Yr Wyddor: T

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

Thomas – Joseph Arwel (1935-2002)

Un o blant Blaenrhondda oedd Arwel Thomas, ac fel ei deulu mynychodd eglwys y Bedyddwyr yng Nghalfaria, Blaenrhondda. Yno daeth o dan ddylanwad gweinidog yr eglwys, sef y Parchg Ernest Pugh. Roedd cyfeillgarwch rhyfeddol rhwng y ddau, er bod eu personoliaethau a’u galluoedd mor wahanol i’w gilydd.
Yn dilyn ei…

Darllen mwy »

Thomas – William Benjamin (W.B.) (1887 – 1964)

Un o blant y diwygiad oedd W.B. Thomas,  ac er fod ei ddyhead gwreiddiol i fynd yn bensaer, cerddodd y ffordd i fod yn weinidog i Eglwys Iesu Grist.  Ganed William Benjamin Thomas ym mhentref Felinfoel, nid nepell o Lanelli, yn fab i William a Ruth Thomas, aelodau ffyddlon yn…

Darllen mwy »

Thomas – Dr I. D. E (1921-2013)

Cofir y Parchg Ddr I.D.E. Thomas yng Nghymru fel gweinidog, pregethwr huawdl, darlledwr  a sylwebydd ar America a gyflwynai eitemau’n gyson ar Radio Cymru. Roedd hefyd yn ysgolhaig a gyhoeddodd cymaint ag un-ar-ddeg o lyfrau swmpus yn Saesneg.  Cyfieithiwyd o leiaf tri o’i lyfrau i’r Sbaeneg. Dyfarnwyd Ph.D. iddo yn…

Darllen mwy »

THOMAS – James (1891- 1972)

Ganed James Thomas ar 4 Awst 1891 mewn bwthyn o’r enw Crugiau a arferai sefyll nid nepell o safle capel Blaenconin ym mhentref Llandysilio, Sir Benfro, yn ymyl y fan lle claddwyd y bardd Waldo Williams yn ddiweddarach. ‘Roedd yn un o dri brawd: yr hynaf oedd John Thomas (1886-1975)…

Darllen mwy »