Thomas – Nathaniel (1818-1888)

Nathaniel ThomasUn o gymeriadau amlycaf hanes y Tabernacl oedd y Parchg Nathaniel Thomas (1818‒1888).  Yn dilyn marwolaeth y Parchg David Jones yn Nhachwedd 1854, aeth dros flwyddyn gyfan heibio cyn i’r eglwys ei sefydlu wedi iddo weinidogaethu yng Nghaerfyrddin.   Ei gyfnod ef fel gweinidog yn y Tabernacl oedd y meithaf yn hanes yr eglwys, ac roedd hynny mewn cyfnod cyffrous o safbwynt yr eglwys a’r ddinas.

Ganwyd Nathaniel Thomas mewn tŷ to gwellt, o’r enw Twyn-y-tŷ-hir, yng Nghlydach, Cwm Tawe, ar Ebrill 13, 1818, ond symudodd y teulu i Nant-y-glo pan oedd ef yn fachgen ifanc.  Dechreuodd weithio yn y pwll glo, ac yno collodd ei lygad.  Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Hermon, gan y Parchg John Edwards, pan oedd tua 13 oed, a saith mlynedd yn ddiweddarach dechreuodd bregethu. Edrydd ei gofiannydd ei fod yn ‘llanc cryf a chwimwth ac yn gallu rhoi cyfrif da amdano’i hun mewn ystyr anianyddol’.  Pedair mlynedd yn ddiweddarach derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn Athrofa Pont-y-pŵl, ac yno fe’i profodd ei hun yn fyfyriwr ymroddedig a fwynhâi bregethu. Bu’n ffodus fod ei fam-eglwys yn barod i’w gynorthwyo i ddod o hyd i’r arian angenrheidiol i dalu ffïoedd y coleg.  Yn 1846 derbyniodd wahoddiad eglwys Cilfowyr yn Sir Benfro i fod yn weinidog iddi.  Bu’n gysurus yno hyd nes iddo ddigio rhai o’i aelodau mewn perthynas â phrynu tir i ddarparu mynwent. Digiwyd y teulu a roddodd lety iddo hefyd, ac fe’i gwnaed yn ddigartref  yn gwbl ddirybudd.  O fewn ychydig fisoedd gadawodd yr eglwys yng Ngogledd Penfro a derbyn gwahoddiad Eglwys Penuel, Caerfyrddin, a’i sefydlu yno ar Ionawr 11, 1850.

Chwe mlynedd yn ddiweddarach roedd y Parchg Nathaniel Thomas yn gadael am Gaerdydd, wedi gwneud enw da iddo’i hun yng Nghaerfyrddin, wedi iddo oruchwylio adeiladu ac agor capel newydd i’r gynulleidfa oedd yn cynyddu’n sylweddol, ac wedi iddo briodi  gwraig dduwiol o’r enw  Miss Laura Blagdon (1822‒1883). Roedd ei hanes hithau yn rhyfeddol gan iddi gael ei magu yn Boddington Manor, Sir Gaerloyw, a chael profiadau crefyddol arbennig a fu’n achos creu gwrthdaro rhyngddi hi a’i thad. Fe’i gorfodwyd i adael ei chartref ysblennydd, a mynd yng nghwmni ei mam a’i chwaer, i Cheltenham, cyn symud ymlaen wedyn i Gaerfyrddin.  Yno daeth i gyfarfod â Nathaniel Thomas.  Hi, ei mam a’i chwaer, oedd y cyntaf i’w bedyddio yn y capel wedi ei ail-agor. Ymhen naw mis wedi’r bedyddio roedd y ddau wedi syrthio mewn cariad, a phriodwyd hwy yng nghapel Penuel, a dyna ddechrau perthynas gariadlon rhwng dau enaid a oedd eisoes wedi ymroi i wasanaethu’r Arglwydd.   Cynhaliwyd Cyfarfodydd Sefydlu’r Parchg Nathaniel Thomas yn y Tabernacl Caerdydd ar Ionawr 1856, ac adroddir iddo weinyddu mewn oedfa fedydd dri mis yn ddiweddarach gan dywys pump o ferched ifanc yr eglwys drwy’r ordinhad. Ac o fewn y flwyddyn roedd wedi bedyddio yn agos i gant o gredinwyr.  Naw mlynedd yn ddiweddarach (Mai 1865) roedd y capel yn rhy fach, a phenderfynwyd bod angen codi capel mwy. Cytunodd y gynulleidfa i symud dros dro i’r Music Hall, nes y byddai’r adeilad newydd yn barod. Derbyniodd yr eglwys bod yn rhaid benthyg £3000 i adeiladu’r capel newydd. Dyma’r capel presennol ac mae’n adeilad ysblennydd yn eistedd 950 o bobl, gydag ystafelloedd ar ddau lawr i gynnal ystod eang o weithgareddau, ac yn arbennig waith addysgol yr ifanc. Er bod yr her yn fawr, mentrodd yr eglwys brynu darn o dir wrth ochr y capel am £150. Llongyferchir yr eglwys  yn Y Bedyddiwr Cymreig ar Fedi 23ain 1885 am iddi lwyddo i ddileu’r ddyled yn llwyr.

Yn y cofiant i’r Parchg Nathaniel Thomas dewisodd Thomas Morgan nodi cymeriad y gweinidog, a’i ganmol fel person a Christion, fel pregethwr a bugail, cyn trafod y dyn fel dirwestwr o argyhoeddiad ac fel gŵr a gyfrannodd i’w enwad. Roedd yn areithiwr cadarn ac yn weinyddwr medrus, ac ef oedd llywydd cyntaf Undeb Bedyddwyr Cymru, mewn cyfarfodydd a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ddiwedd Awst 1867.  Gwasanaethodd yr Undeb mewn sawl modd, ac yn Undeb Llangefni 1879 gwahoddwyd ef i fod yn Ysgrifennydd Mygedol. Cyfrannodd hefyd i fywyd Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, ac i Gymdeithas Gyfieithiadol y Beibl. Dyfynnir yn helaeth gan ei gofiannydd o anerchiad cadarn a draddodwyd ganddo yng nghyfarfodydd blynyddol y Gymdeithas honno yn 1866.

Bu’r Parchg Nathaniel Thomas yn amlwg hefyd yng Nghymanfa Morgannwg, cyn ei rhannu’n ddwy yn 1883. Gwasanaethodd mewn sawl swydd, gan eistedd yn y gadair yn ystod 1865 pan roedd y gynhadledd flynyddol yng Nghaersalem, Dowlais.

Cofir y Parchg Nathaniel Thomas yn gymeriad cyhoeddus dylanwadol, nid yn unig yn cyflwyno’r ddadl yn erbyn alcohol, ond yn hyrwyddo’r ddadl o blaid addysg. Yn 1864 ef a gychwynnodd ‘The Ministerial Institute for Mutual Improvement’.  Nod y gymdeithas honno oedd cynnig adnoddau darllen i’w gyd- Fedyddwyr a oedd yn byw o fewn deuddeng milltir i Bontypridd.  Rhoddodd gefnogaeth frwdfrydig i Gymdeithas y Deillion. Fel un a ofnodd golli ei olwg ei hun roedd ganddo gydymdeimlad â’r sawl nad oedd yn medru gweld.  Roedd yn llenor cynhyrchiol, gan gyflwyno llu o erthyglau, yn arbennig ar bynciau crefyddol a diwinyddol. Bu’n olygydd rhannol ar Seren Gomer, ac yn golygu’r Bedyddiwr cyn iddo yntau symud i Gaerdydd.

Ar gychwyn y bennod hon yn hanes yr eglwys, noda’r Parchg Charles Davies, yng nghyfrol y Canmlwyddiant, nad oedd holl aelodau’r eglwys o blaid y gweinidog newydd. Cyfeirir at sylwadau’r beirniaid, yn poeni iddo bregethu gormod am ddyletswyddau, ac yn ‘pregethu’n rhy galed’.  Honnir nad oedd yn ddigon Calfinaidd i fod wrth eu bodd. Adroddir iddo ateb bob cyhuddiad yn llwyddiannus mewn cwrdd penodol i drafod y gofidiau hyn.  Dywed yr awdur fod y Parchg Nathaniel Thomas yn ddisgyblwr llymach na’i ragflaenydd.  Un enghraifft a gynigir ganddo oedd i Mr Thomas, dirwestwr cadarn ei argyhoeddiad, lwyddo i gael yr eglwys i benderfynu na fyddai’r eglwys yn derbyn tafarnwyr yn aelodau i’r dyfodol, ond na fyddent yn dileu aelodaeth y tafarnwyr a oedd eisoes yn aelodau o’r eglwys.

Er mor helaeth fu cyfraniad y Parchg Nathaniel Thomas oddi allan i Gaerdydd, llywyddodd gydag awdurdod ar weithgareddau eglwys y Tabernacl, ac roedd yn dra awyddus i sefydlu eglwysi newydd a phlannu ysgolion Sul.  Roedd y ddinas yn tyfu’n gyson, a chofir fod ail borthladd Caerdydd wedi ei adeiladu rhwng 1853 a 1859. Cyfeiria Owen John Thomas at  y cynnydd ym mhoblogaeth dinas Caerdydd o 360% yn ystod cyfnod gweinidogaeth Nathaniel Thomas a bod cynnydd o 50% wedi bod yn nifer y Bedyddwyr ledled Cymru. Nodir yn yr erthygl honno hefyd fod aelodaeth y Tabernacl wedi gostwng i 510 yn ystod y weinidogaeth. Yn ei drafodaeth dywed yr awdur fod y Parchg Nathaniel Thomas wedi cefnogi deg o Fedyddwyr i ddechrau achos a arweiniodd ymhen y rhawg at gorffoli Eglwys Siloam, a agorwyd yn Sgwâr Mountstuart yn 1858.  Bu’n pregethu’n rheolaidd yno nes sefydlu’r Parchg Richard Richards yn 1860. Sefydlwyd achos Salem yn Sblot, adeilad nad oedd ymhell oddi wrth Ysbyty’r Infirmary, oddi ar Ffordd Casnewydd. Adeiladwyd yn agos i 80 o gapeli rhwng 1871 a 1911 yng Nghaerdydd, ond chwech yn unig ohonynt oedd yn addoli drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl Owen John Thomas, elfen arall oedd bod tuedd i deuluoedd y Tabernacl fagu eu plant yn Saesneg, a bu hynny’n achos i rif Cymry Cymraeg ostwng yng Nghaerdydd. Aeth llyfrau’r eglwys am y cyfnod cyn 1895 ar goll, ond tybir bod trwch aelodaeth y Tabernacl yn byw yn Nhre-biwt, ond wrth i’r dref ddechrau ymledu i’r gogledd, fodd bynnag, gostyngodd y niferoedd a drigai yno.

Rhoddai’r gweinidog a’r eglwys bwyslais amlwg ar waith yr Ysgol Sul, ac roedd ganddo ddiddordeb byw yn yr ifanc. Yn y cofiant iddo cynhwysir braslun o’i anerchiad ger bron y Cardiff Ministerial Union yn 1871 yn trafod pwysigrwydd hyfforddiant i blant yn yr eglwys, ac iddo gynnal dosbarth Beiblaidd i’r ifanc  am yn agos i 30 mlynedd.  Dywedir iddo fedyddio llawer o aelodau’r dosbarth dros y blynyddoedd ac i’r aelodau gynnwys pobl a ddaeth yn aelodau blaenllaw mewn cymdeithas fel Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd wedi hynny) a Benjamin Lewis, ac yn weinidogion megis y Parchg J. Griffiths, Ystrad Rhondda, B.O. John, D.R. Jenkins, Pont-y-pŵl, John Howell, W. Thomas, Llundain, a John Evans. Bedyddiodd Nathaniel Thomas dros 600 o gredinwyr, sy’n gyfartaledd o ugain y flwyddyn. Dywedir yn yr un bennod iddo draddodi pregeth Saesneg ar nos Fercher i’r bobl ifanc, ac am gyfnod byr arferai ddefnyddio Saesneg ym mhregeth y bore, nes i’r diaconiaid farnu fod hynny yn ‘niweidiol i’r oedfa foreol’. Cyfeirir at y drafodaeth mewn Cwrdd Eglwys ar Fawrth 16eg 1879 i wyntyllu’r cwestiwn hwnnw yng nghofiant y Parchg Nathaniel Thomas.

Bu gweinidogaeth y Parchg Nathaniel Thomas yn gyfnod maith a welodd gadarnhau’r Tabernacl fel eglwys o ddylanwad oddi mewn i Gymanfa Morgannwg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn nhref  Caerdydd. Roedd yr adeilad yn  un urddasol ac yn hawlio sylw, ac roedd y weinidogaeth a’r aelodaeth yn sefyll yn gadarn dros gredo ac egwyddorion creiddiol y ffydd Gristnogol. Bu’r Parchg Nathaniel Thomas yn egnïol a thrylwyr ym mhob dim a wnaeth. Dyma oedd diwedd cyfnod yr ymestyn a’r cynnydd dramatig yn hanes yr eglwys, a dechrau’r weinidogaeth o drefn addysgol i waith y Tabernacl. Mae’n siŵr ei fod ef ei hun yn wrthgyferbyniad amlwg gyda anwyldeb ei ragflaenydd a sancteiddrwydd ei olynydd, er prin y byddai unrhyw un yn mentro amau ei dduwioldeb ymroddedig ei hun.  Wrth i’r eglwys weld mwy o wŷr busnes yn dod yn aelodau, a chanran llai o forwynion siopau a chartrefi, roedd awyrgylch yr eglwys yn troi mwy at y dosbarth canol.    Byddai cyfeiriadau’r aelodau’n dangos eu bod yn ymestyn allan o Drebiwt, ac yn ymsefydlu fwyfwy i’r gogledd o’r brif reilffordd a wasanaethai Caerdydd.

Ceir un digwyddiad sy’n mynnu sylw fel atodiad i’r bennod hon, sef hanes yr Iddewes ifanc.  Daeth Esther Lyons, merch tua 18 oed, i fyw yn Sgwâr Mount Stuart rhywbryd yn 1868.  Derbyniodd Iesu i’w chalon, a throi at y ffydd Gristnogol.  Bu hyn yn achos i’w rhieni ei thrin mewn ffordd a barodd iddi adael ei chartref a cherdded i gyfeiriad aelwyd gweinidog y Tabernacl a’i briod. Dywedir iddynt geisio ei pherswadio i ddychwelyd adref, ond ni allai gan na fyddai croeso iddi yno. Cafodd aros dros nos ar aelwyd y gweinidog, a phan wrthododd y ferch ddychwelyd i dŷ ei rhieni cyflwynwyd hi i ysgol breifat yng Nghaerdydd.  Bu cryn sylw yn y wasg ac atebodd y Parchg Nathaniel Thomas y cyhuddiadau mewn llythyr sylweddol yn y Cardiff and Merthyr Guardian ar Awst 11 1868. Yn dilyn hyn, bu achos yn erbyn y Parchg Nathaniel Thomas a’i briod, yn eu cyhuddo o geisio denu’r ferch i adael cartref, ac felly yn peri colled ariannol i’r tad.  Dyfarnwyd hwy yn euog ar Orffennaf 26ain 1969. Cynigiodd y gweinidog ei ymddiswyddiad i’r eglwys, ond ni chafodd ei dderbyn. Bu achos apêl yn Llundain ym Mehefin 1870 ac fe wrthodwyd dyfarniad llys Caerdydd.  Roedd yr achos wedi costio £800 i’r Parchg Nathaniel Thomas, ond ni fu’n rhaid iddo dalu’r achos ei hun. Yn y Cofiant, dangosodd y gefnogaeth a gafodd gweinidog y Tabernacl fesur y parch a deimlwyd tuag ato gan yr eglwys, Cymanfa Morgannwg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.

T. Morgan,

Cofiant y Parch. Nathaniel Thomas, Caerdydd (Llangollen, 1900)

Hanes y Tabernacl, Caerdydd, Gwasg Gomer, 2013