oed.

Ordeiniwyd ef yn weinidog yn eglwys Salem, Cwmparc, yn 1946, ac yn ystod y pum mlynedd y bu yng ngogledd Cwm Rhondda,  gwerthfawrogodd gyfeillgarwch ac anogaeth ei gyfaill sef y Parchg J. M. Lewis, Treorci.  Bu’r cyfnod hwn yn bwysig yn ei ddatblygiad fel person a gweinidog, ac roedd ei ddylanwad ynteu ar yr eglwys a’r gymuned yn werthfawr iawn.

Yn 1951, symudodd i Fethania Aberteifi, a threulio17 mlynedd dedwydd a chynhyrchiol yno.  Bu’n ddylanwad ar ffurfiant llawer o bobl ifanc yr ardal, ac yn ôl tystiolaeth Margaret Hemmings, y Barri, un o ‘blant’ Bethania, bu’r gweinidog yn ffrind ac yn fentor iddi ar hyd yr amser. Ef a’i harweiniodd hi i werthfawrogi meddylwyr sylweddol y dydd, a’i hannog i ddarllen yn eang ac yn feirniadol.

Yn 1968, symudodd Osborne Thomas i Hermon, Abergwaun, yn olynydd i’r Parchg John Lewis.  Bu’n weinidog yno am ddeuddeng mlynedd, hyd ei farw, gan rannu o sylwedd a didwylledd ei ffydd.  Ystyrid ef gan ei gyd-weinidogion fel pregethwr cadarn ac yn draddodwr difyr a pherthnasol.  Mwynheiai gynllunio pregethau yn ofalus mewn modd disgybledig a chrefftus. Gellir ei ddisgrifio fel pregethwr heriol ac ysbrydoledig. Roedd yn berson synhwyrus i’r hyn a ddigwyddai o’i gwmpas ac  ymatebai i amgylchiadau’r dydd.  Meddai ar synwyr digrifwch hyfryd ac wrth ei fodd yn cwmnïa gyda phobl o bob oed.  Roedd yn gymdeithaswr heb ei ail, a doedd dim yn well ganddo na seiadu gyda phobl o gyffelyb fryd.

Yn haf 1951, priododd  gyda Joan Rolfe, cerddor dalentog o’r Hendy, Pontarddulais, a bu eu haelwyd yn hafan o groeso dedwydd i lawer. Bu Joan yn athrawes am flynyddoedd yn Ysgol Uwchradd y Preseli yng Nghrymych,  ac er iddi ddioddef crudcymalau yn wael, cofir amdani hithau hefyd fel dylanwad o bwys ar nifer sylweddol o ddisgyblion yr ysgolion lle y gwasanaethodd.  Bu farw Joan  pum mlynedd ar ôl ei phriod.

Yn y Faner cyhoeddwyd pennill gan Huw Huws wrth sôn am Osborne Thomas –

Y gwylaidd efengylydd
Oedd ddawnus, goeth ddiwinydd;
Ni phlygodd un wrth orsedd gras
Mwy eirias ei leferydd.

Cyfrannwyr:  Margaret Hemmings.
Denzil Ieuan John