Thomas – Glyndwr Morgan Morton (1911-2002)

 

Morton ThomasGanwyd Glyndwr Morgan Morton Thomas yng Nghaergybi tra roedd ei fam a’i dad sef y Parchg William Thomas a Mary Ellen Morton Thomas yn aros gyda’u teulu yng Nghaergybu adeg arwisgo Edward yn Dywysog Cymru.  Roedd ei dad wedi derbyn gwahoddiad i fod yn un o’r gwahoddedigion yno.

Cafodd ei fagu ym mhentref Blaengarw gan fynychu Ysgol Uwchradd Pontycymer.  Dioddefodd Glyn o’r fogfa (athsma) yn blentyn a threulio llawer o amser ar aelwyd ei dad-cu a’i fam-gu yn Ffair-Rhos. Gadawodd yr ysgol yn gynnar er mwyn derbyn hyfforddiant fel Peiriannydd Trydanol ym mhwll glo’r Ocean ym Mlaengarw ac yna ym mhwll glo y Nine Mile Point, Sir Fynwy.

Cyn hir, penderfynnodd ddilyn ei dad i’r weinidogaeth gan gofrestri yng Ngoleg Paratoawl y Myrddin yng Nghaerfyrddin.  Wedi ei gymhwyso yno, dilynodd ei dad i Goleg y Bedyddwyr ym Mangor, lle bu rhwng 1933 a 1936 yn  paratoi am Dystysgrif mewn Diwinyddiaeth.  Cafodd ei argymell i fynd oddi yno i’r Brifysgol i ddilyn cwrs gradd mewn Athroniaeth ond oherwydd fod ei dad wedi ei daro gan Afiechyd Parkinson, teimlodd y cyfrifoldeb i ysgwyddo peth o faith ariannol ei fam gan gychwyn yn y weinidogaeth.

Yn 1936 priododd â Maggie Jones o Dreboeth, Abertawe a hynny yng Nghapel Bethesda, Abertawe.  Ganwyd iddynt un plentyn sef Rhiannydd a fu’n athrawes gydol ei hoes.   Bu Maggie farw yn 1978.

Derbyniodd ei alwad gyntaf i Eglwys y Bedyddwyr yn Argoed, Sir Fynwy, lle cafodd ei ordeinio a’i sefydlu gan  dreuliodd deng mlynedd ddedwydd yno.  Yn 1946 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Tonyfelin, Caerffili a bu yno am dair blynedd hapus, cyn ymateb i wahoddiad eglwys Penuel, Casllwchwr,  a  bu yno rhwng 1949 hyd 1954.  Roedd angen iddo ei a’i briod fod yn agos i’w deulu yng nghyfraith ar y pryd oherwydd eu salwch hwythau.

Yn 1954, ymdeimlodd a galwad oddi wrth eglwys Bethel, yr Eglwys Newydd, ac am y tro cyntaf yn gwasanaethu mewn eglwys a oedd yn perthyn i Undeb Prydain Fawr ac Iwerddon. Ymddeolodd o’r weinidogaeth yn 1976 ar ôl deugain mlynedd o wasaneth mewn pedair eglwys.  Serch hynny, rhoddodd saith mlynedd o wasanaeth pellach ym Moria,  Eglwys y Bedyddwyr yn Abercynon.

Mwynhaodd ei waith ac wrth ei fodd yn bugeilio’r amrywiol breiddiau eglwysig.  Roedd yn ddarllenwr brwdfrydig fel ei dad, a bu’n gyson yn darllen y Beibl ar ei hyd, ddwywaith y flwyddyn.  Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y traddodoiad llafar yng Nghymru a bu’n ddarlithydd i’r YMCA am dros 30 mlynedd.  Bu’n gaplan Anghyddfurfiol yn Ysbyty Rhydlafar, Caerdydd rhwng 1954 a 1984. Gwasanaethod hefyd fel darlithydd yn Adran Astudiaethau Rhyddfrydol Coleg Poletechnig Pontypridd ac yn Ngholeg Addysg Bellach, Caerdydd.   Arhosodd yng Ngaherdydd wedi ymddeol a symud ei aelodath i Eglwys Bethany, Rhiwbeina, lle codwyd ei ferch Rhianydd yn ddiacon.  Yn ystod y cyfnod hwn o ymddeoliad, mwynhaodd Glyn deithio gyda’i ferch i nifer o wledydd.  Bu farw ar Rhagfyr 29, 2002 ar ôl cystudd byr a bywyd hir a llawn.

Cyfrannwr :  Rhiannydd Thomas, Caerdydd.   (merch).