Thomas – William (1876-1941)

William Thomas 2

Ganed William Thomas ar aelwyd ei rieni sef Winnie a Morgan Thomas yn 1876 sef Tynreithin, Ffair Rhos, Sir Aberteifi.  Cafodd fagwraeth draddodiadol yn ei fro enedigol, ac yn 18 oed cafodd ei fedyddio yn afon Teifi a’i dderbyn yn aelod yng Ngharmel, Pontrhydfendigaid.  Derbyniodd brentisiaeth i fod yn deiliwr, ac er mwyn magu profiad aeth i fyw gyda’i frawd Eben, yn Ystrad Rhondda.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth a phregethodd ei bregeth gyntaf yng nghapel Nebo, Ystrad Rhondda.

Priododd â Mary Ellen Morton Thomas a hithau yn ferch ifanc ym Methel, Caergybi.  Roedd yn 18 oed pan nodir iddi fod yn un o’r bobl a ddaeth a’r diwygiad i Gaergybi yn 1904-05. Caawsant nifer o blant, a nodir hanes tri ohonynt a ddaeth yn weinidogion fel eu tad.

Cafodd William ei addysg ddiwinyddol yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor (1898 – 1901) cyn ei ordeinio a’i sefydlu yn weinidog yn eglwys Jerusalem Rhymni, lle bu’n gweinidogaethu am ddeng mlynedd. Derbyniodd alwad i weinidogaethu ym Methania, Blaengarw,  gan gychwyn ar ei gyfnod yno ym mis Ionawr 1911.  Bu yno am ugain mlynedd cyn symud i’w drydydd maes, sef Caersalem Newydd, Eglwys y Bedyddwyr yn Nhreboeth, Abertawe.  Yn 1930 dechreuodd ar y cyfnod cyffrous hwn, ond o fewn pedair blynedd amlygodd clefyd Afiechyd Parkinson arno a bu’n rhaid iddo dderbyn fod ei weinidogaeth yn gorfod dod i ben. Bu’n dal i fyw yn Abertawe ond oherwydd amgylchiadau’r Ail Ryfel Byd, symudodd ef a’i briod i fyw yng Nghaergybi, ac yn 1941 bu farw, a’i gladdu ym mynwent Maes-hyfryd yn y dref honno, ac yntau yn 65 mlwydd oed.

Codwyd tri o’i feibion i’r weinidogaeth, sef Glyndwr Morgan Morton Thomas; Ceredig Morgan Thomas a William Ewart Thomas. Bu’r tad a’r fam yn ddylanwadau mawr ar eu plant a bu’r tri mab, deyrngedau hardd i’w rhieni. Roedd yn ddarllenwr eang ac wrth ei fodd yn ymchwilio ym myd hanes.  Bu’n fugail ffyddlon i’r eglwysi y budan ei ofal.   Coffa da amdano.

Cyfrannwr : Rhiannydd Thomas, Caerdydd (Wyres)