Thomas – John (1886 – 1975)

Efallai nad oedd llawer o gynulleidfaoedd eglwysi canol yr ugeinfed ganrif wedi sylweddoli eu bod yn byw yn oes aur y pulpud anghydffurfiol Cymreig, Roedd nifer dda o ddoniau cyhoeddus yn dod i’w penllanw, a sgiliau areithio cyfareddol y pregethwyr hyn yn boblogaidd.  Un o’r amlycaf ohonynt oedd John Thomas, Blaenwaun, fel y cawsai ei adnabod. Gellir dadlau bod y llanw wedi troi yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, ac nad oedd plant y 50au mor barod i werthfawrogi rhethreg y puplud ac yn fwy tebygol o droi at wylio ffilmiau o’r Amerig a gwrando ar Elvis Presley a’i debyg.  Yn eu hoes, roedd John Thomas a’i ffrindiau mynwesol Jubilee Young, James Nicholas, a J.M.Lewis yr un mor boblogaidd a sêr y sgrin fawr, ac yn sicr o ddenu tyrfaoedd i’w gwrando.  Pregethwr yn anad dim oedd John a phregethu oedd testun ei sgwrs.

Ganwyd ef ym mwthyn bach ‘Y Crugiau’, nid nepell o gapel Blaenconin, sydd rhwng pentrefi Clunderwen a Llandysilio.  Teulu digon llwm eu gwedd  oedd yno, ac roedd Millie yn hynod falch o’i brodyr John a James.  Bu’r ddau yn llywyddion Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn weinidogion uchel eu parch.  Yn ei lyfr ‘James a John’ gan W.J.Gruffydd, ceir ymdrech lew i gymharu’r ddau frawd, a chamgymeriad fyddai ystyried y naill yn fugail a’r llall yn bregethwr.  Meddai y ddau ar nifer o ddoniau hanfodol y weinidogaeth, ac roeddent yn bobl eu cyfnod.  Yn ddiddorol, bedyddiwyd John yn Nhreharris tra bod James wedi ei dderbyn yn aelod yn eglwys fedyddiedig y Gelli.  Serch hynny, plant Eglwys Blaenconin oedd y ddau mewn gwirionedd.

Gwas ar fferm Dyffryntrogin oedd John ar ôl gadael ysgol ond denwyd ef i weithio yn y pyllau glo. Mynychodd yr eglwys Fedyddiedig yno a chael ei fedyddio gan y gweinidog sef y Parchg William Jones.  Ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth a chafodd ei dderbyn i Goleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd.  Ar ôl tair blynedd yno, derbyniodd alwad i fod yn weinidog yn eglwys Ruamah, Pen-y-bont-ar-Ogwr a’i ordeinio a’i sefydlu ar ddyddiau Sul a Llun y 4edd a’r 5ed o Fedi 1910, ac yntau yn 24 oed.  Pregethwyd yn yr oedfa foreol ar y Sul gan William Jones a’i weinidog pan yn blentyn ym Mlaenconin, sef y Parchg D.J.Michael yn Saesneg. Pedwar mis ar ddeg bu John Thomas ym Mhen-y-bont, ond bu 14 mlynedd yng Nglanaman.  Yn ystod y cyfnod yno, bedyddiodd 400 gan weld cynnydd aruthrol yn aelodaeth yr eglwys. Roedd aelodaeth Bethesda yn 260 yn 1912 ond yn 480 erbyn iddo adael.  Nodir hefyd iddo oruchwylio prynu tir ar gyfer mynwent yr eglwys a sicrhau bod yr eglwys yn adeiladu mans i’r gweinidog.

Er mor boblogaidd a derbyniol oedd John yng Nglanaman, ac yntau wrth ei fodd gyda cymdeithas o lowyr, derbyniodd alwad i ddychwelyd i’w sir enedigol a hynny yn eglwys Blaenwaun, yn ardal Llandudoch. Dyddir y llythyr yn ei wahodd i Landudoch fel Mawrth 8fed 1926, ac ym mis Medi, prin tri mis wedi’r cyfarfodydd sefydlu, derbyniodd wahoddiad di-amod i ddychwelyd i Lanaman.  Rhaid bod awydd arno i ddychwelyd i Ddyffryn Aman, ond iddo gael ei annog gan y Parchg John Williams, weinidog Bethania, Aberteifi i aros gan mai camgymeriad oedd dychwelyd i’w hen faes.   Gwnaeth y penderfnyniad cywir gan iddo ymserchu’rn ddwfn yn ei faes.  Roedd yn frenin ei fyd, ac er iddo dderbyn nifer o wahoddiadau i fynd i faes arall, arhosodd gydag amaethwyr a physgotwyr yr ardal. Dywedir iddo ef a’i briod ei chael yn anodd i ymsefydlu yno ar y cychwyn, ond wedi ymwreiddio yno. Un o anerchiadau enwog John Thomas oedd yr un a draddododd yn Undeb Corwen 1950, ar y testun ‘Yr Anturiaeth Gristnogol’,

Bu’n llywydd yr Undeb yn 1957 a gwahoddwyd y cyfarfodydd blynyddol i’r fro o barch iddo. Cynhaliawyd y cyfarfodydd yr Undeb yn ystod wythnos y Pasg a thema’r cyfarfodydd oedd “a’r haul wedi codi”. Nodwyd eisoes ei fod yn anad popeth arall yn bregethwr, ac yn yr oedfa i ddadorchuddio’r garreg goffa dywedodd ei olynydd, sef y Parchg W.H.Rowlands, –

“Pregethu oedd nwyd mawr ei fywyd, ac am bregethu, pregethwyr a phregethu yr hoffai siarad.  Meddai ar ddychymyg byw, meddwl miniog, a dawn ymadrodd rwydd a llifeiriol.  Cofia rhai o saint Blaunwaun gyda diolch am lawer o oedfaon dan y gwlith ym Mlaunwaun ac ym Methesda, ac ni flinant ar sôn o hyd am rai ohonynt”.

Yn ei lyfr, cofnoda W.J.G y modd roedd John yn nodi pa bregeth y bu iddo gyflwyno mewn cyfarfodydd a chymanfaoedd pregethu.  Un o’r pregethau enwocaf ganddo oedd yr un a enwyd yn ‘llef o Facedonia’ Actau 16: 9.  Nodwyd hefyd bregeth roedd yn hoff ohoni o Salm 87 a Salm 42. Tybed faint o bregethau a luniodd ar hyd ei oes?   Roedd yn feistr iaith, ac yn hoff o ddefnyddio geirfa hynafol.  Byddai hefyd yn feistr ar ddefnyddio dywediadau bachog mewn modd hynod effeithiol. Credai bod angen i bregethwr hoelio ei lygaid ar y gynulleidfa a defnyddiai John pob elfen o’i gorff a’i lais i greu argraff ar ei gynulleidfa.  Roedd fel actor ar lwyfan, yn hawlio sylw er mwyn trosglwyddo ei neges.

Bu John yn briod dwywaith sef yn gyntaf gyda Catherine, a ganwyd iddynt un ferch sef Mary.      Ar ôl marwolaeth Cathrine, ail briododd John gyda Miss Blodwen Rees ym Mawrth 1948,  gyda John bellach yn 62 mlwydd oed, a bu hithau fel Catherine yn ymgeledd ddibynadwy i’r gweinidog.  Yn ôl W.J.Gruffydd “sylweddolai hi beth oedd dyletswyddau gwraig gweinidog, a bu eu bywyd priodasol yn hapus a gloyw”.

Roedd ganddo gof eithriadol a chofia llawer amdano mewn cystadleuaeth gyda Cassie Davies, Tregaron yn adrodd englynion i weld pwy allai gofio fwyaf.  Roedd ganddo ddeall o farddoniaeth a modd i’w hadrodd.  Magwyd ef nid nepell o gartref Waldo, a rhaid bod y ddau wedi treulio lawer o amser yng nghwmni ei gilydd.

Ysgrifennodd y Parch W.J.Gruffydd gerdd i’w gofio –

Ysgwyddau aflonydd, ac yn wên i gyd

A het a ffôn yn bugeilio’r stryd.

Saesneg bonheddig, Cymraeg gramadegol

Gwario ansoddeiriau fel arian degol.

Glân a dilychwin ei ddillad parch,

A’i weddi yn ddagrau wrth dalcen arch.

Gosgeiddig mewn pulpud; cynghanedd a dawns,

A’r awen wibiog yn cymryd ei siawns.

Gweld cymylau fel camelod glaswyn

A’r hen Falaam ris yn is na’r asyn.

‘Roedd sŵn yr hoelion yn synnu’r heuliau,

A bys a bawd yn saethu’r meddyliau.

Judas yn uffern wedi’r bradu anllad

Yn methu cael perffiwm yr ennaint o’i ddillad.

Bu Cymanfa Môn fel dydd Mawr y Farn

Pan doddwyd calonnau o feteloedd barn.

Y sêr a’r planedau megis cwrens llosg,

Ac Arab yn ulw yn seler ei  fosg.

Ochrgamodd heibio i’r Angau chwim

Aeth i chwilio am Jiwbil, a Jimmy a Jim.

                                                           W.J.G.

Cyfrannwr : Denzil Ieuan John

Llyfryddiaeth

‘John a James.   Dau frawd – dau broffwyd’  Gwasg Gomer  W.J.Gruffydd 1976

Llawlyfr Undeb Blaenwaun a’r Cymch 1980   (cyd-olygyddion Parchg T.R.Jones a Mr Dennis Jones)